23 Chwef 2017

Cylchlythyr yr Ardd – Chwefror 23

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Croeso i gylchlythyr diweddara’r Ardd, os hoffech ei dderbyn yn syth i’ch cyfeiriad e-bost, cofrestrwch yma.

Gweler y cylchlythyr llawn yma.

Dathlu Dydd Gŵyl Dewi

I gloi ein hwythnos o weithgareddau’r hanner tymor, bydd yna Ddiwrnod o Ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ar Ddydd Sul Chwefror 26ain, mewn anrhydedd i’n nawddsant.

Bydd yna ddigon o fwyd, diod a chrefftau gan gynhyrchwyr lleol yn ein Ffair Fwyd a Chrefft Gymreig, yn Nhŷ Gwydr Mawr syfrdanol yr Arglwydd Foster, yn ogystal â rhaglen o gerddoriaeth gan gorau a chanwyr lleol a dawnsio traddodiadol Cymreig.

Bydd mynediad i’r Diwrnod o Ddathlu hwn AM DDIM i bawb, felly ymunwch â ni am ddathliad cynnar o’n nawddsant.

A pheidiwch ag anghofio, o heddiw hyd at Ddydd Sul, mae gweithgareddau hanner tymor yr Ardd ymlaen yn ddyddiol, lle rydym yn syllu ar y sêr gyda thelesgopau a gweithgareddau seryddiaeth eraill yn ogystal â gweithdai o wneud rocedi.  Cewch hefyd y cyfle i greu magnel eich hun ac i ddarganfod pam yw Castell Dryslwyn yn ei chyflwr presennol.

Mae’r Ardd ar agor o 10yb hyd at 4:30yp pob dydd o’r hanner tymor a fydd y gweithgareddau a gweithdai wedi’u cynnwys ym mhris mynediad yr Ardd.

Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad hwn, neu unrhyw ddigwyddiad arall, ffoniwch 01558 667149 neu e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk

 

Dydd Gŵyl Dewi

Yn dilyn Diwrnod o Ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ar Chwefror 26ain, mi fydd yr Ardd hefyd yn dathlu’n nawddsant ar Fawrth 1af gyda mynediad AM DDIM a cherddoriaeth.

Pa well ffordd o ddathlu’n nawddsant nag ymweliad i’r Ardd Fotaneg Genedlaethol?  Dewch i ymweld y tŷ gwydr un rhychwant mwyaf y byd, ein Plas Pilipala newydd neu ewch am dro ar hyd ein cadwyn o lynnoedd.

Bydd Mawrth 1af hefyd yn golygu’r dechrau o Fis Cennin Pedr yr Ardd, dyma’r mis i fwynhau pob math o gennin Pedr – mae miloedd ohonynt i’w gweld yma!  Bydd yna lwybr ar gael i’w gasglu o’r Porthdy i’ch helpu adnabod y wahanol fathau.

Gan fod Dydd Gŵyl Dewi ar Ddydd Mercher eleni, mi fydd hi’n Fercher Mwdlyd Cymraeg iawn yn yr Ardd!  Mae Mercher Mwdlyd yn cynnwys awr o hwyl a sbri i blant dan oed ysgol, ac yn gyfle arbennig i rieni fynd â’u plantos yn agos at natur yn y dŵr a’r mwd – byth bynnag fo’r tywydd!

Mae’r gweithgareddau yn dechrau o’r Porthdy a fydd mynediad am ddim ar y diwrnod hwn.  Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Adran Addysg ar 01558 667150.

 

Diwrnod i Chi a’r Ci

Bydd y Dydd Llun sydd ar ddod yn gweld yr Ardd yn croesawu ymwelwyr a’u cŵn unwaith eto.

Yn dilyn galw mawr, mae dyddiadau arbennig wedi’u neilltuo yng nghalendr perchnogion cŵn ar gyfer Penwythnosau i Chi a’r Ci yn yr Ardd.

Peidiwch ag anghofio, trwy gydol tymor y gaeaf – mae pob Dydd Llun yn Ddiwrnod i Chi a’r Ci!

Gweler rhestr llawn o reolau y Diwrnodau i Chi a’r Ci yma.  Caiff cŵn mynediad i siop goffi Y Pot Blodyn, ger prif fynedfa’r Ardd, Bwyty’r Tymhorau, y Siop Roddion ac ar brif gyntedd y Tŷ Gwydr Mawr.

Ni chaniateir cŵn ar lwybrau mewnol y Tŷ Gwydr Mawr, tu fewn i Blas Pilipala, na’r maes chwarae i blant chwaith.