Croeso i gylchlythyr diweddara’r Ardd os hoffech ei dderbyn yn syth i’ch cyfeiriad e-bost, cofrestrwch yma.
Gweler y cylchlythyr llawn yma.
Hwyl yr Hanner Tymor
Mae’r Ardd ar agor o 10yb hyd at 4:30yp pob dydd o’r hanner tymor a fydd y gweithgareddau a gweithdai wedi’u cynnwys ym mhris mynediad yr Ardd.
Mae mynediad AM DDIM i aelodau’r Ardd a pharcio AM DDIM i bawb.
Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad yma, neu unrhyw ddigwyddiad arall, ffoniwch 01558 667149 neu e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk
Dathlu Dydd Gŵyl Dewi
Felly, gyda mynediad AM DDIM a rhaglen ardderchog o gerddoriaeth a bwyd a chrefft Gymreig, yr Ardd fydd y lleoliad perffaith i ddathlu’n nawddsant.
Peidiwch ag anghofio, bydd mynediad hefyd AM DDIM ar Ddydd Gŵyl Dewi!
Diwrnod i Chi a’r Ci
Bydd y Dydd Llun sydd ar ddod yn gweld yr Ardd yn croesawu ymwelwyr a’u cŵn unwaith eto.
Yn dilyn galw mawr, mae dyddiadau arbennig wedi’u neilltuo yng nghalendr perchnogion cŵn ar gyfer Penwythnosau i Chi a’r Ci yn yr Ardd.
Peidiwch ag anghofio, trwy gydol tymor y gaeaf – mae pob Dydd Llun yn Ddiwrnod i Chi a’r Ci!
Gweler rhestr llawn o reolau y Diwrnodau i Chi a’r Ci yma. Caiff cŵn mynediad i siop goffi Y Pot Blodyn, ger prif fynedfa’r Ardd, Bwyty’r Tymhorau, y Siop Roddion ac ar brif gyntedd y Tŷ Gwydr Mawr.
Ni chaniateir cŵn ar lwybrau mewnol y Tŷ Gwydr Mawr, tu fewn i Blas Pilipala, na’r maes chwarae i blant chwaith.
Siop Lyfrau Ail Law’r Ardd
Mae Siop Lyfrau’r Ardd yn parhau i ffynnu, ac rydym yn werthfawrogol iawn o’r rhoddion o lyfrau dros y misoedd diweddar o’n haelodau a gwirfoddolwyr cefnogol. Cafodd dros £700 ei godi yn ystod mis Ionawr, yn rhagori’r cyfanswm o fis Ionawr 2016.
Rydym yn croesawu llyfrau o ansawdd da, clawr papur a llyfrau modern mewn cyflwr da ar amrywiaeth o bynciau. Mae llyfrau yn yr iaith Gymraeg yn gwerthu’n dda ac mae yna alw amdanynt.
Mae gwirfoddolwyr y siop lyfrau yn diweddaru’r silffoedd yn aml gyda’r cyflenwad arbennig o lyfrau newydd sy’n dod i mewn, ac yn gweithio’n galed i ddarparu siop lyfrau cymunedol i bawb i fwynhau. Ni allwn roi digon o ddiolch i’n haelodau, ymwelwyr a gwirfoddolwyr am gefnogi un o brosiectau sy’n codi arian mwyaf poblogaidd yr Ardd. Mae’r Siop Lyfrau yn agos i brif fynedfa’r Ardd (Y Porthdy), ger y safle bws.