25 Awst 2017

Cylchlythyr yr Ardd – Awst 23

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Croeso i gylchlythyr diweddara’r Ardd, os hoffech ei dderbyn yn syth i’ch cyfeiriad e-bost, cofrestrwch yma.

Gweler y cylchlythyr llawn yma.

Ciryl yr Alarch yn serennu yn yr Ardd

Bydd Cyril yr Alarch yn serennu dros Ŵyl Banc Mis Awst yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Bydd masgot poblogaidd Clwb Dinas Abertawe yn agor agoriad swyddogol Sioe 2017 y Gymdeithas Ceidwaid Koi Gorllewin Cymru, a gynhelir yn yr atyniad yn Sir Gaerfyrddin am yr ail flwyddyn yn olynol.

Dywedodd y cadeirydd, Cliff Beckett: “Mae Cyril yn gefnogwr mawr i’r Elyrch, ond hefyd yn hoff iawn o Koi – fe yw’n aelod mwyaf poblogaidd, hefyd.”

Anogodd Cliff i bawb (nid ond cefnogwyr yr Elyrch) i ymweld â’r Ardd yr ŵyl banc hon i weld y sioe koi, meddai: “Dewch draw i weld yr harddwch o’r pysgod arbennig hyn – bydd mwy na 100 ohonynt.  Bydd aelodau’r clwb wrth law i ateb unrhyw gwestiynau fydd gennych ac mae croeso cynnes yn aros i chi.”

Mae’r sioe koi ond yn rhan o’r hwyl wych i’r teulu sydd ar gael yn yr Ardd dros ŵyl y banc.

Yn ogystal â choroni’r Pencampwr Koi Cymru, mae yna hefyd hud, modelu balwnau, sorbio dŵr, y ddrysfa wellt, pilipalod trofannol, arddangosfeydd hedfan adar ysglyfaethus a’r Gemau Olympaidd Llysiau’r Ardd Fotaneg boblogaidd.

Caiff teuluoedd eu herio unwaith eto gan ddigwyddiadau megis gwaywffon riwbob, pytio’r swedsen, taflu tatws ac welingtons.  Y mwyaf cyflym, uwch, a chryfach yr ydych, y mwyaf tebygol y byddwch chi i ennill un o dorchau enillwyr yr Ardd.

Mae’n werth cofio hefyd y bydd unrhyw un sy’n prydu tocyn pris llawn i’r Ardd rhwng nawr a diwedd y flwyddyn gallu ail-ymweld yn RHAD AC AM DDIM am y saith diwrnod cychwynnol o’u hymweliad cyntaf – a chynifer o weithiau y hoffent yn y saith diwrnod hynny.

Mae’r Ardd ar agor o 10yb hyd at 6yh, gyda’r mynediad diwethaf am 5yh.

Mae mynediad i’r Ardd yn £10.50 (gan gynnwys Cymorth Rhodd) i oedolion a £4.95 i blant dros pum mlwydd oed.  Mae mynediad AM DDIM i aelodau’r Ardd a pharcio am ddim i bawb.

Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad hwn, neu unrhyw ddigwyddiad arall, ffoniwch 01558 667149, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk neu ewch ihttps://garddfotaneg.cymru/

* Mae’r digwyddiad ‘Jurassic Park Dan y Sêr’ eisoes wedi gwerthu allan

 

Gŵyl Tegeirianau

Oes angen cymorth arnoch chi gyda’ch tegeirianau?  Os oes, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yw’r lle i fynd ar Ddydd Sadwrn a Dydd Sul, Medi 2-3.

Yn y 10fed Gŵyl Tegeirianau blynyddol yn yr atyniad, wedi’i lleoli yn Sir Gaerfyrddin, bydd yna sgyrsiau ac awgrymiadau i bawb, o ddechreuwyr i arbenigwyr; bydd Archie Smith, glaslanc sy’n tyfu tegeirianau yn rhoi sgwrs o’r enw ‘Bulbophyllum – caru neu’n casáu?’; bydd yna arddangosiad o ailosod a mowntio; a ‘Sut i greu coeden ardyfwr tegeirian eich hun’.

Wedi’i drefnu gan y Grŵp Astudiaethau Tegeirianau, dan gadeiryddiaeth y botanegydd, Dr Kevin Davies, mae gan yr ŵyl rywbeth i bawb.

 

Diwrnod Hwyl i’r Teulu Menter Cwm Gwendraeth

Diwrnod arbennig yn llawn sbort a sbri i bawb yn y teulu, wedi ei drefnu gan Fenter Cwm Gwendraeth, ar Ddydd Sadwrn yr 2ail o fis Medi.

Rhaid i docynnau cael eu harchebu o flaen llaw o’r Fenter – £5 i oedolion, £3 i blant dan 16 mlwydd oed – ffoniwch 01269 871600 os gwelwch yn dda.

 

Aelodau, Dewch â Ffrind – Am Ddim

Cofiwch mai Mis Medi yw’r mis y gall aelodau dod â ffrind am ddim i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Trwy gydol y mis, bydd eich cerdyn aelodaeth yn caniatáu mynediad i un person ychwanegol – bob dydd o fis Medi.

Ac mae digon i’w weld a’i wneud yn ystod y mis arbennig hwn.

Mae’r 10fed Gŵyl Tegeirianau blynyddol (2ail a 3ydd); Teithiau Tywys o’r Tŷ Gwydr Mawr gyda’n tywysydd gwirfoddol, Derek Caldwell, am 11yb, 12:30 a 2yp – bob Dydd Mawrth; ar y 9fed a’r 10fed, bydd y Gymdeithas Lysiau Cenedlaethol yn cynnal ei Phencampwriaeth Cymru, a Grŵp De Cymru o’rGymdeithas Eurflodau Cenedlaethol yn cynnal ei Sioe Eurflodau Blynyddol; a fydd gŵyl Wyddoniaeth, Byd Natur a Chomedi cyntaf y byd ar y 16eg a’r 17eg.

Am fwy o wybodaeth ar sut i ddod yn aelod o’r Ardd Fotaneg Genedlaethol ffoniwch Jane ar 01558 667118 neu e-bostiwchmembership@gardenofwales.org.uk

 

Y Ganolfan Adar Ysglyfaethus Prydeinig

Mae yna brofiadau anhygoel i’w chael BOB dydd yn atyniad newydd sbon yr Ardd Fotaneg Genedlaethol – Y Ganolfan Adar Ysglyfaethus Prydeinig – gydag arddangosfeydd hedfan dyddiol am 11:30yb a 2:30yp!

Mae yna dâl ychwanegol o £3 i’r Ganolfan, a gallwch fwynhau arddangosfeydd hedfan gan Gudyll Bach, Barcudiaid Coch, ac Angus, yr Eryr Môr Torwyn!