17 Maw 2016

Croeso i’r Genhedlaeth Nesaf o Borwyr

Bruce Langridge

Rwyf newydd fod draw i weld yr wyna ar ein GNG Waun Las.

Yn helpu ein ffarmwr, Huw, oedd disgyblion o Ysgol Bro Dinefwr sy’n astudio cwrs Lefel 2 mewn Amaethyddiaeth yng Ngholeg Sir Gâr. Mae hyn yn brofiad arbennig i’r plant ac maent yn helpu ychydig i leihau’r gwaith i Huw, sydd heb gael llawer o gwsg dros yr wythnos diwethaf o wyna. Mae wedi bod yn flwyddyn helaeth am ŵyn, efo tua 300 cyn belled â thua 80 arall i’w ddisgwyl, mwy nag yr ydym wedi gorfod delio â nag o’r blaen.

Mae’r cynyddiad yma o ganlyniad i’r bartneriaeth efo campws Gelli Aur Coleg Sir Gâr.  Mae’r coleg amaethyddol yma yn ein helpu i wella ochr masnachol y fferm organig heb amharu ar ein rheolaeth o’n caeau sy’n gyfoethog yn rhywogaethau.  Gall unrhywun sydd wedi blasu’r cig eidion neu gig oen o Waun Las ddweud wrthych chi pa mor flasus a faethlon ydyw, ac rydym yn awyddus i gynhyrchu rhagor er mwyn cwrdd â’r galw cynyddol.

Mae pori ar yr amser a’r lefelau cywir yn gallu helpu gwella’r amrywiaeth blodeuol yn ein caeau yn fawr iawn.  Felly tra roeddwn ar y fferm, fe wnes i fynd am dro efo Mark Needham, darlithydd yng Ngelli Aur.  Mae Mark yn awyddus i gynnal arbrofion ar Waun Las i edrych ar y trawiad ar ein blodau gwyllt o ganlyniad i lefelau pori.  Fe aethom i Gae Derwen a Chae Waun, dwy waun sydd ar ochr ddeheuol y warchodfa natur sydd wedi cael gwelliant yn raddol dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae hefyd gan Mark diddordeb yn mesur yr effaith o wrtaith a gynhyrchiwyd o’r gwellt a gasglwyd ar Gae Tegeirianau haf diwethaf.  Mae’r gwrtaith yma i fod i gael ei gwasgari ar y caeau sydd wedi cael eu pori’n drylwyr, Cae Circus, er mwyn gwella’r ffrwythlondeb a chynhyrchiad y gwair.  Nid ydym wedi ceisio hyn o’r blaen ac nid ydym yn sicr o’i effaith.  Rhown wybod i chi yn hwyrach yn y flwyddyn.