Great Glasshouse tribute to Nigel Curry

Coffheir un o’r unigolion allweddol y tu ôl i un o adeliadau mwyaf eiconig Cymru yn Sir Gaerfyrddin y Dydd Sadwrn hwn ar Fehefin 1af

Dathlir bywyd Nigel Curry, y pensaer prosiect hynod ddawnus a gynlluniodd y Tŷ Gwydr Mawr syfrdanol yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, trwy ddadorchuddio mainc marmor er cof amdano.

Mae’r fainc wedi’i lleoli yn y Tŷ Gwydr Mawr, ac mae hi wedi’i cherfio a’i harysgrifo, a’i siâp wedi’i ysbrydoli gan yr adeilad hemisfferig ei hun.  Fe’i cynlluniwyd gan ei gydweithiwr, Narinder Sagoo, a’i cherfio gan y cerflunydd lleol, Darren Yeadon, a’i hariannu gan gylch eang ei ffrindiau a’i deulu.   Mae ei maint a’i harwynebedd gwastad, sy’n cyfateb yn union i daldra Nigel, sef 6 troedfedd 3 modfedd, wedi’u cynlllunio i ganiatáu i ymwelwyr nid yn unig i eistedd a mwynhau golygon ac arogleuon y parthau hinsawdd Canoldirol ar draws y byd, ond hefyd i orwedd yn ôl a syllu ar y to gwydr cromennog a’r ffurfafen y tu hwnt iddo.

Bu farw Nigel, a weithiai gynt i bractis yr Arglwydd (Norman) Foster, Foster a’i Bartneriaid, yn hwyr y llynedd ar ôl byw gyda chancr am sawl blwyddyn, yn 48 mlwydd oed.  Er ei fod e’n ddiweddarach wedi gweithio ar brosiectau rhyngwladol bwysig eraill, roedd lle arbennig ganddo yn ei galon o hyd am y ‘deigryn ar y tirwedd’ yn yr Ardd – cymaint felly fel bod priodas Nigel â Helen yn 2006 yr un gyntaf i’w chynnal ynddo.

Meddai Helen, gwraig Nigel, am yr achlysur:  “Roedd priodi Nigel yn y Tŷ Gwydr Mawr wedi gwneud y diwrnod yn un arbennig iawn,  a rhoi cefndir trawiadol a gwefreiddiol i luniau’n priodas.”

Ychwanegodd Narinder Sagoo, un o bartneriaid oster a’i Bartneriaid, ar ran y Bartneriaieth honno:  “Mae coffháu Nigel trwy gyfrwng creu gwaith celf unigryw ac ymarferol y gall pobl ei fwynhau am genedlaethau i ddod, yn ffordd bwysig o dalu teyrnged i’r sgiliau nodedig a ddefnyddiodd Nigel i ymgodymu â her mor fawr â chynllunio’r Tŷ Gwydr Mawr.   Mae siâp pur y fainc a’i manylder yn deyrnged i briodoleddau arbennig Nigel fel pensaer a pherson.  Gwelir ei eisiau yn fawr iawn, ac mae’r lleoliad hwn yn fan addas i goffháu ei orchestion.”

Meddai Cyfarwyddwraig Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Dr Rosie Plummer:  “Ry’n ni’n falch dros ben o gael yr adeilad hynod a rhyfeddol hwn, sy’n enwog yn rhyngwladol, yn yr Ardd.  Mae hi’n esiampl o saernïaeth penigamp, ac yn un o ryfeddodau modern Cymru.”

Meddai’r cerflunydd Darren Yeadon:  “Daeth y darn cain o farmor hwn o Carrera, o’r un chwarel a ddefnyddiwyd gan Michelangelo.  Mae e ychydig yn fwy trwchus a lliwgar, ac yn gryfach, na marmorau eraill o’r un ardal.  Mae e’n cynnwys rhai mwynau sy’n peri iddo ddisgleirio a phefrio mewn heulwen.  Anamal iawn y daw blociau o’r natur a’r maint hwn i’r wlad hon.  Mae’r pwysau gorffenedig ychydig yn llai na dwy dunnell fetrig.”