Badge of honour

Dyfarnwyd statws Bathodyn Atyniad Blue Peter i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Golyga’r anrhydedd hwn bod yr Ardd yn ymuno ag atyniadau eraill sydd wedi ennill y wobr hon, ac yn rhoi’r hawl i bawb sy’n ddeiliaid bathodyn i gael mynediad am ddim i’r Ardd.

Meddai Pennaeth Marchnata’r Ardd, David Hardy:  “Mae Bathodyn Blue Peter wedi bod yn ddyfarniad eiconig ar hyd y cenedlaethau, felly mae’n anrhydedd mawr inni ei dderbyn.  Gobeithiwn y gallwn gyfrannu at yr ysbryd o greadigrwydd ac archwilio y mae’r rhaglen hon wedi bod yn nodweddiadol ohono am fwy na hanner canrif.”

Dyfernir bathodyn Blue Peter i’r rhai hynny sy’n ymddangos ar y sioe CBBC, neu mewn cydnabyddiaeth o gyflawniad arbennig.  Rhaid i ymgeiswyr fod rhwng 6 a 15 mlwydd oed.

Am restr lawn o Fathodynnau Atyniad Blue Peter, ewch i http://www.bbc.co.uk/cbbc/directories/blue-peter-badge-attractions

Am fwy o wybodaeth am yr Ardd, ei newyddion a’i digwyddiadau e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk, neu galwch 01558 667149.