Gwyddoniaeth a chymdeithas

Ein bwriad yw cyfathrebu’n effeithiol, addysgu a chydweithio ag amrediad eang o bobl.

Mae gennym ymroddiad i hyfforddi ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr planhigion, a sicrhau nad ydym yn colli ymchwilwyr profiadol sydd â sgiliau gwerthfawr.

Mae gennym arddangosiadau yn yr Ardd sy’n ymwneud yn agos â’n gwaith ymchwil; mae’r ardal Cadw Planhigion Cymreig a’r Ardd Wenyn, yn ganlyniad ac yn gefndir i’n gwaith. Ry’n ni’n mynychu digwyddiadau a rhoi sgyrsiau i grwpiau, ac yn y blynyddoedd diweddar ry’n ni wedi mynychu’r Sioe Frenhinol, yr Eisteddfod Genedlaethol, a digwyddiadau eraill er mwyn dangos ein gwaith ymchwil gwyddonol. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn cysylltu celf a gwyddoniaeth.