Yr Ardd Glogfeini

Ardal deras aromatig sy’n frith o glogfeini a sgri

Mae cysylltiad agos rhwng y planhigion yng Ngardd y Clogwyni a’r thema Canoldirol yn y Tŷ Gwydr Mawr. Ond y tu allan, heb gysgod o gwbl, mae’r planhigion hyn yn agored i hinsawdd oer, laith Cymru, a byddent fel arfer yn ymladd i oroesi. Felly, bu’n rhaid i’r garddwyr fod yn ddyfeisgar iawn.

Ychwanegwyd llawer o gerrig at y pridd i helpu’r dŵr i basio trwyddo’n gyflym, gan ostwng y siawns o ddifrod yn ystod y gaeaf. Mae hyn yn helpu atal difrod rhew i rywogaethau o blanhigion bylbiog sy’n frodorol i dde Ewrop, fel bara’r hwch, saffrwm a saffrwm y ddôl.

Mae’r llethrau heulog sy’n wynebu’r de yn addas i brysglwyni fel rhosyn y graig a’r ferywen, tra bod yn well gan grafanc-yr-arth a’r llaethlys gysgod.