5 Ion 2023

Dyddiadur Coed y Gwirfoddolwyr Cadwraeth

Bruce Langridge

Sut y dylem fonitro newidiadau i’n hinsawdd ac i’n coed?

Taenlenni, cofnodyddion data, meddalwedd uwch-dechnoleg? Dyna un ffordd.

Ond mae ein Gwirfoddolwyr Cadwraeth, sy’n cynnwys yn bennaf unigolion sydd wedi ymddeol ac sy’n rhannu cariad at natur, wedi defnyddio dull amgen.

Maent wedi creu Dyddiadur Coed. Ers dechrau 2019, maent wedi bod yn cwrdd bob dydd Mawrth ac, ymhlith llu o weithgareddau eraill, maent yn ymweld â’r 16 o rywogaethau coed y maent wedi dewis eu monitro. Mae’r coed wedi’u gwasgaru ledled yr Ardd Fotaneg a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las, ac mae’r gwirfoddolwyr yn gwneud nodyn o’r gwyddau bach (catkins) sy’n ffurfio, pryd y mae’r dail cyntaf yn agor, yr amseroedd blodeuo ac, yn yr hydref, pryd y mae’r dail yn cwympo. Rhwng yr adegau hyn, maent yn nodi’r pryfed, yr adar neu’r mamaliaid y deuant ar eu traws ar y goeden, y ffyngau sydd naill ai ar y goeden neu wedi’u rhwymo wrthi, y cen, neu iechyd cyffredinol y goeden.

Cymerwch olwg trwy’r dyddiadur hwn ar gyfer 2019.

Byddwch yn gweld ei fod wedi’i ysgrifennu’n ddestlus â llaw gan Marie Evans, cydlynydd yr arolygon coed. Mae wedi trefnu’r dyddiadur yn ôl trefn pob un o’r coed y mae’r grŵp wedi gwneud arolwg arni, gan ddechrau gyda ffawydden aeddfed ar dir pori gwlyb yn Waun Las, pisgwydden yn yr Coedfa, a helygen wedi’i gorchuddio â chen prin, a chan orffen gyda’r ffawydden goprog a’r onnen ar y lawnt wrth ymyl Sgwâr y Mileniwm. Byddwch hefyd yn gweld y gwirfoddolwyr sy’n gwneud yr arsylwadau hyn, ynghyd â darluniau natur cain Frances Payne. Aeth y cyd-wirfoddolwr Gary Beard ati i sganio’r dyddiadur i ganiatáu i eraill bori’n hamddenol trwy bob cofnod, a daw llawer o’r lluniau o gamerâu ffansi John James a Peter Williams.

Wrth i 2022 ddirwyn i ben, mae’r gwirfoddolwyr bellach wedi cwblhau pedair blynedd o arsylwi, a hynny er gwaethaf ymyriad cyfyngiadau COVID yn 2020. Yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf yn unig, maent wedi nodi gwahaniaethau mawr yn yr amseroedd pan fo’r dail yn agor ac yn cwympo, dirywiad castanwydden bêr hen iawn, ymddangosiad ffyngau cap marwol wrth ymyl y fedwen arian am y tro cyntaf, ffrwydrad o fes ar y coed derw, iorwg yn tyfu i fyny castanwydden y meirch, a brwydr y goeden onnen i oroesi ymosodiad ffwngaidd.

Efallai nad yw’r arsylwadau hyn yn wyddonol drylwyr, ond maent yn rhoi darlun diddorol iawn o gymeriad pob coeden, sy’n newid yn raddol, ac a fydd, fel gwin da, yn cynyddu o ran gwerth wrth i’r blynyddoedd fynd heibio. Dychmygwch edrych ar un o’r coed hyn ymhen 50 mlynedd, a chymharu’r hyn a welwch â’r hyn sy’n bodoli ‘nawr.

Bydd pob un o’r dyddiaduron coed yn cael ei gadw’n ddiogel yn y llyfrgell yng Nghanolfan Wyddoniaeth yr Ardd. Byddwn yn cynhyrchu ffilmiau byr tebyg o bob dyddiadur yn y flwyddyn newydd.