29 Ion 2018

Cyflwyniad ymchwilydd PhD newydd, Abigail Lowe!

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Mae’n bleser fod nôl yn gweithio yn yr adran gwyddoniaeth, ar ôl graddio o Brifysgol Southampton gyda gradd yn Fioleg. Dechreuais i fy PhD KESS II gyda Prifysgol Bangor ym mis Rhagfyr y llynedd, felly dyma gyflwyniad o fy mhrosiect a chyflwyniad ohonof i, i rai sydd ddim yn fy adnabod!

Gwnes i ddechrau weithio gyda’r Ardd yn 2011 gyda phrofiad gwaith yn yr haf tra yn y chweched dosbarth. Ges i brofiad mor dda a dysgais lawer felly penderfynais ddychwelyd yn haf 2013 ar ddiwedd fy mlwyddyn gyntaf o brifysgol, ac wedyn derbyn swydd fel myfyriwr gwyddoniaeth am flwyddyn gyfan rhwng fy ail a thrydedd flwyddyn o astudio.  Pan ddaeth cyfle i barhau fy astudiaethau a gwneud PhD yn yr Ardd, nes i neidio ar y cyfle!

Yn ystod fy amser fel myfyriwr gwyddoniaeth, o’n i’n rhan o’r tîm wnaeth ddechrau ymchwilio pa flodau mae gwenyn mêl yn defnyddio am fwyd gan ddefnyddio codio-bar DNA. Dangoswyd y canlyniadau dechreuol fod gwenyn mêl yr ardd dim ond yn defnyddio 11% o blanhigion sydd ar gael iddyn nhw yn Ebrill a Mai. Gan astudio’r paill maent yn eu cario, darganfuwyd eu bod yn dibynnu ar ychydig o rywogaethau o’r gwrych er enghraifft helyg, draenen wen, derwen ag dant y llew ond yn atodi gyda phlanhigion gardd fel CotoneasterHelleborus a bylbiau sy’n blodeuo yn y gwanwyn er enghraifft clychau’r gog a thiwlipau.

Bydd fy mhrosiect PhD yn ehangu’r gwaith ar wenyn mêl i beillwyr gwyllt, llai adnabyddus. Mae mwyafrif o bobl yn gyfarwydd gyda gwenyn mêl a chacwn, ond ychydig sy’n ymwybodol eu bod yn cynrychioli ond 10% o rywogaethau wenyn yn y D.U.  Mae gennym dros 270 rhywogaeth o wenyn yma ond dim ond un fath o wenyn mêl, y gwenyn mêl Ewropeaidd (Apis mellifera) a 24 fath o gacwn (Bombus). Y gweddill yw grŵp anghyfarwydd sef gwenyn unigol, sy’n cynnwys gwenyn torri dail (Megachile), gwenyn turio (Andrena), saerwenynen (Osmia) a llawer mwy. Mae’r grŵp hon yn cael ychydig o sylw, gyda’r rhan fwyaf o astudiaethau yn canolbwyntio ar wenyn mêl a chacwn. Grŵp arall o beillwyr sydd hyd yn oed yn fwy anghyfarwydd yw pryfed hofran, sy’n gallu edrych yn debyg i wenyn a phicwn, ond mewn gwirionedd maent yn hollol wahanol.

Byddwch chi’n ymwybodol fod peillwyr o dan fygwth, gyda phoblogaethau yn gostwng dros y byd. Mae angen ein help ni arnynt!  Trwy ddarganfod fwy amdano peillwyr gwyllt, gallwn gadw poblogaethau’n iach, gan blannu’r planhigion cywir er mwyn iddynt oroesi.

Mae angen eich help arnynt! Os hoffech gefnogi’r gwaith ymchwil hon a phrosiectau eraill ynglŷn â peillwyr ewch i’n tudalen JustGiving, Helpwch Achub Ein Peillwyr!