7 Maw 2017

Mawrth – Mis o Gerddoriaeth – 11eg & 12fed

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Dyma’r rhestr o berfformwyr y penwythnos hwn (Mawrth 11-12, fel rhan o Fis o Gerddoriaeth ym Mawrth yr Ardd:

Dydd Sadwrn Mawrth 11

11yb-12:30yp – Iwcalilis Caerfyrddin
12:30yp-2yp – Martha Lee
2yp-3L30yp – Band Mawr Steve Price

 

Dydd Sul Mawrth 12

11yb-12:30yp – Caroline Harrison
12:30-2pm – Goodness Gracious Glee
2yp-3:30yp – Tristan John

 

Mae Iwcalilis Caerfyrddin yn dathlu dwy flynedd o chwarae hefo’i gilydd y mis hwn a bob tro yn berfformwyr poblogaidd, yn dod â’u chrefft liwgar ar eich hoff ganeuon – yn eu harddull unigryw.

Mae Martha Lee a’i band yn chwarae cerddoriaeth werin fodern gyda thrydan a bas.

Bydd sacsoffonau, ffliwtiau a chorn ‘flugel’ yn cael eu cynnwys ym Mand Mawr jazz Steve Price.

Galwodd y ddiweddar Terry Wogan y canwr, ysgrifennydd caneuon a chwaraewr gitâr, Caroline Harrison “un newydd ond un da”. Mae cerddoriaeth Caroline wedi’i ysbrydoli gan y Mamas & the Papas, Dusty Springfield a Dionne Warwick.

Mae Goodness Gracious Glee yn gôr menywod wedi’i seilio yn Llansawel, sy’n canu amrywiaeth eang o glasuron gan gynnwys yr emyn Cymraeg hyfryd Arglwydd Dyma Fi a’r gân enwog erbyn hyn, Since You’ve Been Gone.

Mae’r pianydd Tristan John yn chwarae Billy Joel, Elton John, Adele, Simon a Garfunkel, y Beatles, Celine Dion, Sam Smith, Ed Sheeran, Elvis Presley, Frank Sinatra, caneuon o sioeau, caneuon o’r siartiau a mwy.

Mae’r perfformiadau i gyd yn y Tŷ Gwydr Mawr. Mae pris mynediad arferol i’r Ardd yn gymwys.