12 Ion 2017

Cylchlythyr yr Ardd – Ionawr 12

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Dyma gylchlythyr diweddaraf yr Ardd, os hoffech ei dderbyn yn syth i’ch cyfeiriad e-bost, cofrestrwch yma.

Gweler y cylchlythyr llawn yma.

 

Penwythnos Crefftau Coed

Turnwyr pren, cerfwyr llwyau caru, gwneuthurwyr ffyn, offer pŵer a phyrograffeg, bydd y ‘prencampwyr’ hyn i gyd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru am benwythnos o arddangosiadau ac arddangosfeydd – ar Ddydd Sadwrn a Dydd Sul, Ionawr 14-15.

Cynhelir Penwythnos Crefft Coed poblogaidd yr Ardd rhwng 10yb a 4.30yp ar y ddau ddiwrnod, a’r tâl mynediad yw £3 yn unig.

Dywedodd y trefnydd Les Bryan, y bydd digon o bethau ynddo i ymddiddori ymwelwyr:  “Bydd hi’n fraint cael gweld rhai o gerfwyr a thurnwyr gorau’r DG wrth eu gwaith.  Roedd penwythnos crefft coed y llynedd yn boblogaidd dros ben, a disgwylir i’r penwythnos eleni fod yn fwy poblogaidd fyth.

Efallai hoffai teuluoedd gwybod y bydd y pyrograffwr byd enwog, Bob Neill, yn arddangos ei waith ac yn rhedeg gweithdai i blant yno eleni.”

Ym myd crefft coed, bydd dau o’r enwau mwyaf yno, Bob Neill, a Simon Hope, fydd yn rhoi dosbarth meistr mewn turnio coed.  Ond bydd hefyd arddangosiadau ac arddangosfeydd o gynnyrch turnio coed ac offer pŵer gan Axminster, Robert Sorby, Chestnut, Hamilton Beverstock, ac Isca Timber, a’r gwneuthurwr pen ysgrifennu arbenigol Geraint Davies i enw ond ychydig.

Hefyd yn arddangos eu gwaith fydd Cymdeithas Cerfwyr Pren Prydain a fydd Martin Pidgen yn rhoi sgyrsiau ar bren a’i defnyddiau.
.
Am fwy o wybodaeth am hwn a digwyddiadau eraill e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk, neu ffoniwch 01558 667149.

Countryfile

Bydd yr Ardd ar bennod rhaglen teledu Countryfile BBC Un yr wythnos hon, nos Sul am 6:30yp.

Bu Helen Skelton yn ymweld â’r Ardd i ddarganfod mwy am brosiect Bar Codio DNA‘r Adran Wyddoniaeth, yn ogystal ar sut yr ydym yn paratoi ein gwenyn am y gaeaf.

Un o brif fentrau’r rhaglen Wyddonol yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yw bar-godio DNA rhywogaethau planhigion.  Golygodd y gwaith hwn mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i far-godio DNA ei holl blanhigion blodeuol a chonifferau brodorol.  Ry’n ni’n parhau i adeiladu ar yr adnodd hwn trwy far-godio gweddill blodau’r DU.

Talu teyrnged i Ymddiriedolwr yr Ardd

Bu farw John Ellis, is-gadeirydd y bwrdd o ymddiriedolwyr Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Roedd Mr Ellis, 78, o Landdarog, ger Caerfyrddin, wedi bod yn wirfoddolwr yn yr Ardd am dros 20 mlynedd. Fe ddechreuodd gwirfoddoli yn yr Ardd yn 1995 – pum mlynedd cyn iddi agor – yna, at ddymuniad y prif weithredwr yr adeg honno, William Wilkins, fe ddaeth yn Ymddiriedolwr yn 2005. Cafodd John ei anrhydeddu gydag AYB llynedd, yn Rhestr Anrhydeddau Penblwydd y Frenhines.

Meddai Cyfarwyddwr yr Ardd, Huw Francis: “Mae hyn yn newyddion trist iawn. Nid oedd John wedi bod yn iach am sbel ond fe wnaeth weithio’n galed i gadw ei lefel uchel, arferol, o angerdd ac ymrwymiad.”

Mae Mr Ellis yn cael ei goroesi gan ddau o blant a chwe ŵyr. Buodd yn briod i Miriam am 48 mlynedd cyn iddi farw yn 2008.

Cadw’n Heini Am Ddim

Mae llwybrau newydd ‘Cadw’n Heini Am Ddim‘ yr Ardd yn profi i fod yn boblogaidd iawn gydag ymwelwyr, gyda nifer ohonynt yn cymryd mantais o’r teithiau golygfaol, yn ogystal â mynediad AM DDIM ar ddiwrnodau’r wythnos.

Rydym wedi creu nifer o lwybrau o gwmpas yr Ardd – rhai ar lwybrau gwastadyn addas i rodwyr, pramiau a chadeiriau olwyn gyda rhai sy’n fwy garw, gyda llwybrau garw o gwmpas yr ystâd a heibio’r rhaeadr.

Pa well ffordd i brofi’ch teclynnau heini newydd, i ddod o hyd ac i ysgwyd y llwch oddi ar eich FitBit y gwnaethoch gael y Nadolig diwethaf i glocio nifer fawr o gamau.

Mae’r amrywiaeth o lwybrau yma wedi cael eu marcio’n glir, ac mae map am ddim i’ch tywys ar eich taith – gall y map hefyd cael ei lawr lwytho o’n gwefan os hoffech chi ei gweld o flaen llaw.

Mae gan bob llwybr cyfradd ‘teisen gwpan’ sy’n cyfeirio at y radd o anhawster.

Gwelwch darn ar y llwybrau yma ar raglen ‘Heno‘ S4C yma.

Os gallwch ymweld â’r Ardd ar benwythnosau’n unig, peidiwch â phoeni, mae mynediad ond yn £3 ar Ddiwrnodau Sadwrn a Sul yn ystod mis Ionawr.

 

Diwrnod i Chi a’r Ci

Bydd y Dydd Llun sydd ar ddod yn gweld yr Ardd yn croesawu ymwelwyr a’u cŵn unwaith eto.

A gan ei fod yn ddiwrnod o’r wythnos ym mis Ionawr, bydd mynediad yn rhad ac AM DDIM!

Rhaid i gŵn fod ar dennyn di-estynadwy trwy’r amser, ac oherwydd y planhigion a philipalod prin a gwerthfawr, ni chaniateir cŵn tu fewn i Blas Pilipala.

Peidiwch ag anghofio, trwy’r gaeaf – mae pob Dydd Llun yn Ddiwrnod i Chi a’r Ci!

Dydd Mercher Mwdlyd

Mae Dydd Mercher Mwdlyd yn cynnwys awr o hwyl a sbri, gweithgareddau yn yr awyr agored, adrodd straeon ac archwilio ar gyfer plant bach o dan oed ysgol, ac yn gyfle arbennig i rieni fynd â’u plantos yn agos at natur yn y dŵr a’r mwd – byth bynnag fo’r tywydd!

Mae’r gweithgareddau yn dechrau o’r Porthdy ac mae mynediad ar bob Dydd Mercher yn ystod mis Ionawr am ddim!

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Adran Addysg ar 01558 667150.