Llwybr y Gryffalo

Mae Llwybr y Gryffalo yn cynnwys pum cerflun enfawr a thrawiadol o gymeriadau o’r llyfrau bythol boblogaidd a luniwyd gan Julia Donaldson ac Axel Scheffler: Llygoden, Llwynog, Tylluan, Neidr a’r Gryffalo.

Cawsant eu gwneud gan Garry Turler, cerflunydd coed a gwaith celf llif gadwyn o Gwmtwrch, yng Nghwm Tawe.

Mae’n berffaith ar gyfer plant 2-6 oed, ond yn hwyl i’r teulu cyfan, mae’r llwybr yn agored drwy’r flwyddyn a’i hyd yw tua hanner milltir (0.8km).

Gofalwch eich bod yn casglu taflen y llwybr wrth i chi gyrraedd, yna ewch am Goed y Tylwyth Teg – a mwynhewch.