Y Ganolfan Adar Ysglyfaethus Prydeinig

Casgliad arbenigol o adar ysglyfaethus Prydeinig yw’r Ganolfan Adar Ysglyfaethus Prydeinig, yn ffocysu ar les a chadwraeth ein rhywogaethau brodorol o adar ysglyfaethus.

Rydym wedi ein lleoli yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, felly medrwch ymweld â ni yn ystod eich diwrnod yn y gerddi.

Ein bwriad ydy rhoi’r cyfle i bawb i ryngweithio gyda, a dysgu am, yr adar ysglyfaethus sy’n gallu cael eu darganfod yma yn y DU ac felly’n ysbrydoli cymunedau i sicrhau eu hirhoedledd.

Amserlen Dyddiol

11.30 am – Arddangosfa Hedfan (45 munud)

1.30 – Arddangosfa Hedfan (45 munud)

Cynllunio Eich Ymweliad

Ewch ati i gynllunio eich ymweliad a darganfod mwy am ein digwyddiadau dyddiol a gweithgareddau yng Nghanolfan Adar Ysglyfaethus Prydeinig a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Boed glaw neu hindda, mae digon yma i’w wneud ar gyfer y teulu cyfan!

Darganfod mwy