Weithiau bydd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru’n casglu data personol oddi wrth bobl y mae’n rhyngweithio â nhw, ond fe ddywedir wrthych bob tro pan gaiff ei gasglu ac at beth y caiff ei ddefnyddio. Ni fyddwn byth yn trosglwyddo’ch data personol i unrhyw un arall oni bai eich bod wedi cytuno neu oni bai bod gofyn i ni yn ôl cyfraith, a byddwn bob tro yn cymryd y gofal mwyaf am unrhyw ddata personol a gasglwn. Gellir dod o hyd i fanylion llawn yn ein Hysbysiad Preifatrwydd.
Eich hawliau
Mae gennych yr hawliau canlynol o dan Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), er hynny nid ydynt oll yn hawliau terfynol:
- I gael copi o’ch data (Cais am Fynediad gan Wrthrych Data);
- I ofyn i ni newid data anghywir neu anghyflawn;
- I ofyn i ni ddileu neu roi’r gorau i brosesu eich data; a
- I wrthwynebu prosesu eich data lle rydym yn dibynnu ar ein buddiannau cyfreithlon fel sail gyfreithlon ar gyfer prosesu.
Cysylltwch â Swyddog Gwarchod Data’r Ardd ar y cyfeiriad isod os ydych yn dymuno gweithredu unrhyw rai o’r hawliau yma neu i drafod defnydd eich data personal. I wneud Cais am Fynediad gan Wrthrych Data, cwblhewch ein Ffurflen Cais am Fynediad gan Wrthrych Data a’i hanfon at y Swyddog Gwarchod Data.
Swyddog Gwarchod Data,
Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru,
Neuadd Middleton,
Llanarthne,
Sir Gâr SA32 8HG
Neu e-bostiwch dataprotection@gardenofwales.org.uk. Mae croeso i chi gysylltu gyda ni yn y Gymraeg neu’r Saesneg.
Gwneud cwyn
Dylech gysylltu â Swyddog Gwarchod Data’r Ardd ar y cyfeiriad uwch os dymunwch wneud cwyn. Ar yn ail medrwch gysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn https://ico.org.uk/make-a-complaint.