Polisi Cyfle Cyfartal

Mae’r sefydliad wedi ymrwymo i’r egwyddor o gyfle cyfartal mewn cyflogaeth.

Yn unol â hynny, bydd y rheolwyr yn sicrhau na fydd trefniadau recriwtio, dewis, hyfforddi, datblygu a dyrchafiad yn achosi ymgeisydd am swydd neu aelod o staff i gael triniaeth anffafriol ar sail hil, lliw, cenedligrwydd, gwlad eu geni neu ethnigrwydd, crefydd neu gred, anabledd, aelodaeth o undeb llafur neu beidio, rhyw, gogwydd rhywiol, statws priodasol, oedran, neu fod yn weithiwr rhan-amser neu’n weithiwr cyfnodol.

Amcan y Mudiad yw sicrhau bod unigolion yn cael eu dewis, eu hyrwyddo, a’u trafod fel arall, ar sail eu doniau, eu galluoedd a’u sgiliau’n unig.

Mae gan Reolwyr y prif gyfrifoldeb o ddiwallu’r amcanion hyn drwy:

  • Beidio â gwahaniaethu yn erbyn gweithwyr nac ymgeisiwyr am swyddi
  • Beidio â chymell neu geisio cymell eraill i wahaniaethu’n anghyfreithlon; a
  • Dwyn i sylw gweithwyr y byddan nhw’n debyg o gael eu disgyblu o dan y Drefn Ddisgyblu am wahaniaethu ar unrhyw sail.

Gallwch gyfrannu drwy:

  • Beidio â gwahaniaethu yn erbyn eich cyd-weithwyr, cwsmeriaid, cyflenwyr, neu aelodau o’r cyhoedd, y byddwch yn dod i gysylltiad â nhw wrth ymgymryd â’ch dyletswyddau
  • Beidio â chymell neu cheisio cymell eraill i wahaniaethu’n anghyfreithlon, ac
  • Adrodd yn ôl i Gyfarwyddwraig yr Ardd am unrhyw weithred wahaniaethol.

Bydd cyflawni’r amcanion hyn yn llwyddiannus yn golygu cyfraniad gan bawb, ac mae gennych ddyletswydd i adrodd yn ôl am unrhyw weithred o wahaniaethu ry’ch chi’n ymwybodol ohoni.

Os ystyriwch chi eich bod wedi dioddef gwahaniaethu anghyfreithlon, gallwch godi’r mater drwy’r Drefn Cwynion.