Hoff wyddonydd y comedïwr enwog Bill Bailey, ac ysbrydoliaeth cariad David Attenborough at natur, ond mae Alfred Russel Wallace yn gymharol anadnabyddus.
Mae cwmni theatr Theatr na nÓg, sydd â’i bencadlys yng Nghastell Nedd, wedi gwneud ei orau i fwrw goleuni ar fywyd a gwaith un o ddeallusion mwyaf rhyfeddol y 19fed ganrif, ac maen nhw’n dod â’u drama un-dyn, You Should Ask Wallace, i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Bydd y ddrama 50-munud, sy’n adrodd stori Wallace, yn yr Ardd ar Ddydd Sadwrn a Dydd Sul, Mehefin 29-30, gyda thair sioe y diwrnod.
Ganwyd Wallace ym Mrynbuga, a threuliodd gyfnod yn gwneud arolwg o’r ardal o amgylch Castell Nedd, lle y taniwyd ei gariad at natur. Teithiodd y byd yn casglu a chofnodi rhywogaethau newydd, yn ei ymchwil i ddarganfod tarddiad y rhywogaethau. Tra’i fod e yn Ynysfor Maleia, arweiniodd ei gasglu a’i gasgliadau toreithiog at y ddamcaniaeth detholiad naturiol. Ysgrifennodd wedyn at Darwin yn manylu ar ei ddamcaniaeth, ac arweiniodd hyn yn ei dro at gymell Darwin i gyflwyno ei ganfyddiadau a chyhoeddi The Origin of Species.
[nggallery id=375]Darwin yw’r un ry’n ni ei gofio, ond ddylen ni ddim anghofio am Wallace.
Yr actor sy’n cymryd rhan Wallace yw Ioan Hefin, a ymddangosodd ym mherfformiad cyntaf y ddrama yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yng Ngorffennaf 2008. Meddai Ioan: “Bob tro y caf i’r cyfle i weithio ar y sgript neu ddarllen am ei hanes, rwy’n darganfod rhywbeth newydd ac unigryw. Roedd Wallace heb amheuaeth yn ail i neb.”
Mae’r perfformiadau am 12 canol dydd, 1.30yp, a 3yp.
Mae’r Ardd ar agor yn ddyddiol rhwng 10yb a 6yh. Am ragor o wybodaeth am Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk, neu galwch 01558 667149.