Parcdir

Parcdir Neuadd Middleton

Heb amheuaeth byddai gwesteion Syr William Paxton i Neuadd Middelwton yn cael eu trochi mewn profiad cwbl synhwyrus,a’r bwriad oedd creu argraff ar ymwelwyr yn ogystal â rhoi pleser iddynt. Roedd dynlunwaith y parcdir hwn yn arwain y maes o ran celfydd tirlunio yn y 18fed ganrif, gan gyfno siapau addfwyn a Rhamantus y bryniau a’r dyffrynnoed o gwmpas gyda golgfeydd dramatig a ffyrnig fel y gwelwyd mewn dehongliad Pictiwrésg o fyd natur. Y bwriad oedd dod o hyd i’r golygfeydd fesul tipyn, wrth droedio’r llwybrau neu gyrraedd mewn coets, felly cynlluniwyd cyfres o olygfeydd ysblennydd a fyddai’n gudd hyd at ryw bwynt ac yba’n ymddangos yn ddramatig. Ar bob cam o’r siwrnai roedd rhywbeth i swyno’r teithiwr, o’r rhaeadr bwerus yn taro’r creigiau islaw i’r coedlannau heddychlon a oedd yn ymddangos yn llawn hud a lledrith, ‘as if mae by faeries’ chwedl ymwelwyr mewn dyddiadur.

Neuadd Middleton oedd caolbwynt y parcdir yn wreiddiol ond dinisriwyd y tŷ mewn tân yn 1931, felly Tŵr Paxton a gododd Paxton fel teyrnged i’r Arglwydd Nelson oedd yn sefyll fel tirnod wedi hynny. Yna ar ddechrau’r ganrif hon, pan sefydlwyd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, daeth y Tŷ Gwydr Mawr a ddyluniwyd gan Norman Foster yn ganolbwynt newydd a thrawiadol, nid yn unig i’r Ardd newydd ond i’r parcdir a grëwyd nôl yng Nghyfnod y Rhaglywiaeth.

Rydym ar ddechrau’r broses o adfer yr holl safle, er mwyn ail-greu’r llynoedd, y rhaeadrau, llywbrau hanesyddol, pontydd a choed fel yr oedd, yma’n wreiddiol, gyda’r bwyriad o rannu’r holl barcdir hanesyddol hwn, 568 erw i gyd, gyda’n hymwelwyr.