Gwirfoddoli i’r Ardd

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn ystyried bod gwirfoddolwyr yn chwarae rhan bwysig yma ac mae’n cael ei werthfawrogi.

Fel un o’r gerddi yr ymwelir â hi fwyaf  yn y DU, mae gan yr Ardd enw da am yr awyrgylch gyfeillgar a’n ffordd ni o drin ymwelwyr.  Rydym yn gwir werthfawrogi cyfraniad ein gwirfoddolwyr ac yn eu hystyried ymhlith ein llysgenhadon pwysicaf, p’un ai ar y safle neu ble bynnag yr ânt yn y byd, gan gyfrannu at ddatblygiad ein henw da a’i hyrwyddo.

Pam rydym angen gwirfoddolwyr a pham rydym yn eu cefnogi

Mae’r Ardd yn cydnabod fod gweithgarwch y gwirfoddolwyr yn rym positif pwysig wrth godi proffil y sefydliad a chryfhau’r gefnogaeth yn y gymuned.  Mae gwirfoddolwyr yn rhan hanfodol o guriad calon yr Ardd ac maent ymhlith ei llysgenhadon.  Gall gwirfoddolwyr ddod â sgiliau ychwanegol arbennig neu brofiadau sy’n ychwanegu dimensiwn i fywyd yr Ardd.  Maent hefyd yn help i glymu’r Ardd yn dynn wrth y gymuned ehangach – cymuned lle a chymuned pobl.  Caiff ei gydnabod fod ymwneud ag amrywiaeth eang o safbwyntiau yn dod â gwerth ychwanegol i sefydliadau.

Fel gyda llawer o elusennau yn y DU, mae adnoddau’r Ardd yn gyfyngedig. Felly, er mwyn galluogi’r Ardd i gwrdd â’i hamcanion mae wedi datblygu partneriaeth staff/gwirfoddolwr sy’n hanfodol, yn gytbwys, yn effeithiol ac yn gyd-fuddiol.  Mae hyn yn seiliedig ar yr egwyddor fod staff yr Ardd yn darparu’r strwythur, trefniadaeth, cyfeiriad a rheolaeth ddyddiol, tra bo gwirfoddolwyr yn ychwanegu gwerth at waith yr Ardd trwy ymgymryd ag ystod eang o ddyletswyddau, gan roi eu hamser, dangos hyblygrwydd, a rhannu profiad a sgiliau arbenigol.  Felly o fewn y fframwaith hwn, mae gwirfoddoli yn weithgaredd gwerthchweil a hanfodol ac yn un y mae’r Ardd yn ei chefnogi a’i hyrwyddo.

Cyfleoedd Gwirfoddoli

Mae gan yr Ardd Fotaneg y lleoliadau gwirfoddoli canlynol ar gael. Os oes gennych ddiddordeb yn unrhyw un o’r lleoliadau a hysbysebir*, e-bostiwch: jane.down@gardenofwales.org.uk


Recriwtio Ymddiriedolwyr

Y Rôl

Mae’n bleser gennym wahodd unigolion brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â’r Bwrdd Ymddiriedolwyr ar adeg gyffrous yn natblygiad y sefydliad, yn cynnwys y cyfnod yn arwain at ei ben-blwydd yn 25. Rydym am benodi hyd at bedwar Ymddiriedolwr newydd.

Ymunwch â Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, sef sefydliad dynamig ac effeithiol sy’n ymrwymedig i wyddoniaeth seiliedig ar dystiolaeth, i rannu ein gwybodaeth am blanhigion, ac i ysbrydoli gwerthfawrogiad pobl o fflora, diwylliant Cymru a’i threftadaeth. A chithau’n Ymddiriedolwr bydd gennych rôl allweddol yn y gwaith o lywio’r sefydliad ac arwain ei dwf, a phennu’r cyfeiriad iddo dorri tir newydd a bod o fudd i gymdeithas trwy ei ystad ysbrydoledig, darganfyddiadau gwyddonol a’r modd y mae’n dylanwadu ar bobl i roi gwerth ar blanhigion a natur, a chyfoethogi eu bywydau.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn ymwneud â’r rôl, cysylltwch â Dr Lucy Sutherland drwy e-bost Lucy.Sutherland@gardenofwales.org.uk. Ceisiadau i’w hanfon at: Anne-Maria Nicholas – Rheolwr Adnoddau Dynol yn Anne-Maria.Nicholas@gardenofwales.org.uk.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12 hanner dydd ar ddydd Mawrth 30 Ebrill.


Cyfleusterau

Gweithgareddau

Peintio/staenio dodrefn gardd, atgyweiriadau bach, trwsio dodrefn, newid bylbiau golau, trwsio llwybrau, gwaith coed, ac atgyweiriadau mecanyddol bach.

Dyddiau ac Amseroedd

Dydd Llun i Ddydd Gwener

Profiad

Mae angen safon dda o sgiliau sylfaenol DIY, ond darperir hyfforddiant a goruchwyliaeth.


Golygydd Cylchlythyr Gweithwyr

Gweithgareddau

Rydym yn chwilio am rywun sydd â sgiliau rhyngbersonol rhagorol a dylunio i gynhyrchu ein Cylchlythyr Cyflogeion misol. Byddai’n addas ar gyfer rhywun sydd â chefndir newyddiadurol neu sydd eisiau rhywfaint o brofiad.

O’r gweithgareddau dan sylw, y prif un fydd ymweld â gwahanol adrannau’r Ardd Fotaneg, rhyngweithio â staff a chael straeon/newyddion a lluniau. Mae yna dipyn o adrannau ac mae’r rhain yn cynnwys Gwyddoniaeth a Chadwraeth, Addysg, Marchnata, Garddwriaeth, Arlwyo, Manwerthu, Gwirfoddoli ac ati.

Bydd yr Ardd yn darparu camera a chyfleusterau mewnol i ddylunio a dosbarthu’r cylchlythyr electronig misol.

Dyddiau ac Amseroedd

Er ei fod yn hyblyg ar ddiwrnodau (nid penwythnosau) byddai’n golygu 2 ddiwrnod y mis ar y safle.

Profiad

Sgiliau cyfrifiadur da, hoffi cwrdd â phobl, gwir ddiddordeb yn yr hyn sy’n digwydd yn yr Ardd Fotaneg, mwynhau ffotograffiaeth, bod yn greadigol a’r gair ysgrifenedig, yna hoffem glywed gennych.


*Mae lleoliadau gwirfoddolwyr ar agor i breswylwyr y DU yn unig.