Prentisiaeth yng Ngarddwriaeth Fotanegol

Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru Prentisiaeth yng Ngarddwriaeth Fotanegol

Mae prentisiaethau yn ffordd arbennig o ddechrau gyrfa yng ngarddwriaeth.  Enillwch arian wrth i chi ddysgu a chyfunwch astudiaeth academaidd gyda hyfforddiant a phrofiad gwaith.  Dyma gyfle dwy flynedd o hyd wedi’i seilio yn y gweithle gyda diwrnod o astudiaeth academaidd.

Trosolwg

Mae’r brentisiaeth yn dechrau ym mis Medi gyda’r nod o gyflwyno’r safon uchaf o sgiliau garddwriaeth broffesiynol.  Mae’r brentisiaeth yn cynnig hyfforddiant ymarferol yng ngarddwriaeth fotanegol.  Byddwch yn gweithio’n ochr ag ochr a garddwyr yr Ardd, a byddwch hefyd yn ennill gwybodaeth sylfaenol o astudiaeth coleg.  Bydd prentisiai’r Ardd yn ein helpu i gyflawni’r safonau uchaf gan hefyd datblygu gyrfa eu hun.

Amcanion y Cwrs

Mae’r brentisiaeth ar lefel mynediad ac wedi’i ddylunio am unigolyn brwdfrydig ac ymroddedig sy’n dymuno dechrau gyrfa yng ngarddwriaeth.  Mae prentisiaid yn cael eu cyflogi ar gyflog a delir yn unol â’r cyfraddau isafswm cyflog cenedlaethol.  Caiff costau coleg a lleoliadau cael eu talu gan yr Ardd a’i phartneriaid.

Bydd y prentis yn ennill profiad gwaith ym mhob ardal o arddwriaeth yr Ardd gan gynnwys: garddwriaeth fotanegol, cynhaliaeth yr ardd, gweithio yn y tai gwydr, tai gwydr meithrin a garddwriaeth ar ddangos.  Anogir datblygiad personol gyda chyfleoedd i ennill cymwysterau addas o’r Cyngor Profion Hyfedredd Cenedlaethol a’r dewis i gymryd rhan o weithio yng ngerddi eraill.

Beth mae’n cynnwys

  • Hyfforddiant ymarferol yn fewnol ym mhob agwedd o arddwriaeth fotanegol, rheolaeth chynhaliaeth yr ardd.
  • Diwrnod o astudio gyda Choleg Sir Gâr am Dystysgrif Lefel 2 GAF yn yr Egwyddorion o Arddwriaeth.
  • Ennill cymhwyster yn Niploma Lefel 2 ‘City & Guilds’ yn seiliedig ar waith wedi darparu o dan fframwaith prentisiaeth.
  • Yn gweithio’n gyfochr â garddwyr, garddwyr dan hyfforddiant a gwirfoddolwyr.
  • Cymryd rhan yn hyfforddiant adnabod planhigion.
  • Cadw dyddiadur dyddiol o waith.
  • Ennill cymwysterau priodol o’r Cyngor o Brofion Medrusrwydd Cenedlaethol.
  • Y cyfle i gymryd rhan yn lleoliadau gwaith gyda gerddi sy’n bartner i’r Ardd.

Asesiad y Cwrs

  • Er mwyn cwblhau’r brentisiaeth, rhaid i chi:
  • Llwyddo yn yr asesiad ymarferol gan gyflawni cymhwyster yn nhasgau garddio wedi’i chefnogi gan eich goruchwyliwr.
  • Ymgymryd â’r holl ofynion o hyfforddiant sylfaenol.
  • Cymryd rhan yn arolygon cyson.
  • Mynychu coleg a llwyddo yn y Dystysgrif Lefel 2 yr RHS yn Egwyddorion Garddwriaeth.

Gofynion Mynediad

Addysg/Cymwysterau: Leiafswm o 2 TGAU o radd A*-C, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg.

Gwybodaeth/Profiad: Diddordeb a’r brwdfrydedd i ddysgu, a’r ymrwymiad i ddatblygu gyrfa yng ngarddwriaeth ynghyd a diddordeb yn neges a phwrpas yr Ardd.

Gallu: Tystiolaeth o ddiddordeb, gallu a sgiliau blaenorol yng ngarddio.  Gallu trefnus ac ysgogiad i ddilyn amserlen o waith ac astudiaeth.  Y gallu corfforol i weithio yn yr awyr agored, ym mhob tymor ac i ymgymryd â thasgau corfforol.

Mae’r meddiant o drwydded gyrru llawn a rhuglder yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar, yn ddymunol ond nid yn hanfodol.

Mae’r gallu i gwrdd ag anghenion i fod yn gymwys am y cynllun prentisiaeth hon yn hanfodol: Prentisiaethau – Canllawiau a Gwasanaethau

Gwneud Cais

Nid ydym yn derbyn unrhyw geisiadau pellach. Gallwch wneud cais y flwyddyn nesaf, 2024, manylion i ddilyn.


Cefnogi’r Cynllun Prentisiaethau

Mae llawer on prentisiaid wedi mynd ymlaen i weithio i gyflogwyr lleol yn ardal Sir Gaerfyrddin, ac mae rhai hyd yn oed wedi aros i weithio yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Mae sgiliau mewn garddwriaeth yn hynod o bwysig, gyda llawer o swyddi yn gofyn am sgiliau a gwybodaeth uwch.

Rydym angen eich cefnogaeth i helpu i sicrhau y gallwn barhau i gynnig lleoliadau yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Maer cyfleoedd hyn yn bwysig nid yn unig i ni, ond ir bobl ifanc syn dod yma i ddysgu a datblygu.


Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’n Cydlynydd Prentisiaeth, Ayshea Cunniffe-Thomas – ayshea.cunniffethomas@gardenofwales.org.uk


Partneriaid

Patrick Daniell, Coleg Sir Gâr, National Garden Scheme.