Bagloriaeth Cymru
Mae gennym amrywiaeth o opsiynau i gefnogi gwahanol elfennau o’r cymhwyster Bagloriaeth Cymru newydd.
Prosiectau Unigol
Mae’r Ardd yn cynnig amrywiaeth o bynciau y gall myfyriwr ar unrhyw lefel eu hastudio ar gyfer adran Prosiect Unigol y cymhwyster Bagloriaeth Cymru. Gan fod amrywiaeth o brosiectau cyffrous ac arloesol yn digwydd yn yr Ardd drwy’r amser, gallwn gynnig canllaw a phrofiad i chi ar amrywiaeth o bynciau:
- Cadwraeth planhigion
- Bioamrywiaeth
- Ffermio organig
- Cynaliadwyedd
- Ffynonellau ynni amgen
- Ailgysylltu pobl â natur
- Pwysigrwydd peillwyr
- Hanes lleol a diwylliant
- Rôl elusen
- Eco-atyniadau
Her Dinesydd Byd-Eang – addysgu a dysgu
Trwy weithdai yn yr Ardd, gallwn gefnogi agwedd addysgu a dysgu adran Her Dinesydd Byd-Eang o gymhwyster Bagloriaeth Cymru. Gan ganolbwyntio ar Feddwl yn Feirniadol, Datrys Problemau, Creadigrwydd a Newydd-deb, anogir disgyblion i ddechrau datblygu safbwynt bersonol mewn perthynas â phynciau fel:
- Masnach Deg
- Ynni’r Dyfodol
- Byw’n Gynaliadwy
- Rheoli Gwastraff
- Cynnyrch Moesegol ac Eco-gyfeillgar
- Cwsmeriaeth
- Llygredd
Menter a Chyflogadwyedd – addysgu a dysgu
Ymwelwch ag un o brif atyniadau twristiaeth Cymru er mwyn darganfod pa wasanaethau a chynnyrch ry’n ni’n eu cynnig yma.
Sialens Gymunedol
Gallwch gwblhau eich Sialens Gymunedol yn yr Ardd drwy weithio gyda Phrosiect y Rhaglywiaeth.
Edrychwch ar ein Rhaglenni Cyfnod Allweddol 4 er mwyn darganfod gweithdai a all eich cefnogi ar bynciau fel: Masnach Deg, Bwyd a Milltiroedd Bwyd, Technolegau Gwyrdd, Cynaliadwyedd, a Hamdden a Thwristiaeth.
Sut i Archebu Ymweliad yn Ymwneud â Bagloriaeth Cymru
Cysylltwch â Kay yn yr Adran Addysg os gwelwch yn dda er mwyn archebu ymweliad.