Addysg
Mae’r Ardd yn lle ardderchog i ddod i ddysgu. Mae ein cyfleoedd dysgu amrywiol yn canolbwyntio ar gysylltu pobl â’u hamgylchfyd naturiol, a dysgu am gynaliadwyedd, ac y mae’r ddau, ry’n ni’n credu, yn gysylltiedig.
Mae gennym:
- Ardaloedd dysgu ardderchog dan do ac yn yr awyr agored, dros 160 o erwau o erddi addurniadol, ynghyd â 400 o erwau o fferm weithiol organig a Gwarchodfa Natur Genedlaethol.
- Tîm cyfeillgar o athrawon, arweinwyr cyrsiau a phobl broffesiynol medrus.
- Amrywiaeth o raglenni sy’n gysylltedig â’r cwricwlwm ar gyfer ysgolion a cholegau, a chefnogaeth i athrawon
- Ystod o gyfleoedd ar gyfer dysgu gydol oes ar gyfer pob oedran a gallu.
Dewiswch oedran dysgu er mwyn edrych ar y rhaglenni dysgu ffurfiol ry’n ni wedi’u datblygu. Cysylltwch â’r Adran Addysg, trwy e-bostio addysg@gardenofwales.org.uk neu ffoniwch 01558 667150, er mwyn trafod sut y gallwn ni addasu rhaglenni i gwrdd ag anghenion eich grŵp.