Wedi’i leoli ar y promenâd hardd, mae Gwesty’r Marine, Aberystwyth, wedi agor y drysau o dan yr un teulu ers dros 30 mlynedd, rydym yn awr yn croesawu’r wyrion i redeg y gwesty!
Rydym yn ffodus iawn wrth i ni gael ein lleoli yn ddigon agos at ganol y dref ond i ffwrdd oddi wrth fwrlwm bywyd y dref. Ni fyddai ymweliad ag Aberystwyth yn gyflawn heb ymweliad â Gwesty’r Marine. Mae’n Westy eiconig, sydd wedi cynnal cenedlaethau o fyfyrwyr a rhieni, pobl ar eu gwyliau, teithwyr busnes, cynadleddau, priodasau a phartïon. Felly, pan fyddwch yn ymweld ag Aberystwyth – gwnewch yn siŵr eich bod yn dod i aros gyda ni am noson fythgofiadwy a golygfa unigryw o’r Pier a’r Prom wrth i’r haul fachlud ar Fae Ceredigion. Os nad ydych yn aros, dewch ar Ddydd Sul i fwynhau cinio Dydd Sul heb ei ail, neu galwch am goffi neu bryd o fwyd cyn ymweld â’r Prom.