Mae Canolfan Ceridwen yn lleoliad gwyliau, cyrsiau, digwyddiadau a phriodasau, sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd, ar fferm organig 40 o erwau o faint, yn Nyffryn Teifi yng Ngorllewin Cymru. Gyda’r potensial i ddarparu ar gyfer mwy na 60 o bobl mewn llety glampio, gan gynnwys yurts, carafán Romani, bws deulawr, pod eco, carafanau wedi’u huwch-gylchu, yn ogystal ag adeiladau cerrig traddodiadol wedi’u trawsnewid, gan gynnwys Tŷ Ceridwen sy’n cysgu hyd at 19.