Yr Ystâd Middleton – Stori’n datblygu

Ganwyd y syniad o gael Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ganol y 1990au fel gardd fotaneg genedlaethol ar gyfer yr 21fed ganrif, un a fyddai’n ymroi i ymchwil a chadwraeth, bioamrywiaeth, cynaliadwyedd, dysgu gydol oes a mwynhad yr ymwelydd. Pan agorwyd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ym mis Mai 2000, daeth y Tŷ Gwydr Mawr, y campwaith pensaernïol gan Foster a’i Bartneriaid, yn eicon ar unwaith i’r gwerthoedd hyn.

Mae’r safle hwn ar dir sy’n datgelu eu hanes yn gynyddol – mae wedi ei restru’n Radd II ar Gofrestr Cadw/ICOMOS o Barciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru. Y nodweddion hanesyddol mwyaf amlwg yw’r Ardd Ddeufur, y Stablau, y Rhewdy, y parcdir a’r gadwyn o lynnoedd sydd wedi’u hadfer.

Ystyrir bod yr arddwriaeth a’r bensaeriaeth gyfoes yn y dirwedd hanesyddol yn atyniad pwysig i’n hymwelwyr. Ond mae ymwybyddiaeth ac anesmwythder cynyddol am ffynonellau’r cyfoeth a dalodd am greu’r ystâd hanesyddol wedi ein cymell i adolygu’r ffordd rydym am gyfleu hanes y tir hwn cyn i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru gael ei chreu. Rhaid inni fynd i’r afael ag edrych ar werthoedd ein gardd fotaneg o’r 21fed Ganrif ochr yn ochr â gwerthoedd ceidwaid y tir yn y gorffennol.

Mae ein gwybodaeth am dirfeddianwyr y gorffennol wedi dod o amrywiol ffynonellau a oedd yn canolbwyntio ar ddehongliad hanesyddol Gorllewinol. Dyddiadau, dolenni teuluol, cysylltiadau masnachol a disgrifiadau manwl o’r arwyddion ffisegol o’r cyfoeth a grëwyd gan y prif gymeriadau.

Ond i ba raddau y gallwn fod yn ffyddiog mai’r rhain yw’r unig ‘ffeithiau’ a ‘dehongliadau’ , o gofio iddynt gael eu hysgrifennu o safbwynt Ewropeaidd, croenwyn a gwrywaidd gan mwyaf?  Mae’r hanesion sydd gennym am ffynonellau cyfoeth y tirfeddianwyr hyn o’r gorffennol wedi mynd i’r afael yn unig â chynnyrch amlwg y cyfoeth, ac wedi anwybyddu’r anghyfiawnder a’r llygredd arswydus a greodd yr arian hwnnw. Mae hanesion y dynion oedd yn dirfeddianwyr yn wybyddus er bod tipyn llai o sylw wedi’i roi i’r caethweision a oedd yn eiddo iddynt, y diwylliannau a ormeswyd ganddynt, y bobl roeddent yn ymelwa arnynt a’r gweithwyr lleol roeddent yn eu cyflogi.  I ryw raddau, y rheswm dros hyn yw bod y dosbarthau is wedi eu colli, eu hanghofio neu eu claddu gan haneswyr oherwydd bod gan y rheiny fwy o ddiddordeb yn y bobl a ystyrient yn enillwyr hanes.

Y Cwmni East India oedd y ffynhonnell fwyaf dylanwadol o gyfoeth hanesyddol ar yr hyn a elwid yn Ystâd Middleton cyn creu’r Ardd Fotaneg. Roedd tri brawd o’r Waun yn Sir Ddinbych wedi helpu sefydlu’r Cwmni East India ym 1600 i fasnachu yn y fasnach sidan a sbeis broffidiol, a chyda’r elw adeiladodd y brodyr blasty pwysig gyda gerddi godidog a rhaeadrau ar yr hyn sydd erbyn hyn yn dir profa ar Warchodfa Natur Genedlaethol Waun Las.

Dau gan mlynedd yn ddiweddarach, dychwelodd William Paxton i Brydain o fod yn drysorydd Bengal ar gyfer y Cwmni East India. Gyda’r holl gyfoeth roedd wedi ei wneud, cyflogodd dîm mawr o weithwyr i greu’r hyn a ystyrid yn dirweddi mwyaf godidog ym Mhrydain o Gyfnod y Rhaglywiaeth. Yn ystod y cyfnod hwn, datblygodd y Cwmni East India i’r fath raddau nes iddi gipio rheolaeth dros rannau helaeth o is-gyfandir India a gwladwriaethu rhannau o dde ddwyrain Asia, gan gynnwys Hong Kong. Mewn gwirionedd creodd y Cwmni yr hyn a  ddaeth yn Ymerodraeth Brydeinig yn Asia.

Ond nid oedd pob hanesydd yn ganmoliaethus. Mewn llythyr at Mohandas Gandhi1 ifanc ym 1908 ysgrifennodd Leo Tolstoy fel hyn: ‘A commercial company enslaved a nation comprising two hundred millions. Tell this to a man free from superstition and he will fail to grasp what these words mean.’ Roedd portread yr hanesydd Will Durant o’r Unol Daleithiau o gorfforaeth yn rhedeg yn wyllt, “overrunning with fire and sword a country temporarily disordered and helpless, bribing and murdering, annexing and stealing”, yn gryn sioc i’w ddarllenwyr ym 19302.

Felly, sut dylem ni weld y cyfoeth a grëwyd gan William Paxton? Mae rhai adroddiadau am ei fywyd yn awgrymu iddo wneud ei arian drwy waith caled, gan fentro a bod yn ddyn busnes medrus.  Ond yn 2019 yn unig, drwy waith caled grŵp hanes gwirfoddol yr Ardd Fotaneg, daethom i wybod sut oedd Asiantaeth Paxton wedi cyllido’r Llywodraethwr Cyffredinol Richard Wellesley yn y rhyfel yn erbyn Tipu Sultan Mysore ym 1798-1799. Oherwydd y gwrthdaro hwnnw cynyddwyd tiriogaeth y Cwmni East India yn sylweddol. Gwyddom hefyd fod Paxton wedi defnyddio’r ystâd hon i ddangos ei hun er mwyn dod yn bwysig yn gymdeithasol, a gwariodd ffortiwn yn ceisio llwgrwobrwyo neu ddylanwadu ar etholwyr Sir Gaerfyrddin i’w wneud yn AS arnynt. Mae’r awdur William Dalrymple3 yn ddiweddar wedi dangos sut byddai dynion y Cwmni East India, fel Robert Clive, yn defnyddio arian wedi ei ddwyn o India i brynu ASau a seddi yn senedd Prydain. Cefnogodd y Senedd y Cwmni gyda grym y wladwriaeth oherwydd roedd nifer o ASau yn  gyfranddalwyr yn y Cwmni East Inda, a byddai unrhyw weithredu yn erbyn y cwmni wedi effeithio ar eu cyfoeth personol hwy.

Gellid dadlau bod ffynhonnell olynwyr Paxton hyd yn oed yn waeth. Ar ôl ei farw ym 1824, gwerthwyd ystâd Paxton i’r teulu Adams, sef Abadam yn ddiweddarach. Gwnaethant hwy eu ffortiwn o gaethwasiaeth yn Barbados a Jamaica, ac o iawndal wrth ddileu caethwasiaeth ym 1837, pan dalwyd swm anghredadwy o fawr yn gwobrwyo perchnogion y caethweision yn unig, nid y caethweision eu hunain. Felly, faint dylem ni ei ddweud am y bobl hyn?

Erbyn hyn mae gennym lawer iawn o wybodaeth am y teuluoedd Middleton, Paxton ac Adams/Abadam.  Cyhoeddwyd yn rhain gennym eisoes fel tudalennau gwe a blogiau i esbonio wrth ein hymwelwyr am hanes cymdeithasol y tir hwn. Ond pe byddem yn ystyried trosiad y glorian gymdeithasol, mae’r hanesion rydym wedi eu hadrodd mor anghytbwys fel nad ydynt yn adlewyrchu gwerthoedd ac ymrwymiad yr Ardd Fotaneg i gynhwysiant. Felly, rydym wëid penderfynu gwneud rhagor o waith ymchwil i sicrhau bod ein gwefan yn adroddiad teg a chyfiawn. Yn y cyfamser, mae rhai tudalennau gwe wedi eu dileu a chânt eu hadolygu ymhellach maes o law.

Cyfeiriadau:

  1. Tolstoy, L. (1908) A letter to a hindu, the subjection of India – its causes and cure. Free Hindustan, Vancouver, Canada.
  2. Durant, W. (1930) The case for India. Simon and Schuster, Efrog Newydd, UDA.
  3. Dalrymple, W. (2019) The anarchy: the relentless rise of the East India Company. Bloomsbury Publishing, Llundain.