Technoleg werdd
Mae’r Ddaear yn dioddef o effeithiau newid hinsawdd ar raddfa gyflym, diolch i ni – bodau dynol.
Rydyn ni hefyd yn defnyddio llawer o’n hadnoddau naturiol gwerthfawr. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ni i gyd leihau faint o ynni a ddefnyddiwn.
Yma yn yr Ardd rydyn ni’n rhoi cynnig ar dechnolegau a syniadau gwyrdd newydd i ymladd yn erbyn newid yn yr hinsawdd a lleihau’r adnoddau a ddefnyddiwn. Hoffem eu rhannu gyda chi – mae’n bosibl y byddant yn ddefnyddiol i chi yn eich cartref, yn eich gweithle, yn eich ysgol neu yn eich coleg.