21 Chwefror 2023
Oer, tua 6°C a glaw mân i ddechrau, er iddi stopio bwrw yn ddiweddarach ond parhau i fod yn llwydaidd ac yn ddiflas.
Ar y dechrau, roeddem wedi ymgasglu yn yr Hwb i wrando ar yr hyn yr oedd un o’r myfyrwyr, Neryse, wedi bod yn ei wneud. Y dasg enfawr o geisio casglu ynghyd holl gofnodion yr Ardd Fotaneg sy’n bodoli ers iddi agor – a chyn hynny gan i nifer o arolygon eraill gael eu cynnal gan Jan, ymhlith eraill. Aeth ati hefyd i ddangos y daflen gofnodi yr oedd wedi bod yn gweithio arni i gasglu cofnodion ar gyfer y dyfodol – gwaith ar y gweill. Yna, bu i ni ymwahanu a mynd i ardaloedd gwahano o’r Ardd Fotaneg a Waun Las i roi cynnig ar y daflen gofnodi.
Colin, Fred a John – Rhagor fyth o dwmpathau gwahaddod yng Nghae Trawscoed, ond popeth yn weddol dawel, yn myfyrio ar y tywydd diflas. Rhagor fyth o dwmpathau gwahaddod yng Nghae Trawscoed, sy’n rhan o duedd mawr eleni yn ôl pob tebyg, am eu bod yn ymddangos lle bynnag y byddwch yn edrych ar hyd a lled y wlad. Cipolwg ar y Sgrech y Coed yng ngwaelod y Ddôl, y naw Gŵydd Canada yn dal i fod ar Lyn Mawr, ond dim golwg o Fronwen y Dŵr nac unrhyw Siglennod Melyn ar y nentydd na’r rhaeadrau.
Hazel, Gilly a Frances – Dail Llygaid Ebrill a blodau Bresych-y-cŵn i’w gweld ar hyd ymyl llwybr Coedwig y Gwanwyn. Twmpathau gwahaddod mawr iawn y tu ôl i’r Coed Ceirios gyferbyn â’r Ardd Siapaneaidd. Grifft broga yn y pyllau o boptu’r bont dros yr Ardd Gors, y tro cyntaf yn yr ardal honno, yn bendant. Saffrwm yn ymddangos o amgylch y Tŷ Gwydr Mawr.
Jean – Wedi gweld Sgrech y Coed yn y prif faes parcio. Doedd dim grifft broga ym Mhwll yr Ardd. Gwelais ddau deiliwr Llundain yn yr Ardd Gors
28 Chwefror 2023
Diwrnod oer, diflas arall, tua 6-8°C, ond heb fawr ddim gwynt.
Roeddem wedi cwrdd yn yr Hwb eto, a chan ei bod yn ddeng mlynedd ers i’r grŵp Cadwraeth gychwyn, cytunasom i gwrdd yn y Tŷ Gwydr Mawr amser cinio i ddathlu hynny’n dawel.
Yna, ymwahanu i barhau â’r taflenni cofnodi; ond roedd popeth yn eithaf tawel unwaith eto.
Nicky ac Angela – Wedi llwyddo i gael mynediad i Gae Waun heddiw ac, er na welwyd fawr ddim blodau, clywyd nifer o adar (gan Angela), yn cynnwys cnocell fraith fwyaf yn drilio. Yna aethon i ymweld â’r Llwyfen lydanddail yn yr Ardd Goed, gan nodi bod blodau’n ymddangos. Tra oeddem yno, gwelsom fadfall gyffredin ar lethr glaswelltog agored sy’n wynebu’r de. Roedd y gwynt yn oer, ond byddai lleoedd dal haul wedi bod ar gael.
Maud, Gilly, Frances a Hazel – 7 Gwyfyn, 3 rhywogaeth, 5 Crynwr Gothig, Crynwr Amrywiol, a Chrynwr Bach.
Heather – Wrth i mi ymlwybro’n dawel gwelais Grinllys y Goedwig cynnar ar waelod y lôn yn ymyl Gardd yr Apothecari, yn ogystal â Llygaid Ebrill a Briallu cyffredin mewn dwsinau o fannau. Mae’r eirlysiau yn dod i ddiwedd.