30 Awst 2022

Hau hadau ar gyfer y dyfodol. . . gweirgloddiau blodau gwylltion

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Yn ystod y 22 flynedd diwethaf mae‘r gweirgloddiau yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las wedi eu rheoli’n organaidd. Mae’r blodau gwylltion wedi dal i ledu ac ennill ar draws y caeau, gan ymuno mewn arddangosfa hardd o flodau tegeirian. Yn drist iawn, mae’r darnau helaeth hyn o flodau gwylltion sy’n rhoi hyrddiadau o liw yn olygfa brin wrth i weirgloddiau ar draws y wlad leihau’n ddramatig.

Mae’n destun llawenydd, felly, pan fydd gennym gyfle i ledu potensial blodau gwylltion o’n gweirgloddiau ni i rai eraill.

Cysylltodd Dŵr Cymru â ni ynglŷn â chreu darn o dir gweirglodd ar eu cyfer eu hunain. Ffordd wych i wneud hyn yw drwy ddarparu’r hyn a elwir yn ‘wair gwyrdd’. Enw’r cae sydd wedi’i ddewis ar gyfer gwair gwyrdd Dŵr Cymru yw’r Cae Tegeirianau, sy’n un o’n caeau mwyaf ym mhen pellaf yr Ardd Fotaneg ger Tŵr Paxton.

Ceir gwair gwyrdd pan gaiff y weirglodd ei thorri a’r gwair ffres, yn llawn hadau blodau gwylltion, yn cael ei gludo i’w safle newydd, yn ddelfrydol o fewn hanner diwrnod, a’i daenu ar draws y darn newydd o dir. Mae ffresni’r gwair hwn yn allweddol, a gall ddatgloi potensial yr hadau tegeirian i ymsefydlu, ynghyd â nifer helaeth o flodau gwylltion eraill.

Ymhlith y rhain mae’r blodau pengaled (Centaurea nigra) sydd â phen porffor tebyg i ysgallen, a thegeiran brych y rhos (Dactylorhiza maculata) sydd â blodau porffor golau gyda smotiau ar hyd y petalau. Panoeddwn yn blentyn byddem yn aml yn mynd ‘helfa tegeirian’, a byddai dod ar draws un o’r rhain yn achosi cyffro mawr.

Ymhlith y blodau gwylltion melyn yn y cae hwn mae melynydd (Hypochaeris radicata) sy’n rhoi hyrddiad o liw ganol yr haf, ynghyd â’r gribell felen (Rhinanthus minor) sy’n hanfodol wrth greu unrhyw weirglodd. Mae hadau’r gribell felen yn niferus iawn yn y cae hwn, ac mae’r enw Saesneg rattle yn disgrifio sŵn coden yr hadau pan gaiff ei symud, sŵn cysurlon pan fyddwch yn cerdded drwy ddarnau helaeth o flodau gwylltion. Cânt eu galw’n ‘lunwyr gweirgloddiau’ am eu bod yn lled baratisaidd, yn cael llawer o’u maeth o’r porfeydd o’u cwmpas. Gall porfeydd drechu’r blodau gwylltion yn hawdd, ac felly mae gan blanhigion lled barasitaidd ran hanfodol wrth sefydlu gweirgloddiau dros gyfnod  hir.

Defnyddiodd Huw, rheolwr y fferm, ddau beiriant  lladd gwair ar gyfer y weirglodd . Yr un sydd yn y llun yw’r ‘Green Bee’, ac roedd un arall i dorri darnau mwy o faint. Cafodd popeth ei lwytho ar gert er mwyn casglu cymaint â phosibl  o wair gwyrdd a hadau.

Ar ôl i Dŵr Cymru daenu’r gwair ar eu caeau, daeth i’r glaw, sy’n ffordd dda i’r hadau gael eu sefydlu ar wyneb y pridd. Mae angen i’r hadau fod mewn cysylltiad â’r pridd er mwyn blaguro, ac yn aml bydd glaw trwm yn gwneud hynny’n union. Mae gwair gwyrdd yn ffordd wych i gael hadau ffres ar safle, gan ganiatau i flodau tegeirian a blodau gwylltion prin eraill ymsefydlu’n gyflymach.

Yn ystod fy amser yn yr Ardd Fotaneg , rwyf wedi dod yn fwyfwy hoff o flodau gwylltion. Rwy’n gwerthfawrogi eu harddwch syml, ac mae eu buddiannau i bryfed peillio mor fuddiol i gynefinoedd ffynnu.

Gyda diolch i Dŵr Cymru/Welsh Water


Os oes gennych ddiddordeb mewn archebu symiau mawr o had gweirglodd neu wair gwyrdd, cysylltwch â –