Blogiau'r Ardd

Adroddiad ar Leoliad Cyngor Caerdydd

gan

Mae gan erddi dinas yn aml gyfyngiadau o ran lle a mwy o bobl yn dod, yn enwedig pobl heb ddim gwybodaeth am arddwriaeth a hynny’n golygu bod angen i’r gerddi gael eu rheoli mewn ffordd wahanol. 

Mae cefndir hanesyddol hefyd i bob gardd yng Nghaerdydd, ac mae gan y cyhoedd ddisgwyliadau am y ffordd y dylent edrych a theimlo.  Roedd yn braf cwrdd â phobl newydd, rai ohonynt wedi bod yn y byd garddwriaeth am ddeg mlynedd ar hugain neu ddeugain mlynedd,  a chlywed sut mae pethau wedi newid! 

Fy hoff le i weithio oedd Parc y Rhath, uchod,  a agorwyd yn amser Victoria ac a arferai fod yn ganolbwynt  cymunedol gwirionedol. Byddai rasus nofio’n cael eu cynnal yn y llyn!  Tîm bach iawn ond dymunol iawn oedd yno, ac roedd yn fan gwirioneddol hyfryd i fod. Roedd yno deimlad gwahanol i Barc Bute neu rai o’r parciau eraill, efallai am ei fod ychydig yn fwy ac ymhellach allan ac wedi ei fwriadu i fwy o bobl ei ddefnyddio yn hytrach na dim ond cerdded drwyddo. 

Roeddwn gyda thím gwahanol bob dydd, ac roedd yno nifer o bethau diddorol  i’w dysgu bob amser. Bûm ym Mharc Bute ddwywaith,  ym Mharc y Rhath, Gerddi Alexandra a’r meithrinfeydd unwaith yr un. Mae’r meithrinfeydd  yn gwneud llawer o waith masnachol yn cynhyrchu  planhigion gwely, planhigion tŷ a basgedi crog wedi’u harchebu, ymhlith pethau eraill, ac roedd yn ddiddorol ymwneud á hynny oherwydd dydyn ni ddim yn gwneud y math hwnnw o beth yma. Gan fod y tywydd yn braf ac yn heulog, byddwn yn cerdded ar draws Caerdydd nól i fy stafell yn y gwesty bob dydd, ac roedd yn ffordd hyfryd iawn o weld o gwmpas!

Ym Mharc y Rhath mae yna dŷ gwydr trofannol a therrapinau ynddo, ac euthum i weld hwnnw tra oeddwn i yno. Enw’r dyn sy’n gweithio yno nawr yw Dave, ac mae’n debyg mai Dave oedd enw ei ragflaenydd hefyd. Nhw yw’r unig rai sydd wedi gweithio yno’n amser llawn ers agor y lle, felly mae’n amlwg fod unrhyw un sy’n gweithio yno yn dechrau fel Dave neu’n dod yn Dave. Mae’n arwain nifer o deithiau grŵp o ysgolion o gwmpas y tŷ gwydr yn ogystal â gwneud yr holl waith garddio. Roedd yn braf iawn gweld sut mae’n ymgysylltu â phlant o bob oed mewn nifer o wahanol ffyrdd.

Bûm yn helpu hefyd gyda phlannu’r  gwely “Bathodyn” o flaen Castell Caerdydd. Mae’n dueddol o gael ei blannu mewn arddull draddodiadol, sef arddangosfa dros dro o blanhigion clos sy’n tyfu’n gyflym,  a thueddir i’w hailblannu bob tymor. Yn y tymor hwn roeddent yn plannu planhigion haf i sillafu “Bute Park” gydag ymylon o Echeveria a Sedum. Roeddwn wedi astudio sut mae plannu gwelyau yn gweithio mewn theori yn ystod fy nghwrs  RHS, ond roedd yn gyffrous cael rhoi hynny ar waith. Yn gyffredinol, mae’r  Cyngor yn ceisio rhoi’r gorau i blannu gwelyau traddodiadol gan ei bod yn cymryd llawer o amser i’w hailblannu a’u cynnal. A dydyn nhw ddim yn garedig iawn i’r amgylchedd gan ddefnyddio llawer o ddŵr a phlanhigion newydd. Ond maen nhw mor draddodiadol fel mae dyna mai pobl yn disgwyl ei weld!  Mae’n ymddangos i fi mai’r dewis mwyaf cynaliadwy yw  symud yn araf tuag at blannu mwy bytholwyrdd yn gyffredinol gan gadw arddangosfeydd o welyau ar gyfer lleoliadau arbennig.

Ar y cyfan oedd yn wythnos o leoliad  hyfryd iawn!  Dysgais lawer a chefais dipyn o hwyl wrth wneud hynny. Roeddent i gyd i’w gweld yn gyffrous iawn ynglŷn ag anfon eu prentisiaid atom ni hefyd!