Blogiau'r Ardd

Gweirgloddiau gwych. . . yn cael eu llunio

gan

Un o’r rheiny yw Cyngor Sir Caerfyrddin i adfer cae yn safle da i flodau gwylltion sy’n denu peillwyr.

Rydym wedi cychwyn drwy blannu hadau’r rhywogaeth barasitaidd Gorudd cyffredin (Odontites vernus) ac Effros (rhywogaeth Euphrasia) i wanhau’r porfeydd ymhen amser, gan roi lle i fwy o flodau gwylltion ffynnu. Hefyd mae’r swyddog gwyddoniaeth Dr Kevin McGinn a minnau wedi dechrau plannu planhigion plwg ar draws y cae.  Y rhai cyntaf i gael eu plannu oedd Carpiog y Gors (Lychnis flos-cuculi) blodyn gwyllt hardd gyda sblash o flodau pinc fel tân gwyllt bychan yng ngweirglodd yr haf. Plannodd Kevin a fi rai yn rhannau gwlypaf y cae, lle byddant yn tyfu’n gyflym.  

Hefyd yn cael eu plannu bydd tamaid y cythraul (Succisa pratensis), y prif fwyd i lindys britheg y gors (Euphydryas aurinia) sydd dan fygythiad.  Bydd y blodau gwyllion eraill, fel carpiog y gors, yn darparu blodau i’r pili-pala llawn dwf fforio ynddynt am neithdar, a gobeithio y bydd hynny’n cysylltu safleoedd magu allweddol. Mae amrywiol  rywogaethau o flodau gwylltion eraill wedi eu dewis yn arbennig ar gyfer y safle – rhai mae ymchwilwyr yr Ardd wedi dangos eu bod yn blanhigion pwysig i wahanol beillwyr, o wenyn unigol i bryfed hofran.

Lychnis flos-cuculi

Cafodd y plygiau i gyd eu tyfu yn yr Ardd yn ein tŷ gwydr sy’n cael ei alw’n NG4 gan ddefnyddio hadau wedi eu casglu o Warchodfa Natur Genedlaethol Waun Las ar y safle.  Rydym yn defnyddio ‘hambyrddau cyfeirio’ dwfn i dyfu ein planhigion mawr er mwyn i’r blodau gwylltion gael gwreiddiau da cyn eu plannu. Yn ystod y flwyddyn neu ddwy bwriadwn ychwanegu mwy o blygiau yn y cae hwn, ynghyd â ‘gwair gwyrdd – gwair ffes yn llawn hadau o’n gweirgloddiau blodau gwylltion – i’w wneud yn gynefin ardderchog i bob math o fywyd gwyllt.

Mae Gerddi Botaneg yn fannau rhagorol  lle mae ffiniau garddwriaeth a gwyddoniaeth yn croesi. Mae’n  bleser cael gweithio gyda gwyddonwyr fel Kevin, Abigail a Laura wrth i’w gwaith ymchwil ar flodau gwylltion a pheillwyr gynyddu ein gwybodaeth am werth rhyfeddol mannau sy’n llawn blodau gwylltion, ac o gyfuno hynny a’r profiad ymarferol o dyfu, gall gael ei gymhwyso i hybu bioamrywiaeth allan yn y gwyllt.