- Mae tua 20,000 rhywogaeth o wenyn yn y byd, ond dim ond 270 rhywogaeth yn unig sydd gennym yn y DU
- Mae’r rhan fwyaf o wenyn ddim yn creu mêl neu fyw mewn cytrefi
- Dim ond gwenyn benywaidd sy’n gallu pigo
- Yn union fel yr adar, mae yna wenyn cwcw hefyd! Mae’r rhain yn targedu nythod o rywogaethau arall ac yn dodwy eu hwyau tu mewn
- Datblygodd wenyn o bicwn, gan esblygu i fod yn llysieuwr yn y broses
- Er ein bod yn meddwl am wenyn fel darlun o’r haf, mae cacwn wedi addasu i hinsawdd oer ac yn tarddu o’r mynyddoedd Himalaya.
- Mae gan wenyn bedair adain
- Mae gwenyn mel yn gallu cyfathrebu lleolid planhigion trwy “dawns waggle”
- Hen enw am gacwn oedd dumbledor, a dyna o le mae prifathro Hogwarts yn cael ei enw o
- Dim ond gwenyn benywaidd sydd â thadau oherwydd mae gwenyn gwrywaidd yn datblygu o wyau heb eu ffrwythloni – sy’n golygu bod gan wrywod deidiau ond nid tadau!
- Mae tair rhywogaeth o wenyn yn y DU sy’n nythu mewn cregyn malwod
- Dim ond gwenyn benywaidd sy’n casglu paill
- Gellir dod o hyd i wenyn ar bob cyfandir ac eithrio Yr Antarctig
- Mae’r rhan fwyaf o rywogaethau gwenyn yn y DU yn nythu yn y ddaear
- Mae llawer o wenyn yn cael eu henwi ar ôl y deunyddiau a ddefnyddiant i leinio eu nythid – mae gwenyn torri dail yn defnyddio dail a saerwenyn yn defnyddio mwd
- Mae tair rhywogaeth o gacwn yn y DU wedi mynd yn ddiflanedig
- Mae gwenyn mêl fel arfer yn hedfan rhwng 1-2km o’r cwch gwenyn ond gall hedfan hyd at 10km pan fydd bwyd yn brin
- Mae’r rhan fwyaf o wenyn dim ond yn byw am ychydig o wythnosau
- Mae gwenyn yn bwydo ar baill ar gyfer protein, a neithdar ar gyfer egni (carbohydrad)
- Mae yna rywogaeth o wenynen i’w gael yn un man yn unig y DU sef Pen Llŷn yng Ngogledd Cymru – ei henw yw’r saerwenynen fawr, Osmia xanthomelana
Mae gwenyn yn wynebu bygythiadau ledled y byd, yn bennaf o ganlyniad o:
- Colli cynefinoedd
- Defnyddio plaladdwyr a chwynladdwyr
- Newid hinsawdd
Felly beth allwch CHI ei wneud i helpu?
Gwnewch eich gardd yn lle cyfeillgar i beillwyr – nid tirwedd ddi-haint lle na all unrhyw beth fyw.
- Plannwch blanhigion sy’n gyfeillgar i beillwyr
- Creu cynefinoedd bywyd gwyllt
- Creu gwestai gwenyn
- Dim mwy o fawn na phlaleiddiaid
- Cynyddu ffynonellau dwr
- Gadewch ardal ddiorchudd ar gyfer nythu yn y ddaear
Os ydych chi eisiau dysgu mwy am y wahanol fathau o wenyn, dyma’r adnodd ar-lein gorau gyda lluniau a gwybodaeth am holl wenyn y DU gan yr arbenigwr Steven Falk