Blogiau'r Ardd

Canllaw i Flodau Gwyllt Mis Ebrill

gan

Mae mis Ebrill yn fis gwych ar gyfer blodau gwyllt, ac yn sgil y tywydd cynnes yr ydym wedi’i gael y mis hwn, mae’n amser perffaith i ddysgu am rai o’n rhywogaethau blodau gwyllt brodorol. Ar ôl gaeaf hir, daw mis Ebrill fel rhyddhad mawr, a dyma’r mis pan fo natur yn dod yn fyw. Mae dail yn poblogi canghennau gwag yn gyflym ac yn dechrau gwyrddhau ein tirweddau.

Mae coetiroedd hynafol yn cynhyrchu’r arddangosfeydd mwyaf dramatig o flodau gwyllt ym mis Ebrill. Mae cyfres o liwiau yn carpedu llawr y coetiroedd. Gan ddechrau gyda llygaid Ebrill melyn hyd at flodau’r gwynt gwyn ac yn olaf, clychau’r gog ysblennydd, sydd ar eu hanterth ar hyn o bryd. Cadwch lygad am farddanadl melyn, gleision y coed a thegeirianau porffor y gwanwyn os byddwch yn cerdded trwy goetiroedd.

Oeddech chi’n gwybod..? Mae hanner holl flodau clychau’r gog y byd i’w cael yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn ffodus iawn i brofi arddangosfeydd mor ddisglair o liw.

Ar hyd perthi, mae llwyni drain duon yn cynhyrchu blodau gwyn a fydd yn y pen draw yn datblygu’n eirin surion bach. Yn yr isdyfiant, mae tafod yr edn mwyaf yn dringo ar hyd cloddiau â pherthi rhwng briallu a briallu Mairsawrus.

Mae dant y llew a llygaid y dydd yn ymddangos dros nos ac yn dod â bywyd i lawntiau gerddi ac ymylon ffyrdd. Wrth i’r holl flodau hyn ymddangos, mae gwenyn a gloÿnnod byw yn dod i’r golwg. Os hoffech ddysgu sut i adnabod rhywogaethau pryfed y gallech ddod o hyd iddynt yn eich gardd, mae ein myfyriwr PhD, Abigail Lowe, wedi llunio canllawiau adnabod rhagorol ar gyfer pryfed hofran, gwenyn, gloÿnnod byw a gwyfynod, y gallwch ddod o hyd iddynt yma.

Rydym wedi llunio’r canllaw defnyddiol hwn i rai o’r blodau gwyllt mwyaf cyffredin a hardd y gallwch ddod o hyd iddynt ym mis Ebrill. Gobeithio y bydd hyn yn rhoi man cychwyn i chi fynd ymlaen i adnabod hyd yn oed mwy o rywogaethau. Mae mis Ebrill yn dirwyn i ben, ond byddwch yn gallu gweld y rhan fwyaf o’r planhigion hyn am wythnosau lawer i ddod.

Gall yr amrywiaeth o rywogaethau planhigion ymddangos yn frawychus ar y dechrau, ond ar ôl i chi ddechrau eu hadnabod, byddwch yn gallu gweld llawer mwy o’ch cwmpas a byddwch yn gweld y planhigion hyn ym mhob man yr ewch chi. Byddwn yn cyhoeddi mwy o ganllawiau drwy gydol y flwyddyn ac yn rhoi mwy o awgrymiadau i’ch helpu â’ch sgiliau adnabod.

Mae croeso i chi dagio @BiophilicWales neu @WatersElliot ar Twitter mewn lluniau o flodau gwyllt yr ydych wedi’u gweld, neu y mae angen help arnoch i’w hadnabod!

Lawrlwytho: Canllaw i Flodau Gwyllt Mis Ebrill