Blogiau'r Ardd

Mannau Ysbrydoledig: gwirfoddoli i ddod â natur i’r Bwrdd Iechyd

gan

Fy enw i yw Keith Davies ac rwy’n wirfoddolwr Caru Natur Cymru. Hmm, mae hynny’n swnio ychydig fel cyflwyniad i Alcoholics Anonymous (mae’n debyg) ac mae’n siŵr y byddai’n rhaid i mi gyfaddef fy mod ychydig yn gaeth – nid i Alcohol ond i nodau ac athroniaeth Caru Natur, yn rhan o’r prosiect presennol sy’n cael ei redeg gan Kathryn Thomas.

Beth y mae Caru Natur yn ei olygu i mi, y gwirfoddolwr?

Bod yn yr awyr agored – am nifer o flynyddoedd pan oeddwn yn “gweithio”, roeddwn yn eistedd y tu ôl i ddesg neu lyw car, ac nid oeddwn yn sylweddoli cymaint yr oeddwn yn ei golli. Baeddu fy nwylo wrth i mi ddatblygu “potensial” ym mha amgylchedd bynnag yr ydym yn ceisio ei wella.

Ymarfer corff – i helpu i sicrhau bod y cyhyrau’n dal i weithio’n iawn.

Ymarfer meddyliol – cael fy herio a’m sbarduno gan y dasg, a hynny i helpu i sicrhau bod fy ymennydd yn dal i weithio’n iawn.

Plannu’r Dyfodol – mae fel gweld dechrau’r canlyniad, pan na allwch ond dychmygu’r doreth o flodau gwyllt, y blodau ar y coed, a bylbiau ffres y gwanwyn yn dod i’r golwg trwy’r pridd.

Rhannu amser â phobl o’r un anian, gan ffurfio tîm a meithrin cyfeillgarwch newydd â nhw.

Teimlo’n flinedig braf ar ôl ymdrechion y dydd pan fyddwch yn cyrraedd adref – teimlad o foddhad, o dasg wedi’i chwblhau’n dda, ac, er ei fod yn ystrydeb, gallu “rhoi rhywbeth ‘nôl”.

Y syniad o greu mannau lle gall staff sydd dan straen, neu gleifion, neu ymwelwyr y cleifion, eu defnyddio yn noddfeydd tawel, ymhell i ffwrdd o dymestl salwch ac emosiynau amrwd – mae hynny’n beth gwych i’w wneud.

Ac os oes yna hefyd atyniad ar gyfer wenyn, gloÿnnod byw a bywyd gwyllt arall, yn ogystal â’r noddfa dawel, yna byddai hynny’n lladd dau dderyn, fel petai! Yn fwy na dim, mae’n rhywbeth y mae’n hwyl bod yn rhan ohono – er gwaethaf y difrifoldeb sylfaenol. Ond a ydw i wedi crybwyll y cacennau?

Mewn gwirionedd, ymunais â Caru Natur Cymru cyn i Kathryn ddechrau gweithio ar y prosiect gan fod y ddau ohonom wedi bod yn ymwneud â’i chyflogwr blaenorol, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yng Ngŵyr – roedd hi’n gyflogai, ac roeddwn i – ie, dyna ni – roeddwn i’n wirfoddolwr. Roedd yn hawdd i mi geisio ei chefnogi yn ei menter newydd, er gwaetha’r ffaith nad oeddwn y gwybod union hyd a lled yr hyn a oedd yn ofynnol; beth y gallaf ei ddweud am hynny – roeddwn yn ifanc ac ychydig yn ddiniwed…

Felly, cawsom ein cyflwyno’n go iawn ddwy flynedd yn ôl, ym mis Ionawr 2020 i fod yn fanwl gywir, yma yn yr Ardd Fotaneg. Roedd yna bedwar ohonom ni wirfoddolwyr a oedd yn barod i gysegru ein bywydau i brosiect a fyddai’n rhedeg am dair blynedd (o’r mis Mawrth blaenorol!). Penderfynodd y pedwar ohonom fod dydd Mawrth yn addas i bawb, ac felly daeth dydd Mawrth yn ddiwrnod Caru Natur – oni bai fod gwyliau neu salwch yn ein rhwystro.

Am yr ychydig wythnosau cyntaf, roeddem yn gwneud ychydig o waith o amgylch yr Ardd Fotaneg tra bo Kathryn yn mynd ati i drefnu’r unigolion, cael gafael ar y deunyddiau crai a’r offer, a chynllunio’r blaenoriaethau. Yn ystod y cyfnod hwn, wrth gwrs, roeddem yn dysgu’r hyn a ddisgwylid gennym, ac mae’n rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi rhoi amser caled i Kathryn, o bosibl. Pam yr oeddem yn gwneud gwaith garddwyr a oedd eisoes yn cael eu cyflogi ar safleoedd y Bwrdd Iechyd? Pam yr oedd yr holl gyllid yn dod i Caru Natur yn lle mynd yn uniongyrchol i’r GIG?

Os ystyrid bod blodau gwyllt a mannau tawel o amgylch safleoedd y Bwrdd Iechyd mooooor bwysig, pam cyflogi pobl newydd i gyflawni’r cynlluniau hyn? Roedd yn swnio i mi fel petai rhywun yn ceisio ailddyfeisio’r olwyn – ond fel yr wyf eisoes wedi’i gyfaddef, roeddwn yn ifanc ac ychydig yn ddiniwed.

Mewn gwirionedd, roeddem yn cynnig llygaid newydd, persbectifau newydd a sgiliau newydd, ac – yn fwy pwysig – cyllid newydd nad oedd yn tynnu oddi ar y gwaith pwysig yr oedd y Bwrdd Iechyd yn ei wneud i’r GIG.

Wrth gwrs, roedd hyn oll cyn COVID, a darodd ym mis Mawrth, dw i’n meddwl. Roeddwn yn gandryll gan mai fi oedd yr unig un yn ein grŵp bach a oedd dros 70 oed, ac roedd cael fy ngorchymyn i fynd adre ac aros yno – gan y Llywodraeth – yn teimlo braidd yn bersonol. Ond yna, digwyddodd y cyfyngiadau symud llawn cyntaf , gan chwalu ein cynlluniau am gryn dipyn o amser.

Nid oeddwn o hyd yn deall yr angen am flodau gwyllt ac ardaloedd tawel, ac ati, ar safleoedd y Bwrdd iechyd ac o’u cwmpas.

Ond, wrth i’r pandemig ledaenu fel tân gwyllt, ac wrth i ni i gyd weld lluniau o staff meddygol dan straen, gwawriodd arnaf yn araf pam yn union yr oedd prosiect o’r fath yn gwbl angenrheidiol. Os oes yna fannau y gellir eu gwella’n weddol rwydd, mannau sy’n bodoli ond nad ydynt yn cael eu defnyddio llawer ar hyn o bryd, mannau a all ddarparu gwerddon i ffwrdd o’r straen, yna rhaid bod hynny’n well defnydd o’r gofod hwnnw.

Ystyriwch yr holl gyrtiau bach hynny yn Ysbyty Treforys sydd fwy neu lai yn anhygyrch ac sydd wedi dod yn fannau sy’n casglu sbwriel, llanast a chwyn. Gydag ychydig bach o ofal, gallent fod yn werddonau bach o lonyddwch.

Ystyriwch y cwrt yn Ysbyty Gorseinon, sydd ar ei ffordd i fod yn ofod defnyddiadwy a dymunol iawn – gyda llwythi o goed ffrwythau a pherth newydd o amgylch y perimedr a fydd yn meddalu’r ffens fetel.

Roedd yn rhaid mynd i’r afael ag iechyd meddwl y staff hynny a oedd dan straen, ac rwy’n wirioneddol obeithio ein bod wedi gwneud rhywfaint i liniaru’r broblem hon.

Wrth gwrs, er bod tîm Caru Natur Cymru yn brysur yn ceisio creu ardaloedd dymunol o amgylch y gwahanol safleoedd, siawns denau iawn sydd y byddwn yn elwa ar ein gwaith llaw, na hyd yn oed yn gweld beth sydd wedi tyfu o ganlyniad i’n gwaith plannu, ein dwylo budron a’n cefnau poenus. Pam – oherwydd ein bod yn rhy brysur yn ail-greu hen leoedd, sef ein rheswm am fod.

Felly, i grynhoi … Gobeithio fy mod wedi llwyddo i amlinellu’r ymdeimlad o frwdfrydedd yr wyf i a’m cyd-wirfoddolwyr yn ei gynnig i’r Prosiect, a gobeithio y bydd y Prosiect yn parhau am flynyddoedd lawer.

Gwelwch uchafbwyntiau prosiect Caru Natur Cymru, sydd yn Oriel yr Ardd ar hyn o bryd