Blogiau'r Ardd

Darn arall yn y pysl peilliwyr: Ymchwil newydd yn datgelu mewnwelediadau hynod ddiddorol i’r planhigion a ddefnyddir gan wenyn a phryfed hofran

gan

Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd mawr yng nghefnogaeth ar gyfer peillwyr gan y cyhoedd, gyda nifer yn dewis i brynu planhigion peillwyr-cyfeillgar ar gyfer eu gerddi. Er gwaethaf y bwriadau da yma, nid yw’n bosib bob tro i ddod o hyd i’r planhigion iawn.

Mae yna nifer o restrau ar gael sy’n rhoi cyngor ar ba blanhigion sydd orau, ond yn aml maent yn anghyson, heb eu cefnogi gan ymchwil wyddonol ac nid ydynt yn nodi i ba grŵp o beillwyr (gwenyn, pryfed hofran, gwyfynod, gloÿnnod byw, ayyb) maent yn targedu. Er mwyn i ni sicrhau ein bod yn cefnogi amrywiaeth o grwpiau o beillwyr trwy gydol y flwyddyn, mae angen dealltwriaeth ddyfnach o ba blanhigion a ddefnyddir ar draws y tymor, a gan ba peillwyr.

Mae ein hastudiaeth newydd, wedi’i gyhoeddi yn y Journal of Applied Ecology, yn helpu i ateb rhai o’r cwestiynau yma.

Yma yn yr Ardd Fotaneg, rydym wedi treulio’r blynyddoedd diwethaf yn defnyddio ein gwybodaeth arbenigol am godio-bar DNA er mwyn astudio ymborthiant gwenyn mêl. Trwy hyn, rydym wedi datblygu dealltwriaeth ardderchog o ba blanhigion a ddefnyddiwyd gan wenyn mêl trwy gydol y tymor, nid yn unig yn yr Ardd Fotaneg ond ar draws y DU.

Fodd bynnag, yn y DU, un rhywogaeth yn unig yw’r gwenyn mêl, ac mae gennym ni tua 280 o rywogaethau gwahanol o wenyn. Mae hyn yn cynnwys cacwn (24 rhywogaeth) a’r gwenyn unigol sy’n amrywiaethol iawn a gallant fod yn nythu yn eich gwestai gwenyn. Roedden eisiau defnyddio ein sgiliau metabarcodio DNA er mwyn dysgu mwy am ba blanhigion y mae rhywogaethau gwenyn eraill yn eu hymweld â nhw hefyd. Mae ein hymchwil blaenorol am bryfed hofran mewn porfeydd rhywogaethau-cyfoethog wedi dangos eu bod yn grŵp pwysig o beillwyr, ond maent yn aml yn cael eu hedrych drosodd, felly roedden yn awyddus i gynnwys y grŵp diddorol iawn yma.

O fis Mawrth i fis Hydref, dros ddwy flynedd, fe wnes i gerdded ar hyd trawslun yn yr Ardd a Gwarchodfa Natur Waun Las sydd yn amgylchynu, gan gasglu unrhyw wenyn (cacwn, gwenyn mêl a gwenyn unigol) a phryfed hofran wnes i eu ffeindio. Mae’r paill sydd ar y pryfed yn cynnwys DNA’r planhigion, felly rydym yn gallu defnyddio hyn fel ffynhonnell wybodaeth o ba blanhigion y mae’r unigolion wedi ymweld â nhw. Ar ôl casglu’r pryfed, roedd angen i fi golchi’r paill oddi ar eu cyrff, tynnu allan DNA’r planhigion, cynyddu’r ardal o DNA a defnyddiwyd ar gyfer adnabyddiaeth gan ddefnyddio PCR (term mae pawb nawr yn gyfarwydd gyda!), yna danfon y samplau i gael eu dilyniannu. Wedyn, fe wnaethom gymharu’r dilyniannau DNA i’r llyfrgell cyfeirnod a wneir, a oedd yn bosib trwy’r prosiectau Bar-codio Cymru a Bar-codio DU, er mwyn darganfod pa blanhigion a wnaeth y pryfed ymweld â nhw.

Ar draws 41 rhywogaeth o bryf hofran, chwe rhywogaeth o gacwn, naw rhywogaeth o wenyn unigol ac un rhywogaeth o wenyn mêl a wnes i eu casglu o’r Ardd, cafodd paill o 191 planhigyn gwahanol eu ffeindio ar eu cyrff trwy gydol y flwyddyn. Fe wnaeth gwenyn a phryfed hofran defnyddio llawer o’r un planhigion, ond pan ddaeth i edrych ar gyfranwyr mwyaf u’w bwyd, roedd yna wahaniaethau arwyddocaol.

Dant y llew, blodau menyn a llygad Ebrill oedd eu hoff blanhigion yn y gwanwyn. Yn yr haf, roedd llwyni mwyar duon yn boblogaidd gyda phryfed hofran a gwenyn. Ond roedd gwenyn yn hoff iawn o’r bengaled, ysgall a melynydd, lle’r oedd pryfed hofran yn ffafrio angelica ac efwr. Yn yr hydref, fe wnaeth Rudbeckia, Helenium, Bidens a Coreopsis dod allan ar ben.

Hyd yn oed gyda dros 5000 o ddosbarthiadau o blanhigion o led led y byd i ddewis ohonynt yn y dirwedd yma, roedd rhan fwyaf o’r planhigion yr oedd y gwenyn a phryfed hofran yn ymweld yn frodorol neu’n agos at frodorol. Ond, mae planhigion garddwriaethol dal yn chwarae rhan bwysig yn y misoedd hwyrach, pan mae’r planhigion brodorol wedi gorffen blodeuo, gan estyn y tymor a darparu ffynhonnell bwyd hwyr.

Yr astudiaeth yma yw’r bennod gyntaf i’w gael ei gyhoeddi o fy thesis PhD, prosiect pedwar blynedd wedi’i ariannu gan KESS*, a wnes i ei wneud yn yr Ardd Fotaneg mewn cydweithrediad gyda Phrifysgol Bangor.

Mae’r gwaith yma yn barod wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer ein Cynllun Sicrwydd Achub Peillwyr, sef cynllun labelu unigryw sydd yn sicrhau bod planhigion wedi eu profi i fod yn dda ar gyfer peillwyr, nid ydynt yn cynnwys unrhyw bryfleiddiad, ac maent wedi cael eu tyfu mewn gwrtaith heb fawn. Mae’r Cynllun Sicrwydd Achub Peillwyr, wedi’i ariannu trwy’r prosiect Tyfu’r Dyfodol**, yn rhoi’r ymddiriedaeth i arddwyr i wybod pa blanhigion sydd yn dda ar gyfer peillwyr a’r amgylchedd.

Fy awgrymiadau gorau i helpu peillwyr yn eich gardd:

  • Darparwch blanhigion trwy gydol y flwyddyn trwy leihau torri’r lawnt er mwyn cefnogi planhigion fel dant y llew a blodau menyn yn y gwanwyn, a phlannu serenllysiau sy’n blodeuo’n hwyr, fel Rudbeckia/Helenium, Bidens/Coreopsis ac Aster ar gyfer porthiant yn yr hydref.
  • Lleihau rheolaeth o brysgwydd er mwyn hybu miaren Rubus fruticosus.
  • Peidio defnyddio pryfladdwyr, chwynladdwyr a mawn yn eich gardd.
  • Darparu cynefinoedd nythu addas yn eich gardd e.e. gwestai gwenyn ar gyfer nythwyr o’r awyr, a gwair hir a byr ar gyfer gwenyn sy’n nythu yn y ddaear.
  • Darparu cynefinoedd dyfrllyd a phren sy’n pydru er mwyn cefnogi amrywiaeth o bryfed hofran.

*Fe wnaeth Abigail derbyn cyllid gan y Knowledge Economy Skills Scholarships (KESS 2), sef menter lefel uwch traws-Cymru sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Bangor ar ran sector Addysg Uwch yng Nghymru. Caiff ei ariannu mewn rhan gan raglen cydgyfeiriad ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd Gronfa Gymdeithasol Ewrop Llywodraeth Cymru.

**Mae prosiect Tyfu’r Dyfodol wedi derbyn cyllid trwy raglen Llywodraeth Cymru Cymunedau Gweledig – Rhaglen Datblygu Wledig 2014 i 2020, a chaiff ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.