Blogiau'r Ardd

Caru Cen

gan

Am amser maith, meddyliwyd bod cen yn berchen i’r deyrnas planhigion, nes yn 1868 fe wnaeth botanegwr Swisaidd, Simon Schwender, darganfod bod cen yn organebau cyfansawdd: perthynas symbiotig rhwng ffyngau ac alga. Fe wnaeth y “rhagdybiaeth ddeuol” yma dechrau symud y ffiniau o’r hyn rydym yn meddwl yw rhywogaeth. Hyd heddiw, mae cen yn parhau i brocio tyllau mewn athrawiaethau gwyddoniaeth fodern a datgelu bylchau dwfn ym mhersbectifau o’r hyn sydd yn penodi organeb unigol. Yn achos cen deiliog (mwy am hyn nes ymlaen), darganfyddwyd bod yr algâu ungellog yn byw mewn haen gwahanol du fewn i gorff y cen. Gellir gweld hyn yn y trawstoriad yn y llun uwchben, wedi’i baratoi yn y labordai yn y Canolfan Gwyddoniaeth.

“Mae cen yn llefydd lle mae organeb yn datod mewn i ecosystem a lle mae ecosystem yn ceulo mewn i organeb.”

– Merlin Sheldrake

Po fwyaf mae cen yn cael eu hastudio, po fwyaf cymhleth maent yn ymddangos, ac maent yn disgleirio mwy o olau ar ddiffygion persbectif biolegol llym. Cafodd y term “The Lichening Rod” ei gynnig gan guradur casgliad cen Prifysgol Columbia Brydeinig, Trevor Goward, er mwyn disgrifio’r “dealltwriaeth uwch” sydd yn dilyn pan mae cen yn “taro syniadau cydnabyddus, ac yn eu torri mewn i ffurfiau newydd.”

Mor ddiweddar â 2016, cafodd y llinell sylfaenol o’n dealltwriaeth o gen ei dorri unwaith eto, y tro yma gan gennegydd Americanaidd, Toby Spribille. Fe wnaeth darganfod trydydd chwaraewr yng ngêm cen: burum basidiomycet ffwngaidd. Yn flaenorol, meddylir bod ond un ffwng – asgomysét – oedd yn bodoli ym mhob cen. Fe wnaeth Spribille profi bod ym mron pob achos, mae yna ffwng ungellog arall yn cuddio tu fewn i gorff y cen. Ar ben hynny, mae’n amau bod rhagor o rywogaethau a fydd yn cael eu darganfod yn y dyfodol. Mae’r darganfyddiad yma yn estyn tu hwnt i fioleg gymhleth y cen. Yng ngeiriau Merlin Sheldrake:

“Nid ydy siarad am unigolion yn gwneud unrhyw synnwyr bellach. Mae Bioleg – astudiaeth o organebau byw – wedi trawsnewid i ecoleg – astudiaeth o berthnasau rhwng organebau byw.”

– dyfyniad o “Entangled Life”

Hynny yw, mae organeb a meddyliwyd amdano fel rhywogaeth unigol wedi troi allan i fod yn ymgyfuniad o organebau sydd yn perthyn o bell; efallai bydd y ffordd yma o feddwl yn torri unigolion cyffredin arall mewn i organebau aml-rhywogaethol. Beth sydd yn gwneud unigolyn mewn gwirionedd? Ydy’r term “rhywogaeth” yn ddarfodedig? Ydy bodau dynol yn unigolion neu yn ecosystemau cyfan? Gellir mynd ymlaen…

Mae defnyddio’r “lichening rod” yn y modd yma yn darparu arf pwerus i ail-feddwl ac ail-ddylunio’r pileri sydd yn cynnal ein dealltwriaeth bresennol o’r byd naturiol.

Unwaith rydych yn agor eich llygaid yn wirioneddol i fyd cen, byddech yn eu ffeindio pobman rydych yn edrych: ar reiliau pren, lloriau concrit, arwynebau metel sy’n rhydu, a hyd yn oed ar ffenestri gwydr, heb sôn am bron pob cilfach arall yn y byd naturiol! Yn aml caiff cen eu hanwybyddu fel smotiau o fwd, baeddu neu lwch, ond mae’r organebau neilltuol yma yn ganolog er mwyn cynnal y bywyd rydym yn gyfarwydd gyda. Trwy brosesau mecanyddol yn ogystal â chynhyrchiad asidau cryfion, mae cen yn gallu torri lawr unrhyw arwyneb maent yn byw arno, gan gynhyrchu’r pridd cyntaf mewn ecosystemau newydd. Mae’r gallu unigryw a gwerthfawr yma o basio defnydd anorganig mewn i fyd metabolig y byw yn gwneud cen chwaraewyr allweddol mewn prosesau dynamig y ddaear trwy amser daearegol.

Os ydych wedi cyrraedd hyd yma, rhaid bod gennych ddiddordeb yn y gwahanol fathau o gen gellir eu ffeindio eich hun. Mae gan gen tri math o forffoleg (gellir eu gweld yn y lluniau ar dop y tudalen, a dynnwyd yn yr Ardd!):

  • Cen Ffurf Dail (deiliog)

Mae’r cennau yma yn eistedd ar ben eu swbstrad, ac mae ganddynt weadedd fflat a deiliog. Yn gyffredinol, maent wedi eu hangori gan risinau ar draws eu hochr isaf cyfan, gyda llabedau allanol yn codi oddi wrth y swbstrad. Yn aml bydd ganddynt dau liw gwahanol ar yr ochr uchaf ac ar yr ochr isaf.

  • Cen Ffurf Ffrwyth (llwynaidd)

Mae ganddynt adeiledd 3D, gyda ffurfiau tebyg i goeden a ffurfiau canghennog. Mae’r cen yma naill ai yn sefyll lan i ffwrdd o’r swbstrad, neu yn hongian lawr mewn ffilamentau hir a thusw.

  • Cen Cramennog

Mae cennau cramennog wedi eu gosod y tu mewn i haenau arwynebol cerrig, rhisgl neu bren, ac yn aml maent yn ymddangos fel eu bod yn rhan o’r swbstrad ei hun. Maent yn hollol fflat a gellir eu ffeindio mewn amrywiaeth anhygoel o liwiau; o oren, i goch, i felyn neon! Yn aml, maent wedi’i gorchuddio gan frychni neu smotiau bach, sef y cyrff hadol ffwngaidd.

Gydag ansawdd air gwych, ac amrywiaeth eang o blanhigion a mathau o gerrig, mae’r Ardd yn lle perffaith i ddod er mwyn chwilio am gen. Tra eich bod yma, edrychwch allan am gen Llysiau’r ysgyfaint y coed (Lobaria pulmonaria), nid yw’n bell o’r cerflun o’r tarw du sydd yn agos at y Tŷ Gwydr Mawr. Ceisiwch adnabod yr amrywiaeth o gen cramennog sydd u’w ffeindio trwy’r arddangosfa Craig yr Oesoedd ar hyd Y Rhodfa. Yn olaf, sicrhewch i ymweld ag Oriel yr Ardd yn y Stablau, sydd ar hyn o bryd yn dangos arddangosfa ‘Mi Wela i Gen’. Cafodd ei greu gan aelodau’r grŵp Pwytho Botanegol, gyda’r bwriad i gymysgu celf a gwyddoniaeth yn greadigol i gynhyrchu arddangosfa anhygoel.

Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld yn fuan!