Blogiau'r Ardd

Brawychus neu Brydferth: Sut i Adnabod Pryf Cop gan eu Gweoedd

gan

Bydd gweoedd carpiog yn addurno nifer o gartrefi’r Calan Gaeaf yma, wedi’u hadeiladu yn ofalus gan bryfed cop yn ymguddio ym mannau tawel ein tai. Caiff hydref ei ystyried yn aml i fod yn dymor pryfed cop, gan taw dyma’r adeg rydym yn eu gweld fwyaf aml yn cropian o gwmpas yn edrych am gymar. Mae gweoedd sydd fel arfer yn anweladwy hefyd yn dod i’n sylw gan ddefnynnau gwlith a rhew ar foreau oer. Rydym wedi cael nifer o foreau gwlithog yma yn yr Ardd, sydd wedi datguddio cannoedd o we bryf cop prydferth yn hongian ar blanhigion.

Mae yna 650 o rywogaethau o bryf cop yn y DU, ac mae nifer ohonynt yn gweu gweoedd er mwyn dal ysglyfaeth, gan adeiladu eu gweoedd ar draws llwybrau hedfan posib, neu yn isel er mwyn dal pryfed sy’n cropian ar y llawr. Ond a oeddech chi’n gwybod gallech ffeindio allan pa bryf copyn sydd yn llercian o’i gynllun gwe? Gall gweoedd cael eu categoreiddio mewn i tua wyth fath gwahanol, pob un gyda dyluniad gwahanol ac yn defnyddio gwahanol fathau o sidan. Er ni ellir adnabod pryf copyn yn bendant o’i gwe yn unig, fel arfer bydd siâp y we yn rhoi cliw i ba deulu mae’r pryf copyn yn berchen. Mae’r post yma yn rhoi crynodeb o bob math o we a pha deuluoedd pryfed cop sydd yn eu hadeiladu.

  1. Gweoedd Cronnell

Mae’r we cronnell ymysg yr adeileddau mwyaf eiconig mae pobl fwyaf aml yn eu cysylltu gyda phryfed cop. Mae cynlluniau’r gweoedd yma yn gamp anhygoel o bensaernïaeth, wedi’u hadeiladu trwy’r synnwyr o gyffwrdd yn unig! Mae aelodau o bum teulu pryf cop Prydeinig yn adeiladu gweoedd cronnell: Araneidae, Tetragnathidae, Theridosomatidae ac Uloboridae.

Mae gan y we tair prif gydran:

  • Mae’r edefyn ffrâm yn angori’r we cynheiliaid sydd o amgylch ac yn cysylltu i’r edeifion reiddiol.
  • Mae’r edeifion reiddiol yn dod allan o’r canolbwynt, ac yn ymddwyn fel cynheiliad i’r droellen ludiog.
  • Y droellen ludiog yw’r rhan sydd yn dal ysglyfaeth, a defnynnau gludiog sy’n cael eu secretu gan y pryf copyn sydd yn ei wneud yn ludiog. Neu, mae’r teulu Uloboridae yn adeiladu eu gweoedd allan o fath penodol o sidan sydd yn ymddwyn fel felcro trwy lynu ar goesau a blew pryfed.

Ar ôl adeiladu ei we, mae’r pryf copyn naill ai yn eistedd yn y canol neu yn cuddio mewn enciliad, gan aros i bryfyn hedfan mewn i’r we, a chael ei ddal yn y droellen ludiog am ddigon hir i’r pryf copyn ymosod. Mae’r gweoedd yma yn fregus iawn, ac felly yn cael eu difrodi gan y glaw a’r gwynt, ac mae’r defnynnau gludiog yn dod yn llai sticlyd dros amser. Felly, bydd y pryf copyn yn bwyta gwe ei hun pob diwrnod neu dau er mwyn ailgylchu’r sidan ac adeiladu gwe newydd.

  1. Gweoedd Twmffat

Mae’r math yma o we yn cynnwys cynfas gwastad o sidan gydag enciliad tiwbaidd mewn un cornel, lle mae’r pryf copyn yn gallu cuddio oddi wrth ysglyfaeth ac ysglyfaethwyr a chadw wyau. Creuwyd y math yma o we gan un teulu pryfed cop Prydeinig yn unig, Agelenidae. Caiff Textrix dendiculata ei ffeindio yn aml mewn waliau carreg, ac mae’r Pryf Copyn Labrinth (Agelena labyrinthica) yn gweu ei gwe yn isel mewn gwair, eithin neu grug. Rydym i gyd yn gyfarwydd gyda’r gweoedd a adeiladwyd gan bryf cop tai (rhywogaethau Tegenaria ac Eratigena), sydd yn garlantu yr ardaloedd yn ein tai a siediau nad ydym yn eu defnyddio yn aml. Dyma’r mathau o bryfed cop sydd yn dueddi i ddychryn pobl y mwyaf pan maent yn gwibio ar draws y llawr neu yn cael eu dal mewn baddonau, yn enwedig adeg yma o’r flwyddyn pan mae’r gwrywod yn crwydro o gwmpas yn edrych am fenyw. Mae’r pryf copyn tŷ mawr (Eratigena atrica) yn un o’r infertebratau cyflymaf yn y DU, ac maent yn gallu tyfu i gael lled coesau hyd at 8cm. Er maent yn edrych fel creaduriaid dychrynllyd i nifer o bobl, nid ydynt yn beryglus fel arfer ac maent yn gallu cydfyw yn ein cartrefi yn hapus iawn, gan fwydo ar bryfed annymunol eraill!

  1. Gweoedd Clymau

Er bod gweoedd clymau yn ymddangos fel cymysgedd flêr a did-drefn o edeifion, mewn gwirionedd maent yn rhwydweithiau tri-dimensiwn cymhleth o sidan, sydd wedi cael eu dylunio ar bwrpas i ddal pryfed sydd yn mynd ynghlwm yn y we. Caiff gweoedd clymau eu hadeiladu gan y teuluoedd Theriidae, Nesticidae, Pholcidae a Dictynidae. Pryf cop Jac y Baglau (Pholcus phalangioides) yw’r aelod o Pholcidae rydym yn dod ar draws mwyaf aml yn ein cartrefi; maent yn gweu gwe fregus flêr mewn corneli ystafelloedd ar lefel y nenfwd a hefyd y tu ôl i ddodrefn. Mae’r pryfed cop yma yn gwneud gwesteion cartref da oherwydd maent yn bwyta plâu tai annymunol a hefyd pryfed cop sydd yn llawer mwy o faint!

  1. Gweoedd Les

Tair rhywogaeth o Bryf Cop Gweoedd Les (Amaurobidae) yn unig sydd i gael yn y DU, ac maent i gyd yn cynhyrchu rhwydwaith blêr o’r sidan sy’n ymddwyn fel Felcro, sy’n dod allan o enciliad crwn. Mae’r math yma o we yn debyg i weoedd twmffat, ond mae yna fwy o le rhwng yr edeifion, gan wneud i’r we edrych yn fwy fel les nac fel cynfas sidan, ac mae ganddo sglein glas amlwg. Mae’r gweoedd yma yn aml yn cael eu hadeiladu o gwmpas agennau mewn waliau, ffensys a fframiau ffenestri.

  1. Gweoedd Rheiddiol

Dyma fath o we eithaf minimol, lle mae’r llinellau o sidan sydd yn dod allan o diwb sidanaidd ond yn gweithredu fel weiren faglu er mwyn rhybuddio’r pryf copyn bod yna ysglyfaeth, ond nid yw’r we ei hun yn gwneud unrhywbeth i ddal y pryfed. Mae’r pryf copyn yn cuddio mewn twll sydd wedi’i leinio gan sidan, gan aros i bryfyn crwydro heibio, gan ysgogi un o’r weiers baglu, ac mae’r pryf copyn yn saethu allan gan orlethu ei ysglyfaeth. Ond un teulu o bryf cop Prydeinig sydd yn creu’r math yma o we, sef Segestriidae, sydd gyda thair rhywogaeth sy’n byw yn y DU. Segestria florentina yw’r rhywogaeth Segestriidae mwyaf o faint, gyda benywod yn tyfu i 2cm hyd, ac mae sail eu genau yn aml yn wyrdd llachar!

  1. Gweoedd Hamog/Cynfas

Mae gweoedd cynfas ychydig yn geugrwm wedi’u sefydlu ar draws llwyni neu rhwng coesynnau planhigion, yn aml gyda nifer o weoedd yn blancedi un llwyn. Mae’r gweoedd yma yn ymddwyn fel hamogau marwol sydd yn dal pryfed sy’n disgyn sydd wedi cael eu taro i lawr ar ôl gwrthdaro gyda’r edeifion sy’n croesi ei gilydd uwchben y cynfas. Caiff y gweoedd yma eu creu gan y teulu mwyaf o bryf cop sydd i gael yn y DU, sef y pryfed cop arian (Linyphiidae), sy’n cynnwys 280 o rywogaethau.

  1. Clychau Plymio

Y Pryf Copyn Cloch Blymio (Argyroneta aquatica) yw’r unig rywogaeth o bryf cop yn y DU sydd yn treulio rhan fwyaf o’i fywyd o dan y dŵr. Mae’r pryf copyn yma yn adeiladu cloch blymio allan o sidan rhwng coesynnau planhigion o dan y dŵr, ac yn ei lenwi trwy drapio swigod aer yn y blew ar ei abdomen, a’u tynnu i lawr u’w rhyddhau o dan y cynfas. Unwaith bod yr ocsigen yn y gloch wedi’i disbyddu, mae’r we ag aer hefyd yn gallu echdynnu’r ocsigen sydd wedi’i ymdoddi yn y dŵr, gan ymddwyn fel math o dagell! Yn y diwedd, bydd y we yn cwympo, a bydd angen i’r pryf copyn teithio i’r arwyneb er mwyn casglu mwy o swigod aer, ac mae’n ei wneud tua unwaith y diwrnod.

  1. Gweoedd Meithrinfa

Math arall o we nad yw’n cael ei ddefnyddio i ddal ysglyfaeth yw’r hyn a greuwyd gan Pisaura mirabilis. Mae’r fenyw yn cario sach mawr o wyau o gwmpas, a pan maent ar fin deori bydd hi’n adeiladu pabell sidan ymysg planhigion er mwyn amddiffyn ei hepil, gan eu cysgodi nes iddynt allu goroesi ar ben ei hunain.

Am ryw reswm, mae pryfed cop wedi llwyddo i ennill enw gwael dros y blynyddoedd, er iddynt fod ymysg penseiri mwyaf anhygoel byd natur, gydag amrywiaeth mawr o ddyluniadau gweoedd a strategaethau i ddal ysglyfaeth. Dylai priodweddau eu sidan fod yn ddigon iddynt haeddu parch ac edmygedd mawr. Mae sidan pryfed cop yn anhygoel o hyblyg, elastig a chryf, ac mae gan un math o sidan diriant tynnol sy’n debyg i ddur aloi gradd uchel! Hefyd, mae pryfed cop yn un o’n grwpiau mwyaf o infertebratau ac yn bwysig iawn gan eu bod yn ysglyfaethu ar nifer o blâu cnwd a hefyd yn rheoli’r poblogaethau o bryfed yn ein cartrefi. Calan Gaeaf yma, yn lle glanhau pob un we pryf copyn ym mhob cilfach ac agen yn eich cartref, cymerwch olwg agosach ar y pryf copyn ei hun, a gwerthfawrogi’r amser ac ymdrech mae wedi ei gymryd er mwyn creu’r adeiledd rhyfeddol yma.

 

Cyfeirnodau

Bee, L., Oxford,  G., Smith, H., Britain’s Spiders: A Field Guide, 2nd edition, Wild Guides, Princeton University Press

Hendry, L., Natural History Museum, Ar gael: https://www.nhm.ac.uk/discover/spider-webs.html

Hawkes, A., Bay Nature, Ar gael: https://baynature.org/article/spiders/