Blogiau'r Ardd

Cylchlys Ymledol – Ein Darganfyddiadau

gan

Treuliwyd y mis diwethaf yn cynnal arolwg ar gyfer y Cylchlys Ymledol (Campanula patula) sydd mewn perygl yn ddifrifol, ac mae ei niferoedd wedi bod yn disgyn yn gyson ers dechrau’r 19eg ganrif (gwelir post blog blaenorol). Treulion ni tua phythefnos mewn cyfanswm, yn ymweld â phob safle gwybyddus lle mae’r blodyn wedi cael ei recordio ers 2000, gan flaenoriaethu safleoedd gyda chofnodion mwy diweddar. Ein nod oedd ailadrodd yr arolwg a chynhaliwyd gan y Tîm Gwyddoniaeth yma yn yr Ardd Botaneg yn 2011, i weld sut mae’r rhywogaeth wedi ffario dros y degawd diwethaf. Fe wnaeth yr her yma teimlo’n anorchfygol i ddechrau, ond gydag ymchwil a threfnu gofalus llwyddon ni i gynllunio pob trip maes a pha safleoedd roedd angen i ni ymweld â nhw.

Yn ystod ein trip maes cyntaf, teithion ni tua’r de i Wlad yr Haf ac yna i Swydd Gaerloyw, lle ffeindion ni dwy boblogaeth cymharol fawr o’r Gylchlys Ymledol. Ffeindion ni bron 50 o unigolion yn y Bryniau Mendip, Gogledd Gwlad yr Haf, ar lethr serth gwelltog a hefyd ar hen ragfuriau castell canoloesol. Rydym yn credu taw dyma’r boblogaeth Cylchlys Ymledol pellaf i’r dde, gan nad oes unrhyw unigolion yn Surrey nac yn Sussex bellach.

Ein stop nesaf oedd ymweliad i Goedfa Westonbirt, lle mae Cylchlys Ymledol wedi bod yn ymddangos mewn lleoliadau amrywiol o gwmpas y safle, mewn llefydd lle mae’r ddaear wedi cael ei aflonyddu. Mae gan Gylchlys Ymledol rhai anghenion cynefinol diddorol, ac un ohonynt yw bod angen i’r pridd cael ei aflonyddu er mwyn dod a’r hadau i arwyneb y ddaear i egino. Yn Westonbirt mae’r Cylchlys Ymledol wedi cael ei ffeindio yn gyson mewn caetsys prysgoedio coed gyll, lle mae’r dull traddodiadol o brysgoedio wedi creu’r aflonyddwch sydd ei angen ar y planhigion i dyfu. Defnyddiwyd prysgoedio ers canrifoedd er mwyn reoli coedwigoedd Prydain, ac yn golygu torri coed lawr i’r stwmp a gadael i’r egin newydd i dyfu, gan ddarparu cyflenwad o bren ac amrywiaeth o gynefinoedd i’r bywyd gwyllt. Meddylir bod darfyddiad dulliau traddodiadol o reoli coedwigoedd wedi cyfrannu at ddirywiad Cylchlys Ymledol mewn llawer o ardaloedd yn y DU, felly mae’n calonogi i wybod bod y Cylchlys Ymledol yn gallu ffynnu mewn mannau lle mae prysgoedio yn parhau.

Yn ystod ein trip maes nesaf, teithion ni tua’r gogledd i Swydd Gaerloyw, Swydd Henffordd a Swydd Gaerwrangon, gan gyrraedd mor bell â Birmingham, cyn mynd nôl tua’r de yn dilyn ffin Cymru-Lloegr i Swydd Amwythig, Powys ac Aberhonddu. Aethon ni i lawer o lefydd diddorol ar y daith ffordd pump-diwrnod yma, gan gynnwys reidiau coetir, glofa wag a hyd yn oed cwrs golff! Ymwelon ni â 27 o safleoedd mewn cyfanswm, ac roedd naw ohonynt yn bositif ar gyfer y Cylchlys Ymledol.

Roedd nifer o’r safleoedd lle ni ffeindion ni unrhyw Cylchlys Ymledol yn ymylon caeau neu argloddiau llawn tyfiant, sydd yn amlwg ddim yn cael eu rheoli yn iawn i annog twf y rhywogaeth. Fodd bynnag, hyd yn oed os ni ffeindion ni unrhyw dystiolaeth o Gylchlys Ymledol mewn ardal, nid ydy hyn reidrwydd yn golygu nad yw’n bresennol. Un o’r anawsterau wrth gynnal arolwg ar gyfer y planhigyn yma yw ei bod yn ddwyflynyddol, felly nid yw’n cynhyrchu blodau tan ei ail flwyddyn o dwf. Felly, gall planhigyn wedi bod yn bresennol fel rhosglwm yn ei flwyddyn gyntaf o dwf, sydd bron yn amhosibl i’w ffeindio a’i adnabod.

Her arall wrth geisio penderfynu os ydy Cylchlys Ymledol wedi mynd yn ddiflanedig mewn ardal, ond sydd hefyd yn cynnig gobaith ar gyfer ei gadwraeth, yw ei fanc hadau parhaus hirdymor. Felly, mae’n bosib i’r rhywogaeth ail-ymddangos mewn mannau ar ôl bod yn absennol am amser hir os ydy’r amodau yn gywir a chaiff y ddaear ei aflonyddu. Mae hyn yn golygu bod potensial mawr i fudiadau a pherchnogion tir i gydweithio er mwyn rheoli’r safleoedd lle mae’r Cylchlys Ymledol wedi cael ei recordio o’r blaen er mwyn hybu ei dwf yn y dyfodol.

Roedd yna pum safle ymwelon ni â nhw, lle ffeindion ni Cylchlys Ymledol eleni ond ni chafodd ei ffeindio yno yn ystod yr arolwg 2011. Mae hyn yn profi er gall y planhigyn bod yn absennol o safle am nifer o flynyddoedd, mae dal gyda’r potensial i ddod yn ôl.

Un o’r safleoedd mwyaf diddorol ac anarferol ymwelon ni oedd gardd bwthyn yn Sir Fynwy sydd yn cynnwys y boblogaeth fwyaf o Gylchlys Ymledol yn y DU. Eleni ffeindion ni 82 o unigolion yn y safle yma (o’i gymharu â 19 yn unig yn 2011) sef 35% o’r holl blanhigion ffeindion ni yn ystod ein harolwg. Dyma un allan o ddau safle yn unig sydd ar ôl yng Nghymru lle ffeindion ni Cylchlys Ymledol. Yr unig safle arall yng Nghymru yw ym Mhowys, lle daethon ni o hyd i un planhigyn unig. Felly, mae’r boblogaeth fawr o Gylchlys Ymledol yn yr ardd bwthyn yn bwysig iawn, ac mae trigolion y bwthyn yn ymdrechu i warchod y rhywogaeth ac annog ei dwf. Hefyd, fe wnaethon ni dychwelyd i’r ardd er mwyn casglu hadau, gan sicrhau i beidio cymryd gormod fel nad oedden yn effeithio ar ei adfywiad. Bydd yr hadau gwerthfawr yma yn cael eu sychu a’u glanhau, cyn cael ei storio yn saff yma yn yr Ardd Botaneg sydd yn gartref i Fanc Hadau Cenedlaethol Cymru. Bydd rhai hadau hefyd yn cael eu danfon i Erddi Botaneg Frenhinol, Kew fel rhan o Fanc Hadau’r Mileniwm er mwyn sicrhau bod ei gasgliadau yn cynnwys hadau o boblogaethau Cymraeg o rywogaethau planhigion y DU, sydd gydag addasiadau i gynefinoedd Cymreig. Bydd yr hadau wedi’u cadw yn gweithredu fel polisi yswiriant rhag ofn i boblogaethau gwyllt o Gylchlys Ymledol parhau i ddirywio a chyrraedd pwynt argyfwng, a bydd angen eu hailgyflwyno.

Mewn cyfanswm, daethon ni o hyd i 236 o unigolion ar draws Cymru a Lloegr, a oedd yn bennaf wedi eu cyfyngu i ardal ffin Cymru, o’i gymharu â 295 o unigolion yn yr arolwg 2011. Cam nesaf y prosiect ymchwil yma bydd i dynnu DNA allan o samplau dail a gasglwyd ac i gynnal dadansoddiad genetig i edrych ar y lefelau o amrywiaeth genetig a mewnfridio o fewn y poblogaethau sydd ar wahân. Bydd y canlyniadau yma yn ein helpu i ddeall sut mae’r Cylchlys Ymledol wedi ffario dros y deng mlynedd diwethaf, ers i’r arolwg diwethaf cael ei gynnal, a gall hefyd helpu i gynllunio ymdrechion cadwraeth a strategaethau rheoli.