Blogiau'r Ardd

Cylchlys Ymledol – Un o Blanhigion Prinnaf Cymru

gan

Myfi yw Ellyn, y myfyriwr newydd sydd ar leoliad yn y Canolfan Gwyddoniaeth yn yr Ardd Fotaneg! Rydw i wedi bod yn gweithio yma am dair wythnos, ond rwyf yn barod wedi dysgu cymaint, a nawr yn gyfrifol am gynllunio prosiect i gynnal arolwg ar blanhigyn Prydeinig prin iawn, y Cylchlys Ymledol (Campanula patula), sydd wedi disgyn mewn niferoedd yn ddramatig yng Nghymru a Lloegr.

Yma yn y Ganolfan Gwyddoniaeth, mae’r tîm wedi bod yn gweithio er mwyn cyfrannu at gadwraeth a goroesiad hirdymor nifer o blanhigion sydd mewn perygl yng Nghymru, gan ddefnyddio cyfuniad o ymchwil maes a dulliau genynnol a fydd yn cyfrannu at gynlluniau cadwraeth. Mae un planhigyn yn benodol sy’n achosi pryder mawr, sef y Cylchlys Ymledol, sydd mewn perygl yn ddifrifol yng Nghymru, ac mae’n flaenoriaeth o safbwynt cadwraeth. Er yn gyffredin ym mwyafrif o Ewrop, yn y DU mae’r boblogaeth wedi’i gyfyngu i ardaloedd ffin Cymru yn unig, ac mae angen amodau cynefin penodol arno er mwyn tyfu yn llwyddiannus. Yn fwy na thebyg, y newidiadau diweddar mewn arferion amaethyddol sydd wedi achosi’r dirywiad mewn digonedd y Cylchlys Ymledol, a’r cyfyngiad yn ei ystod.

Deng mlynedd yn ôl, fe wnaeth y Tîm Gwyddoniaeth ymgymryd â’r dasg o gynnal arolwg o bob poblogaeth o’r Cylchlys Ymledol oedd ar ôl yng Nghymru a Lloegr, gan ddefnyddio cofnodion o’r planhigyn. Cafodd Cylchlys Ymledol ei ganfod yn 22% o’r safleoedd a ymwelwyd, gyda 19 o blanhigion wedi’u ffeindio yng Nghymru, a 275 o blanhigion wedi’u ffeindio yn Lloegr. Ar ôl gwneud dadansoddiad genetig, darganfyddwyd lleihad yn amrywiaeth genynnol poblogaethau’r DU dros amser, gan awgrymu bod y boblogaeth yn llai iachus a llai addasadwy i newidiadau yn yr amgylchedd, sydd yn cynyddu’r perygl o’r rhywogaeth yn mynd yn ddiflanedig.

Fodd bynnag, mae dal gobaith i’r Cylchlys Ymledol, sydd wedi bod yn olygfa gydnabyddus mewn coetrych ac ar hyd llwybrau coedwigol am gannoedd o flynyddoedd. Nodwedd ddiddorol y planhigyn yw bod ganddo fanc hadau parhaus, sy’n golygu bod yr hadau yn gallu aros yn hyfyw yn y pridd am flynyddoedd (hyd at 40 mlynedd mewn rhai achosion!). Dyma’r rheswm pam mae’r Cylchlys Ymledol fel arfer yn cael ei ffeindio mewn cynefinoedd sydd wedi cael eu haflonyddu, gan fod yr aflonyddwch (er enghraifft prysgoedio, plygu gwrych ac agor ffosydd) yn dod â’r hadau i arwyneb y ddaear fel eu bod yn gallu egino. O ganlyniad, mae’r Cylchlys Ymledol yn gallu ail-ymddangos mewn safleoedd ar ôl bod yn absennol ers amser maith, gan roi llygedyn o obaith ar gyfer ei gadwraeth, os yw’r cynefinoedd yn cael eu rheoli’n gywir.

Yn ystod yr haf hwn, mae’r Tîm Gwyddoniaeth yn bwriadu ailadrodd yr arolwg a gynhalwyd yn 2011, er mwyn gweld os yw’r boblogaeth wedi newid yn y deng mlynedd diwethaf. Fy nghyfrifoldeb i yw cynllunio ymweliadau i’r safleoedd o gwmpas ffin Cymru-Lloegr, a de i Wlad yr Haf a Surrey. Byddwn hefyd yn casglu samplau dail o bob unigolyn er mwyn gwneud dadansoddiad genetig a fydd yn ein helpu i ddeall yn well sut mae’r poblogaethau yn gwneud, a’r lefelau o fewnfirido mewn poblogaethau ynysedig. Byddwn hefyd yn casglu hadau o un o’r poblogaethau Cymraeg olaf, er mwyn eu storio’n ddiogel fel rhan o Fanc Hadau’r Mileniwm.

Rydw i’n edrych ymlaen at ddechrau chwilio am y planhigyn prin yma, nid oeddwn byth wedi ei weld cyn dechrau yn yr Ardd. Rydw i yn enwedig yn gyffrous i ddarganfod sut mae poblogaethau’r planhigyn wedi newid dros y deng mlynedd diwethaf, a chyfrannu at ymdrechion cadwraeth sydd gyda’r potensial i achub y Cylchlys Ymledol rhag mynd yn ddiflanedig yn y DU!