Blogiau'r Ardd

Blwyddyn ym mywyd y defaid Balwen yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

gan

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn cynnwys 468 erw o dirwedd treftadaeth a adferwyd yn ddiweddar, gerddi ffurfiol, dolydd, coetir a thir pori.

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las yw rhan o’r tir hwn. Er mwyn rheoli’r warchodfa ac annog bioamrywiaeth, mae gyr o wartheg Duon Cymreig traddodiadol a diadell o ddefaid Balwen yn cael eu rhoi i bori yn y porfeydd a’r dolydd. Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yw’r unig warchodfa natur genedlaethol yng Nghymru sydd â’i fferm weithredol ei hun yn rhan o’i rhaglen bioamrywiaeth.

Yn ystod y pedair blynedd diwethaf, mae diadell o ddefaid Balwen wedi cael eu cyflwyno fel y brid o ddefaid Cymreig i bori’r caeau.

Cyflwyniad byr i frid y Balwen  

Yr Hanes

Mae defaid Balwen yn frid brodorol gwydn, bach, sy’n tarddu o rannau uchaf Dyffryn Tywi. Mae hon yn ardal tua 50 milltir sgwâr, ar ffin Sir Gaerfyrddin. Yn ystod gaeaf trychinebus 1947, bu bron i’r brid ddiflannu am byth gan mai dim ond un hwrdd a oroesodd. Ers hynny, mae’r niferoedd wedi cynyddu’n gyson iawn, ac, yn 1985, ffurfiwyd y Gymdeithas Defaid Mynydd Cymreig Balwen. Er bod y niferoedd yn dal i gynyddu’n gyson, mae Defaid Mynydd Cymreig Balwen yn parhau i fod ar restr wylio Ymddiriedolaeth y Bridiau Prin.

Y Marciau

Mae gan ddefaid Balwen farciau deniadol iawn, a’r rheiny’n amlwg gan fod eu cnu yn ddu/frown tywyll yn bennaf, er bod rhesi brith yn ymddangos gydag oedran. Mae ganddynt seren wen ar eu hwyneb, mae dau draean isaf y gynffon yn wyn, ac mae ganddynt bedair hosan wen. Ystyr Balwen yn Gymraeg yw seren wen. Mae’r gwrywod yn gorniog a’r benywod yn ddi-gyrn.

Y Gwytnwch

Mae defaid Balwen yn frid gwydn da. Mae ganddynt gnu hynod o drwchus a swmpus, hyd at ddyfnder o 30 cm o’r croen. Gan fod y gwlân mor drwchus, mae’n anodd iawn rhannu’r cnu i weld y croen. Mae’r gwlân hefyd yn cynnwys llawer iawn o lanolin, sef olew sy’n atal dŵr. O ganlyniad i hyn, mae defaid Balwen yn gallu ffynnu mewn amodau gwlyb ac oer iawn.

Yr Ŵyn

Bydd defaid Balwen fel arfer yn cael un oen yn eu blwyddyn wyna gyntaf, ac yna efeilliaid, yn aml, yn y blynyddoedd dilynol. Mae defaid Balwen yn famau da iawn, ac yn amddiffyn a gwarchod eu hŵyn rhag ysglyfaethwyr a pheryglon. Maent yn cynhyrchu swm da o laeth ac mae’r ŵyn yn tyfu’n gyflym. Y traddodiad yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yw i’r tymor wyna fod ym mis Mawrth. Mae’r tywydd yn tueddu i fod yn arw o hyd bryd hyn, ond mae’r defaid Balwen yn gallu ymdopi am fod gan yr ŵyn eisoes gnu trwchus pan fyddant yn cael eu geni, sy’n eu galluogi i wrthsefyll yr oerfel a’r gwlybaniaeth. Mae defaid Balwen yn gallu geni eu hŵyn y tu allan yn llwyddiannus.

Gwlân a chig

Mae’r gwlân yn lliw du neu frown tywyll cyfoethog. Mae’n cael ei raddio yn wlân meddal/canolig, sy’n golygu bod mynd arno ymhlith nyddwyr am ei fod yn hawdd ei nyddu.

Mae’r ŵyn yn tyfu ac yn tewhau’n gyflym oherwydd llaeth cyfoethog eu mamau a’r amrywiaeth o dir pori sydd ganddynt. Mae hyn oll yn creu cig rhagorol o gyfoethog, melys a thyner, sy’n berffaith ar gyfer bwytai lleol, digwyddiadau arbennig a phrydau teuluol.

Pori

Mae defaid Balwen yn ysgafndroed a sionc, sy’n golygu eu bod yn gallu pori caeau heb ddifetha’r tir. Mae defaid Balwen hefyd yn borwyr effeithlon ac yn gallu pori ar borfeydd garw, glaswelltau a hesg y byddai defaid eraill yr iseldir yn osgoi eu bwyta, a hynny gan barhau i gynnal cyflwr da y corff. Mae Gwarchodfa Natur Waun Las yn fferm organig, sy’n golygu bod yna amrywiaeth eang o fflora y gall y defaid Balwen bori arnynt, gan sicrhau deiet buddiol ac amrywiol iddynt. Rheolir y defaid Balwen o fewn y system organig.

Cymeriad

Mae defaid Balwen yn llawn cymeriad. Maent yn graff, yn annibynnol, ac yn hynod o wyliadwrus o unrhyw beth newydd. Maent yn hapus mewn amgylchedd cyfarwydd, ac mae ganddynt gof rhagorol. Mae gweithio gyda defaid Balwen yn berthynas ddwyffordd, ac maent bob amser gam ar y blaen. Yn anad dim, mae’n bleser aruthrol gweld a gweithio gydag anifail sy’n hynod o ddeallus ac yn rhan annatod o’r dirwedd.

Trwy gydol y gyfres hon o flogiau:

Bydd bywyd a chymeriad y defaid Balwen, ynghyd â’r pleser a’r digwyddiadau sydd ynghlwm wrth eu rheoli o ddydd i ddydd yng Ngwarchodfa Natur Waun Las, yn cael eu dilyn a’u dogfennu. Bydd y blogiau’n cynnwys wyna, cneifio, diddyfnu a pharu, ynghyd â’r buddion i’r amgylchedd ac i fioamrywiaeth y tir sy’n deillio o’r defaid Balwen. Gobeithio y gallwch ddilyn wrth i’r flwyddyn ym mywyd y defaid Balwen yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ddechrau.