Roedd y parcdiroedd yn enghraifft gynnar o ddelfrydau Darluniadol yn cael eu defnyddio wrth gynllunio tirweddi, ynghyd â’r gwahaniaethau y gall natur eu ddangos – un funud yn dawelwch hardd a’r funud nesaf y ddrama o weld dŵr yn byrlymu dros bistyll, cored a rhaeadr. Gallwn weld chwech o bymtheg darlun a wnaed gan Thomas Hornor, a oedd wedi ei wahodd gan William Paxton i beintio cyfres o olygfannau ar draws yr ystâd ym 1815. Mae’r manylion cymhleth yn y darluniau hyn o’r parcdir a’r llynnoedd wedi rhoi i’r dylunwyr a’r peirianwyr gyfoeth o wybodaeth yn sail i gynlluniau’r gwaith adfer.
Yn ystod y ddwy fyned a hanner diwethaf mae safle’r gwaith adfer wedi bod yn fyw o weithgarwch. Yn haf poeth 2018 gwelwyd peiriannau mawrion yn ymgymryd â’r dasg o symud 22,000m3 o laid o waelod Llyn Mawr a oedd wedi crynhoi dros y degawdau blaenorol. Wedyn cafodd clai ei gloddio o byllau benthyg yn y caeau gerllaw i greu’r argae a hwnnw’n cael ei galedu gan beiriant a elwir yn rholiwr troed neu droed dafad. Yn amser Paxton byddai’r gwaith caledu hwn wedi ei wneud gan deuluoedd yn defnyddio berfâu a phreiddiau o ddefaid – a dyna sy’n rhoi ei enw i’r peiriant modern. Byddai pob haen yn cael ei phrofi ag offer geodechnegol, i sicrhau y byddai’r argae’n cyrraedd gofynion llym y Ddeddf Argaeau. Mae Llyn Mawr yn un o’r llynnoedd mwyaf yn yr Ardd Fotaneg – dros 65,000m3, sydd deirgwaith yn fwy na’r llynnoedd presennol i gyd gyda’i gilydd! Mae’r argae yn 350m o hyd ac mae tair arllwysfa i fynd â’r dŵr dros yr argae. Defnyddir arllwysfa un mewn amodau cyffredin bob dydd, ac mae’r ddwy arall wedi eu llunio i allu delio â llifogydd trymach.
Mae yna chwe phont i gyd sy’n cysylltu i ddarparu cyfres o gylchedau cerdded ar hyd y dirwedd. Cyrhaeddodd y ddwy bont ddur, a wnaed gan gwmni Afon Engineering yn Abertawe, ar graeniau ym mis Awst 2019. Gosodwyd dwy bont yn ddiweddar a bydd y ddwy olaf yn cael eu gosod o fewn y pythefnos nesaf sy’n cwblhau’r rhwydwaith o bontydd sy’n cysylltu’r dirwedd.