Blogiau'r Ardd

Bu’r chwiliad am y gwenyn eiddew yn parhau…

gan

Mae’r gwenyn unigol mawr yma yn edrych yn debyg i’r gwenyn mel (Apis mellifera) yn fras, ond pan wnewch chi sbïo yn agosach, allwch chi weld y gwahaniaeth. Bu’r fenyw gyda bandiau llydan, melyn golau ar ei abdomen a gwallt sinsir ar ei thoracs, a sut mae’r enw yn awgrymu maent yn bwydo ei nythaid yn gyfan gwbl gyda neithdar a phaill o flodau’r eiddew (Hedera helix). Mae’r gwenyn eiddew yn nythu mewn pridd rhydd (tywodlyd yn aml) ac mae’n well ganddynt ddefnyddio banciau a chlogwyni sy’n wynebu i’r de. Gan fod y gwenyn eiddew yn wenyn unigol, mae’r fenyw yn creu nyth ei hun ond yn aml gallwch weld agregiadau trwchus o filoedd o nythod. Hefyd, mae’r gwenyn gwrywaidd yn hedfan tu fas mynediad y nyth i gyd-fynd a’r menywod ac weithiau gall nifer o wenyn gwryw fynd ati i drio paru ag un fenyw, sy’n achosi clwstwr o wenyn.

Y gwenyn eiddew yw’r wenynen unigol olaf i ddod allan, yn ymddangos tua chanol i ddiwedd mis Medi ac yn hedfan tan ddechrau mis Tachwedd, sy’n eu gwneud yn eithaf hawdd i gydnabod. Mae’r rhan fwyaf o wenyn unigol wedi diflannu erbyn hyn, gyda rhai gwenyn turio yn ymddangos mor gynnar â Chwefror mewn rhai ardaloedd.

Er i’r gwenyn eiddew cyrraedd, bu wedi lledaenu dros dde Lloegr ac wedi cael eu gweld mor bell â gogledd Swydd Efrog (data BWARS cyn Rhagfyr 2017). Yng Nghymru, mae o wedi cael ei weld yn gynefinoedd arfordirol fel y Gwŷr, Sir Benfro a Llandudno, yn debyg oherwydd ei hoffter i nythu ar fanciau tywodlyd. Dydy Colletes hederae ddim wedi cael ei weld mewndir yn aml (yng Nghymru), ond cafodd e ei weld yn Llandeilo yn Medi 2017 (iRecord), tua 6-8 milltir yn bellach o’r arfordir na’r Ardd. Mae hwn yn gwneud i fi feddwl gall ei absenoldeb mewn rhannau o Gymru fod oherwydd mae yna ddiffyg cofnodi yn hytrach na’u bod ddim yn bodoli yn y mannau yma.

Yn ystod fy arolwg misol o flodau’r Ardd a’r ardal o amgylch, treuliais lawer o amser yn fis Medi a Hydref yn dodi fy mhen ymhlith planhigion eiddew i weld os alla i weld rhai, ond nid oeddwn yn llwyddiannus. Ges i ymdeimlad o obaith gan weld pethau’n hedfan o gwmpas, ond roedd y planhigion o hyd yn llawn picwn, pryfed hofran a gwenyn mel. Dal yn hyfryd i weld ond, yn anffodus dim beth oeddwn i yn chwilio amdano!

Ar ddiwedd mis Medi gwnes i fynd i dde Dyfnaint a meddyliais efallai fy mod yn gallu cael cyfle i weld y rhywogaeth ddirgel hon yr oeddwn wedi treulio wythnosau yn edrych am. Yn sicr, bum munud i mewn i’n dro cyntaf, fe welais ychydig bach o eiddew a dyna hi – yn llawn o Colletes hederae! Am weddill y penwythnos nes i weld rhai ar bron pob rhan o eiddew welais I, a ni nes i flino gweld nhw, yn ystyried faint o ymdrech nes i fynd i i ddarganfod y gwenyn yn yr Ardd. Rwy’n mynd i gadw llygad allan yn yr Ardd flwyddyn nesaf hefyd, gan efallai fe ddaw yn gyffredin yn Sir Gâr, gan edrych ar ei lwyddiant yng ngweddill y DU.

Felly, planhigyn y mae nifer o arddwyr yn meddwl am fel niwsans yn fuddiol iawn nid yn unig i’r gwenyn eiddew, ond am lawer o beillwyr arall fyd. Beth am adael rhan i fynd yn rhad yn eich gardd a gweld yr ymwelwyr fydd y blodau yn dod a’r Hydref nesaf? 

Mae’r Gymdeithas Cofnodi Gwenyn, Picwn a Morgrug yn gweithio ar brosiect mapio hirdymor er mwyn monitro lledaeniad Colletes hederae ym Mhrydain. Os oes gennych unrhyw gofnodion o’r gwenyn nodedig hon, rhowch wybod iddyn nhw.