25 Ion 2018

Cylchlythyr yr Ardd – Ionawr 24

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Croeso i gylchlythyr diweddara’r Ardd, os hoffech ei dderbyn yn syth i’ch cyfeiriad e-bost, cofrestrwch yma.

Gweler y cylchlythyr llawn yma.

Penwythnos Hen Bethau

 

Mae stondinau yn drymlwythog â thrysorau a bargeinion di-ri i drawsffurfio Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru – wrth i Ffair y cwmni Derwen Antiques dychwelyd i’r Ardd – yn ogystal â chriw ‘Bargain Hunt’ y BBC yn dychwelyd i ffilmio yn ystod y digwyddiad.
Bydd hen bethau, pethau casgladwy, retro a hen ffasiwn yn cymryd i’r llwyfan ymhlith y blodau prin ac sydd mewn peryg yma ar Ddydd Sadwrn a Dydd Sul 27ain a 28ain o fis Ionawr.

Mae digwyddiad poblogaidd Ffeiriau Derwen wedi cynyddu o 23 stondin yn y dyddiau cynnar, i fwy na 100, wedi gwasgaru ar draws y safle gan gynnwys Theatr Botanica, Pabell Fawr yr Ardd a Thŷ Principality, o gyfnod y Rhaglywiaeth.

Penwythnos i Chi a’r Ci

Yn ogystal â chynnal Penwythnos Hen Bethau’r penwythnos hwn ar y 27ain a’r 28ain o fis Ionawr, bydd yr Ardd hefyd yn lleoliad am Benwythnos i Chi a’r Ci!

Mae mis Hydref yn un arbennig gan fod dau Benwythnos i Chi a’r Ci – dros benwythnos y 6ed a 7fed, a’r 27ain a’r 28ain.

Dewch â’r ci bach am awyr iach gorau Sir Gâr!

Gweler rhestr llawn o reolau y Diwrnodau i Chi a’r Ci yma.  Caiff cŵn mynediad i siop goffi Y Pot Blodyn, ger prif fynedfa’r Ardd, Bwyty’r Tymhorau, y Siop Roddion ac ar brif gyntedd y Tŷ Gwydr Mawr.

Ni chaniateir cŵn ar lwybrau mewnol y Tŷ Gwydr Mawr, tu fewn i Blas Pilipala, na’r maes chwarae i blant chwaith. Ni chaniateir tenynnau estynedig, gallwch cyfnewid eich un chi am un sydd ddim yn ymestyn yn y brif fynedfa.

Mae’r Ardd a’r ffair ar agor o 10yb hyd at 4:30yp (gyda’r mynediad diwethaf am 3:30yp).  Mae mynediad i’r Ardd ond yn £4, gyda pharcio am ddim.

Am fwy o wybodaeth ar y digwyddiad hwn neu unrhyw ddigwyddiad arall, ffoniwch 01558 667149 neu e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk

Am fwy o wybodaeth ar Derwen Antiques, ewch i www.derwenantiques.co.uk

 

Cadw’n Heini – AM DDIM!

 

Peidiwch â cholli’ch cyfle olaf i fwynhau mynediad am ddim yn ystod yr wythnos trwy gydol fis Ionawr i gadw’n heini.  Mae dewis o lwybrau i’w dilyn, a byd natur i’w werthfawrogi ar bob un ohonynt.  Casglwch bamffled o’r llwybrau ‘Cadw’n Heini Am Ddim‘ yn y brif fynedfa ar eich ffordd i mewn, neu cymerwch olwg fan hyn i drefnu’ch ymweliad o flaen llaw.

Pam na wnewch chi gadw i’ch addunedau’r Flwyddyn Newydd drwy losgi’r calorïau gyda 568 erw o’r Ardd Fotaneg Genedlaethol fel cefndir?

Rydym wedi creu nifer o lwybrau o gwmpas yr Ardd – rhai ar lwybrau gwastad yn addas i rodwyr, pramiau a chadeiriau olwyn gyda rhai sy’n fwy garw, gyda llwybrau garw o gwmpas yr ystâd.

Mae’r amrywiaeth o lwybrau yma wedi cael eu marcio’n glir, ac mae map am ddim i’ch tywys ar eich taith – ac mae gan bob llwybr cyfradd ‘teisen gwpan’ sy’n cyfeirio at y radd o anhawster.

Os ydych chi’n mwynhau’r ffordd hon o gadw’n heini, beth am gymryd aelodaeth flynyddol er mwyn i chi gadw mwynhau mynediad am ddim i’r Ardd am weddill y flwyddyn.

Dydd Santes Dwynwen

 

Mae’n Ddydd Santes Dwynwen ar Ddydd Iau, Ionawr 25ain!

Dewch â’ch cariad am dro rhamantus o gwmpas llynnoedd yr Ardd, a choffi yng Nghaffi’r Canoldir y Tŷ Gwydr Mawr, ar ddiwrnod nawddsantes cariadon Cymru – mae mynediad AM DDIM!

 

Sgwrs Am Ddim

 

Cewch gyfle i galonogi dyddiau oer y gaeaf ym mis Ionawr trwy glywed straeon am anturiaethau botanegol o bob cwr o’r byd.

Bydd ymchwilwyr planhigion modern rhyngwladol yn rhoi sgyrsiau yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar dri Dydd Gwener yn olynol am 12 canol dydd – mae’r sgyrsiau am ddim ac mae mynediad i’r Ardd am ddim hefyd.

Colofnydd y Guardian, Robbie Blackhall-Miles, sy’n cwblhau’r triawd o helwyr garddwriaethol anhygoel ar Ionawr 26 gyda sgwrs o’r enw ‘Hunting Shapeshifters: the search for Proteas in the mountain of South Africa.’  Mae Robbie yn weithiwr planhigion a gwarchodwr.  Mae Planhigion Ffosil, ei gardd fotaneg yng Ngogledd Cymru, yn gartref i gasgliad o blanhigion esblygiadol cynnar.

Mae’r sgyrsiau’n dechrau am 12 canol dydd yn Theatr Botanica’r Ardd.  Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01558 667149, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk neu ewch i https://garddfotaneg.cymru

 

Penwythnos y Lili Wen Fach

 

Milltir cyfan o eirlysiau i’w gweld, ynghyd â chyngor gan ein harbenigwraig, Naomi Slade, sydd wedi gwirioni ar y blodau hyfryd hyn, ar Ddydd Sadwrn a Sul, Chwefror 3-4.

Adweitheg yn yr Ardd

 

A wyddoch chi bod yna stiwdio adweitheg o fewn yr Ardd?

Wedi’i leoli yn yr Ardd Wallace, mae Llawenydd yn cael ei rhedeg gan adweithegydd profedig, Jody Evans.

Adweitheg yw’r wyddoniaeth o ddefnyddio’r egwyddor bod meysydd atgyrch yn y traed a’r dwylo sy’n cyfateb i holl chwarennau ac organau’r corff.  Gan ysgogi’r atgyrchau hyn yn iawn, gall helpu llawer o broblemau iechyd mewn ffordd naturiol.

Mae triniaethau adweitheg yn para awr fel arfer, gydag ymgynghoriad meddygol cyn y driniaeth.

Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys archebu apwyntiadau, cysylltwch â Jody Evans ar 07766043237 neu e-bostiwch llawenyddjody@gmail.com