25 Hyd 2017

Cylchlythyr yr Ardd – Hydref 25

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Croeso i gylchlythyr diweddara’r Ardd, os hoffech ei dderbyn yn syth i’ch cyfeiriad e-bost, cofrestrwch yma.

Gweler y cylchlythyr llawn yma.

Hanner Tymor yr Hydref

Dewch i gerfio pwmpen a chael brwydr concyr!  Dyma ond dau o’r gweithgareddau’r hanner tymor hwn yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Bydd cerfio pwmpenni a hwyl gyda choncyrs yn dechrau ar Ddydd Sadwrn Hydref 28 a’n parhau tan y 31ain.  Yna bydd yr hwyl yn newid o Galan Gaeaf i’r Cynhaeaf gyda’r cyfle i bobi bara, gwneud dolis grawn, adeiladu fferm model a dowcio am afalau.

Bydd yna hefyd arddangosfa hedfan adar ysglyfaethus pob dydd, profiadau anhygoel i’w gael yn y Plas Pilipala trofannol a sorbio dŵr.

Mae’r holl weithgareddau i’r teulu hyn yn digwydd rhwng 11yb a 3yp.

Mae’r Ardd ar agor o 10yb hyd at 6yp, gyda’r mynediad diwethaf am 5yp hyd at Hydref 31ain, pan ddaw tymor haf yr Ardd i ben.  O Dachwedd y 1af, bydd yr Ardd ar agor o 10yb hyd at 4:30yp, gyda’r mynediad diwethaf am 3:30yp, wrth i dymor y gaeaf ddechrau.

Mae mynediad i’r Ardd yn £10.50 (gan gynnwys Cymorth Rhodd) i oedolion a £4.95 i blant dros bum mlwydd oed.  Mae mynediad AM DDIM i aelodau’r Ardd ac mae parcio am ddim i bawb.
Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad hwn, neu unrhyw ddigwyddiad arall, ffoniwch 01558 667149, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk neu ymwelwch â https://garddfotaneg.cymru/

 

Hocus Pocus Dan y Sêr

Mwynhewch ddigwyddiad Calan Gaeaf cynnar yma yn yr Ardd ar Ddydd Sadwrn, Hydref 28ain, gyda phrofiad sinema awyr agored yn dangos y clasur gan Disney, Hocus Pocus!

Bydd yna gwisg ffansi Calan Gaeaf, pwll tân, barbeciw, bar, pwnsh Calan Gaeaf, afalau taffi, popgorn, cerddoriaeth bwganllyd a mwy.

Bydd yna wobrau i’r wisg ffansi gorau!

Gan fydd hi hefyd yn ddiwrnod cyntaf hanner tymor yr hydref, bydd yna ddigonedd o ddigwyddiadau i’r teulu ymlaen gan gynnwys cerfio pwmpenni, concyrs, dowcio am afalau, celf a chrefft yn ystod y dydd, a fydd eich tocyn sinema yn caniatáu mynediad i’r Ardd hefyd, felly pam na wnewch chi ddiwrnod ohoni?

Mae tocynnau yn £12 i oedolion ac £8 i blant dan 16 mlwydd oed, ac ar gaelyma.  Digwyddiad yn dechrau am 5yh, ffilm yn dechrau am 6:30yh.

Llun gan Mathew Browne Photography.

 

Ffair Anrhegion

Dyma gyfle cynnar i nôl yr anrheg berffaith bob tro i ffrindiau a theulu ar Ddydd Sadwrn a Dydd Sul Tachwedd 4ydd a 5ed.

Gydag amrywiaeth eang o stondinau, o sgarffiau sidan wedi’u lliwio gan law a gwirod hufen Cymreig, i gardiau Nadoligaidd a thedis wedi’u gwneud gan law, cewch ddechrau da i’ch siopa Nadolig, i gyd yn y Tŷ Gwydr Mawr syfrdanol.

 

Punnoedd am Piers!

Mae aelod o dîm garddwriaeth yr Ardd, Piers Lunt, wedi cael ei ddewis ar gyfer ymgyrch gasglu hadau urddasol i Dasmania.

Nod yr her tair wythnos o hyd hon yw casglu hadau ar gyfer ein prosiect Coed Pedwar Ban yma yn yr Ardd.  Y gobaith yw y bydd y Llechwedd Llechi a’r Ardd Glogfeini hefyd yn elwa.

Caiff Piers ei ymuno gan arbenigwyr eraill o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Gerddi Botaneg Genedlaethol Iwerddon a Gerddi Botanegol Brenhinol y Tasmania, ond mae e angen eich helpu chi.

Mae’n rhaid iddo godi £2,000 i ariannu ei daith i Dasmania ac rydyn ni’n gobeithio y gall Aelodau helpu.

Rhowch yr hyn allwch chi os gwelwch yn dda ond, mewn gwir ffasiwn ariannu torfol, mae nifer o wobrwyon ar gael i’r rhoddwyr mwyaf hael:

£50 = 2 tocyn am ddim i’r Ardd
£100 = 4 tocyn am ddim i’r Ardd a thaith tywys arbennig o’r ‘Coedwig Pedwar Ban’ gan Piers
£250 = 2 tocyn teulu, taith tywys gan Piers, te prynhawn unigryw yn y Tŷ Gwydr Mawr a’ch enw’n ymddangos ar label planhigyn o sbesimen Tasmania.

Os gallwch chi helpu, cysylltwch â Jane Down yn yr Adran Aelodaeth os gwelwch yn dda ar 01558 667118 neu jane.down@gardenofwales.org.uk

Parti Pobi’r Ardd

Yn dilyn y newyddion bod Piers wedi cael ei ddewis i fynd ar y daith gasglu hadau mawreddog hon, bydd gwirfoddolwyr a staff Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn cynnal Parti Pobi’r Ardd arbennig gyda gwerthiant o gacennau yn yr Ardd ar Ddydd Mawrth 31 o fis Hydref, er mwyn helpu i godi arian ar gyfer Piers.

Bydd y Gwerthiant o Gacennau yn cael ei gynnal yn Y Tŷ Gwydr Mawr o 10yb ymlaen, felly dewch i’n cefnogi os gwelwch yn dda.

 

Gŵyl y Gaeaf

Does ddim llawer i’w aros tan ddigwyddiad ‘Gŵyl y Gaeaf‘ arbennig yr Ardd.

Dewch i’n ‘Gardd Gyda’r Nos’ a chewch fwynhau:

  • Sioe goleuadau ysblennydd
  • Gwdihŵ yn y gwyll
  • Gwin cynnes a mins-pei am ddim
  • Bar, barbeciw, roliau twrci, siwgr candi ac amryw o ddanteithion Nadoligaidd
  • Hwyl a sbri a cherddoriaeth

Mae yna fynediad arbennig o’r 8fed i’r 17eg o fis Rhagfyr, rhwng 4-7yh: £6 i oedolion, £3 i blant, aelodau am ddim.