27 Medi 2017

Cylchlythyr yr Ardd – Medi 27

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Croeso i gylchlythyr diweddara’r Ardd, os hoffech ei dderbyn yn syth i’ch cyfeiriad e-bost, cofrestrwch yma.

Gweler y cylchlythyr llawn yma.

Y Sealed Knot yn yr Ardd

Mae hanes anhygoel Neuadd Middleton yn dod yn ôl i fyw yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, diolch i’r arbenigwyr ail-greu byd-enwog, y Sealed Knot.

Dewch i weld milwyr Syr Henry Vaughan yn Sir Gaerfyrddin dros benwythnos Medi 30ain a Hydref 1af, er mwyn dod â hanes y rhyfel cartref yng Nghymru i fyw.
Y flwyddyn yw 1642 ac mae’r wlad mewn rhyfel sifil sy’n cynnwys y Seneddwyr (Pennau Mawr) dan arweiniad Oliver Cromwell a’r Brenhinwyr (Cafaliriaid) dan arweiniad y Brenin.

Hyd at hyn, mae De Cymru wedi bod ar ochr y Brenhinwyr ond bu gan lawer o dirfeddianwyr lleol gydymdeimlad tuag at achos y Seneddwyr a gellid eu hannog i newid ochr.

Mae Henry Middleton, mab a nai dau o sylfaenwyr Cwmni Dwyrain India, cartref yn Neuadd Middleton ar yr ystâd a grëwyd gan gyfoeth newydd ei deulu.  Mae Henry yn fasnachwr, tirfeddiannwr, ynad ac Uchel-Siryf Sir Gaerfyrddin, ond mae hefyd yn ‘arian newydd’ a’r cwestiwn hanfodol yw: pa ochr y mae arno?

Bydd amrywiaeth o gymeriadau yn helpu i ddod â’r cyfnod diddorol hwn yn ein hanes i fywyd, a chaiff ymwelwyr y cyfle i gael gwir brofiad o fywyd yn y 17eg ganrif.  Bydd actorion mewn gwisg wrth law i ddod â hanesion i chi o fywydau pobl leol, a’u syniadau a’u teimladau am y Rhyfel Cartref, a oedd yn rhwygo’r wlad ar wahân.  Gwyliwch filwyr lleol yn ymarfer eu sgiliau yn uniongyrchol.

Bydd ymwelwyr hefyd yn cael cyfle i ddarganfod pa fywyd yr oedd plant yn eu hoffi yn ystod y cyfnod hwn, a gall pobl ifainc roi cynnig ar gemau a theganau traddodiadol.  Bydd llawer i’r weld a’i wneud i’r teulu cyfan.

Mae mynediad i’r Ardd yn £10.50 (gan gynnwys Cymorth Rhodd) i oedolion a £4.95 i blant dros bum mlwydd oed.  Mae mynediad AM DDIM i aelodau’r Ardd a pharcio am ddim i bawb.

Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad hwn, neu unrhyw ddigwyddiad arall, ffoniwch 01558 667149 neu e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk

Dysgwch mwy am hanes hynod o ddiddorol yr Ardd yma.

 

Mae’r hydref wedi cyrraedd!

Mi oedd hi’n gyhydnos yr hydref yr wythnos diwethaf, ac mae’r Ardd yn le hyfryd i ymweld yn ystod y tymor hwn.

Edrychwn ymlaen at gerdded ymhlith lliwiau hyfryd yr hydref yma!

Casglwch gopi o Lwybr Lliwiau’r Hydref o’r Porthdy wrth i chi ymweld, er mwyn dysgu mwy am yr amrywiaeth eang o goed sy’n edrych yn hyfryd yn yr hydref.

 

Ffair Hen Bethau

Bydd yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn lleoliad unwaith eto am Benwythnos Hen Bethau, ar y 7fed a’r 8fed o fis Hydref.

Bydd hen bethau, pethau casgladwy, retro a hen ffasiwn yn cymryd i’r llwyfan ymhlith y blodau prin ac sydd mewn peryg yma, a fydd mynediad ond yn £4 y person dros y penwythnos arbennig hwn.

Aelodau, Dewch â Ffrind – Am Ddim!

Mis Medi yw’r mis y gall aelodau dod â ffrind am ddim i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru – ac ond ychydig ddiwrnodau sy’n weddill i fanteisio ar y cynnig arbennig hwn.

Bydd eich cerdyn aelodaeth yn caniatáu mynediad i un person ychwanegol – bob dydd o fis Medi.

Ac mae digon i’w weld a’i wneud yn ystod y mis arbennig hwn.

Am fwy o wybodaeth ar sut i ddod yn aelod o’r Ardd Fotaneg Genedlaethol ffoniwch Jane ar 01558 667118 neu e-bostiwch membership@gardenofwales.org.uk

 

Y Ganolfan Adar Ysglyfaethus Prydeinig

Mae yna brofiadau anhygoel i’w chael BOB dydd yn atyniad newydd sbon yr Ardd Fotaneg Genedlaethol – Y Ganolfan Adar Ysglyfaethus Prydeinig – gydag arddangosfa hedfan dyddiol am 2:30yp!

Gallwch fwynhau arddangosfeydd hedfan gan Gudyll Bach, Barcudiaid Coch, Tylluan Wen a llawer mwy!

 

Teithiau Treftadaeth

Ar Ddydd Mercher cyntaf a Dydd Gwener olaf pob mis, o fis Hydref i fis Mawrth, dewch i ddysgu mwy am hanes hynod o ddiddorol yr Ardd.  Gan ddechrau am 2yp o Fynedfa’r Gorllewin y Tŷ Gwydr Mawr.

Mae’r tir yn anwastad a gall fod yn fwdlyd; gwisgwch esgidiau cadarn os gwelwch yn dda.

Mae Dydd Mercher Mwdlyd wedi dychwelyd!

Pob Dydd Mercher yn ystod tymor yr ysgol, mae yna awr o weithgaredd hwyliog yn yr awyr iach i’r plant lleia a’u gofalwyr!  Gan ddechrau am 11yb o’r Porthdy.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Adran Addysg os gwelwch yn dda – 01558 667149.