Croeso i gylchlythyr diweddara’r Ardd, os hoffech ei dderbyn yn syth i’ch cyfeiriad e-bost, cofrestrwch yma.
Gweler y cylchlythyr llawn yma.
–
Gŵyl Wyddoniaeth, Byd Natur a Chomedi
Cynhelir Gŵyl Wyddoniaeth, Byd Natur a Chomedi gyntaf y byd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar 16-17 o Fedi.
Mae llu o enwogion yn cymryd rhan yn y penwythnos arbennig hwn o ddysgu a chwerthin, gan gynnwys:
Y ffisegydd damcaniaethol, awdur a darlledwr Jim Al-Khalili; y digrifwr aml-wobrwyig a’n bartner i Brian Cox, Robin Ince, genetegydd a anwyd yng Nghymru’r Athro Steve Jones, y gwyddonydd niwrowyddoniaeth a’r digrifwr yr Athrawes Sophie Scott – sydd newydd ei ddewis i roi Darlithoedd Nadolig y Gymdeithas Frenhinol 2017.
Bydd yna hefyd chwilota am ffwng, teithiau cerdded, sgyrsiau, adrodd straeon, rocedi, cemeg a llawer o weithgareddau hwyl i’r teulu.
Gwelwch y rhestr lawn o berfformwyr yr ŵyl yma.
Cymerwch olwg ar amserlen yr ŵyl, er mwyn i chi beidio â cholli’ch hoff perfformwr:
Dydd Sadwrn Medi 16:
Y Babell Fawr
12 canol dydd – Jim Al Khalili
1.30yp – Robin Ince
3yp – Steve Jones
4.30 – Sophie Scott
Ystafell Paxton, Tŷ Principality
12 canol dydd – Helen Arney
1.30yp – Matt Parker
3yp – AF Harrold
4.30yp – Hugh Warwick
12 canol dydd – Joanna Neary
1.30yp – Brenna Hassett
3yp – Will Ashon
4.30 – Penderyn
Bydd Richard Osmond yn chwilota o gwmpas yr Ardd a’n perfformio ei gerddi am 3yp.
Dydd Sul Medi 17
Y Babell Fawr
11.30yb – Helen Arney
1yp – Steve Jones
2.30yp – Sophie Scott
4yp – Robin Ince
Ystafell Paxton, Tŷ Principality
11:30yb – Hugh Warwick
1yp – Matt Parker
2.30yp – AF Harrold
11.30yb – Brenna Hasset
1yp – Will Ashon
2.30yp – Penderyn
Bydd Richard Osmond yn chwilota o gwmpas yr Ardd a’n perfformio ei gerddi am 2yp.
Noddir yr ŵyl gyntaf sy’n cyfuno Gwyddoniaeth, Byd Natur a Chomedi gan Gastell Howell.
Fforwm 50+ Sir Gaerfyrddin
Mae mynediad AM DDIM i aelodau Fforwm 50+ Sir Gaerfyrddin sy’n dangos cerdyn aelodaeth, i ddathliad arbennig ar Ddydd Gwener y 15fed o fis Medi.
Bydd gymaint i’w gweld a’u gwneud, gan gynnwys:
- Cynulleidfa gyda Caryl Parry Jones, diddanydd, cyfansoddwraig, cantores, actores ac ysgrifennydd sgriptiau.
- Ymwelwch â stondinau gwybodaeth gan dros 40 o sefydliadau.
- Cymerwch ran mewn amrywiaeth eang o sesiynau rhagflas, yr amrywiaeth mwyaf amrywiol hyd yn hyn! Yn debygol o gynnwys: celf a chrefft, peintio, dawnsio, siediau dynion, teithiau cerdded tywys, gweithdai cyfrifiaduron/llechi, adweitheg, a bowlio mat byr.
- Dysgwch am ddaioni a lles. Rydym yn falch iawn o gyflwyno ein hardal cyfeillion dementia cyntaf erioed.
Gall pobl 50 oed a hŷn ymuno â’r Fforwm yn rhad ac am ddim ar y diwrnod neu drwy ffonio 01267 224692
Yr Ardd ar Bargain Hunt
Os na weloch chi’r Ardd ar ‘Bargain Hunt’ y BBC ar Ddydd Llun, gallwch wylio’r bennod ar yr iPlayer yma.
Edrychwch ar yr awyr glas hyfryd yna!
Bydd gan yr Ardd Ffair Hen Bethau arall ar y 7fed ac 8fed o fis Hydref!
Yr Ardd ar Sioe Brecwast Chris Evans
A glywsoch chi’n hadolygiad arbennig ar Sioe Brecwast Chris Evans ar BBC Radio 2 heddiw?
Gwnaeth Libby o Dalgarth, Powys, ymweld â’r Ardd ar drip ysgol, ac fe wnaeth hi fwynhau’r Tŷ Gwydr Mawr, Plas Pilipala a’r Ganolfan Adar Ysglyfaethus Prydeinig yn fawr iawn!
Gallwch glywed hi yma, mae Libby’n siarad am awr yn union i mewn i’r rhaglen.
Cerdded Nordig yn yr Ardd
Pob prynhawn Dydd Llun gan ddechrau ar 11eg o fis Medi: dysgwch gerdded Nordig ar gwrs pedair wythnos.
Ewch i’r afael â’r dechneg hon o gerdded i’ch helpu i gyrraedd eich amcanion iechyd a ffitrwydd personol. Mae pob sesiwn yn ychwanegu ‘gêr’ arall ac yn eich helpu i ddeall sut i ennill gyriad, cynyddu’n raddol a dysgu sut i gerdded Nordig am ffitrwydd, colli pwysau neu am hwyl.
Mae yna bedwar sesiwn un awr o hyd mewn grŵp hamddenol sy’n addas ar gyfer pob lefel. Mae’r sesiynau blas yn dechrau am 12:30yp. Mae yna Daith Gerdded Hamddenol er Lles am 1:45yp.
Mae Teithiau Cerdded Antur reolaidd yn ffordd dda o fod yn weithgar yn yr awyr agored ac i fwynhau Cerdded Nordig mewn lleoliadau syfrdanol gyda grŵp gallu cymysg. Mae’r dosbarthiadau hyn i gyd yn gorffen yn y caffi.
I’r rhai sydd â phryderon ynglŷn â phellter, cyflymder neu eu hiechyd, mae ein Teithiau Lles yn ffordd ddiogel iawn o gadw’n heini. Ni fydd y teithiau cerdded yn mynd ymhell o’r fynedfa, a byddant yn cynnwys ymarferion sy’n helpu gyda hyblygrwydd, cydbwysedd a chryfder wrth ddefnyddio polion i wella ffitrwydd cyffredinol a chynyddu symudedd ar y cyd.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Becki o Pilates in the Nordig os gwelwch yn dda, ar 07502 215827 neu pilatesinthenordic@gmail.com neu ewch i www.pilatesinthenordic.com
Y Ganolfan Adar Ysglyfaethus Prydeinig
Mae yna brofiadau anhygoel i’w chael BOB dydd yn atyniad newydd sbon yr Ardd Fotaneg Genedlaethol – Y Ganolfan Adar Ysglyfaethus Prydeinig – gydag arddangosfa hedfan dyddiol am 2:30yp!
Gallwch fwynhau arddangosfeydd hedfan gan Gudyll Bach, Barcudiaid Coch, Tylluan Wen a llawer mwy!