Croeso i gylchlythyr diweddara’r Ardd, os hoffech ei dderbyn yn syth i’ch cyfeiriad e-bost, cofrestrwch yma.
Gweler y cylchlythyr llawn yma.
–
Gŵyl Tegeirianau
Oes angen cymorth arnoch chi gyda’ch tegeirianau? Os oes, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yw’r lle i fynd ar Ddydd Sadwrn a Dydd Sul, Medi 2-3.
Yn y 10fed Gŵyl Tegeirianau blynyddol yn yr atyniad, wedi’i lleoli yn Sir Gaerfyrddin, bydd yna sgyrsiau ac awgrymiadau i bawb, o ddechreuwyr i arbenigwyr; bydd Archie Smith, glaslanc sy’n tyfu tegeirianau yn rhoi sgwrs o’r enw ‘Bulbophyllum – caru neu’n casáu?’; bydd yna arddangosiad o ailosod a mowntio; a ‘Sut i greu coeden ardyfwr tegeirian eich hun’.
Wedi’i drefnu gan y Grŵp Astudiaethau Tegeirianau, dan gadeiryddiaeth y botanegydd, Dr Kevin Davies, mae gan yr ŵyl rywbeth i bawb.
Bydd yna ganolbwynt ar sbesimenau prin ac anarferol ym Mhabell Fawr yr Ardd, gydag arddangosfa syfrdanol o flodau gan dyfwyr o bob cwr o’r DU, ynghyd â chelf fotanegol, gwerthwyr llyfrau arbenigol, planhigion cigysol a thegeirianau ar werth gan feithrinfeydd a masnachwyr poblogaidd.
Bydd yna hefyd y cyfle i weld amrywiaeth o blanhigion o dan ficrosgop, ac i ddarganfod mewn manylder beth sy’n gwneud tegeirianau mor ddiddorol.
Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad hwn, gan gynnwys amserlwn am y ddau ddiwrnod o sgyrsiau ac arddangosfeydd, ewch i wefan yr Ardd https://garddfotaneg.cymru/, ffoniwch 01558 667149 neu e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk
Mae mynediad i’r Ardd yn £10.50 (gan gynnwys Cymorth Rhodd) i oedolion a £4.95 i blant dros bum mlwydd oed. Mae mynediad AM DDIM i aelodau’r Ardd a pharcio am ddim i bawb.
Gwyliau’r Haf
Bellach, dim ond ychydig o ddyddiau sy’n weddill o wyliau haf yr ysgolion, ac rydym wedi cael gymaint o hwyl yma yn yr Ardd, gyda gweithgareddau i’r teulu BOB dydd ohonynt.
Mae yna ychydig o ddiwrnodau ar ôl i’w fwynhau, yn enwedig wrth i ni orffen y gwyliau gyda Gemau Olympaidd Llysiau’r Ardd Fotaneg boblogaidd.
Caiff teuluoedd eu herio unwaith eto gan ddigwyddiadau megis gwaywffon riwbob, pytio’r swedsen, taflu tatws ac welingtons. Y mwyaf cyflym, uwch, a chryfach yr ydych, y mwyaf tebygol y byddwch chi i ennill un o dorchau enillwyr yr Ardd.
Peidiwch ag anghofio am y ddrysfa wellt, sorbio dŵr a’n maes chwarae antur!
Diwrnod Hwyl i’r Teulu Menter Cwm Gwendraeth
Diwrnod arbennig yn llawn sbort a sbri i bawb yn y teulu, wedi ei drefnu ganFenter Cwm Gwendraeth, ar Ddydd Sadwrn yr 2ail o fis Medi.
Rhaid i docynnau cael eu harchebu o flaen llaw o’r Fenter – £5 i oedolion, £3 i blant dan 16 mlwydd oed – ffoniwch 01269 871600 os gwelwch yn dda.
Aelodau, Dewch â Ffrind – Am Ddim
Cofiwch mai Mis Medi yw’r mis y gall aelodau dod â ffrind am ddim i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Trwy gydol y mis, bydd eich cerdyn aelodaeth yn caniatáu mynediad i un person ychwanegol – bob dydd o fis Medi.
Ac mae digon i’w weld a’i wneud yn ystod y mis arbennig hwn.
Mae’r 10fed Gŵyl Tegeirianau blynyddol (2ail a 3ydd); Teithiau Tywys o’r Tŷ Gwydr Mawr gyda’n tywysydd gwirfoddol, Derek Caldwell, am 11yb, 12:30 a 2yp – bob Dydd Mawrth; ar y 9fed a’r 10fed, bydd y Gymdeithas Lysiau Cenedlaethol yn cynnal ei Phencampwriaeth Cymru, a Grŵp De Cymru o’r Gymdeithas Eurflodau Cenedlaethol yn cynnal ei Sioe Eurflodau Blynyddol; a fydd gŵyl Wyddoniaeth, Byd Natur a Chomedi cyntaf y byd ar y 16eg a’r 17eg.
Am fwy o wybodaeth ar sut i ddod yn aelod o’r Ardd Fotaneg Genedlaethol ffoniwch Jane ar 01558 667118 neu e-bostiwch membership@gardenofwales.org.uk
Y Ganolfan Adar Ysglyfaethus Prydeinig
Mae yna brofiadau anhygoel i’w chael BOB dydd yn atyniad newydd sbon yr Ardd Fotaneg Genedlaethol – Y Ganolfan Adar Ysglyfaethus Prydeinig – gydag arddangosfeydd hedfan dyddiol am 11:30yb a 2:30yp!
Mae yna dâl ychwanegol o £3 i’r Ganolfan, a gallwch fwynhau arddangosfeydd hedfan gan Gudyll Bach, Barcudiaid Coch, ac Angus, yr Eryr Môr Torwyn!
Mis Medi – Beth Sydd Ymlaen
Wrth i fis Awst ddod i ben, mae’n amser i edrych ymlaen at y nifer o ddigwyddiadau arbennig a drefnwyd yma yn yr Ardd yn ystod mis Medi…
Mae’n Ddiwrnod i Chi a’r Ci BOB Dydd Llun!
Gweithgareddau i’r teulu BOB dydd o wyliau’r haf – hyd at y 3ydd o Fedi!
Dewch i ymweld â’r pilipalod prydferth, lliwgar a throfannol ym Mhlas Pilipala
Arddangosfeydd hedfan dyddiol gan Y Ganolfan Adar Ysglyfaethus Prydeinig – Mynediad yn £3
Aelodau, Dewch â Ffrind – Am Ddim – Bob dydd ym Mis Medi
Medi 1
Taith Tywys Adfer y Parcdir
Cyfle i ddysgu mwy am barcdir ysblennydd Syr William Paxton a chlywed y diweddaraf am ein prosiect i Adfer Parcdir Godidog.
2yp o Fynedfa’r Gorllewin y Tŷ Gwydr Mawr
Medi 2
Clwb Archaeolegwyr Ifainc – CAI yn yr Ardd
Croeso i blant 8-16 mlwydd oed ymuno â’r clwb er mwyn dysgu am gloddio ac am hanes yr Ardd
Medi 2
Diwrnod Hwyl i’r Teulu Menter Cwm Gwendraeth
Diwrnod arbennig yn llawn sbort a sbri i bawb yn y teulu
Tocynnau o flaen llaw o’r Fenter – £5 o oedolion, £3 i blant o dan 16 mlwydd oed – 01269 871600
Medi 2-3
Gŵyl Tegeirianau
Sgyrsiau a chyngor, i ddechreuwyr i arbenigwyr
Medi 4-8
Gwirfoddoli yn y Gromgell
Dyma drysor hanesyddol ar ymyl yr Ardd – hoffech chi helpu clirio a recordio manylion y safle?
I archebu: louise.austin@gardenofwales.org.uk neu 01558 667178
Medi 5
Teithiau tywys o’r Tŷ Gwydr Mawr am 11yb, 12:30yp & 2yp
Medi 6
Taith Hanes yr Ardd
Dewch i ddysgu mwy am hanes hynod o ddiddorol yr Ardd
2yp o Fynedfa’r Gorllewin y Tŷ Gwydr Mawr
Medi 6
Mercher Mwdlyd
Gweithgareddau i chi a’ch plant dan oed ysgol!
1 awr am 11yb o’r Porthdy
Medi 7
Ffermio & Bywyd Gwyllt: Ddoe & Heddiw
Taith tywys am 12 canol dydd o Fynedfa’r Gorllewin y Tŷ Gwydr Mawr
Medi 8
Jumanji Dan Y Sêr
Profiad sinema awyr agored i’r teulu gyda’r clasur, Jumanji!
Tocynnau £12 i oedolion, £8 i blant
Medi 8
Taith Tywys Adfer y Parcdir
Cyfle i ddysgu mwy am barcdir ysblennydd Syr William Paxton a chlywed y diweddaraf am ein prosiect i Adfer Parcdir Godidog.
2yp o Fynedfa’r Gorllewin y Tŷ Gwydr Mawr
Medi 9-10
Sioe Eurflodau, gydag Arddangosfa Dahlia a Begonia
Medi 9-10
Cymdeithas Lysiau Genedlaethol, Pencampwriaeth Cymru 2017
Arbenigwyr ar dyfu llysiau sy’n cystadlu’n frwd
Medi 12
Teithiau tywys o’r Tŷ Gwydr Mawr am 11yb, 12:30yp & 2yp
Medi 13
Taith Hanes yr Ardd
Dewch i ddysgu mwy am hanes hynod o ddiddorol yr Ardd
2yp o Fynedfa’r Gorllewin y Tŷ Gwydr Mawr
Medi 13
Mercher Mwdlyd
Gweithgareddau i chi a’ch plant dan oed ysgol!
1 awr am 11yb o’r Porthdy
Medi 14
Ymweliad y Clwb Ceir Rotary
Medi 14
Ffermio & Bywyd Gwyllt: Ddoe & Heddiw
Taith tywys am 12 canol dydd o Fynedfa’r Gorllewin y Tŷ Gwydr Mawr
Medi 15
Taith Tywys Adfer y Parcdir
Cyfle i ddysgu mwy am barcdir ysblennydd Syr William Paxton a chlywed y diweddaraf am ein prosiect i Adfer Parcdir Godidog.
2yp o Fynedfa’r Gorllewin y Tŷ Gwydr Mawr
Medi 16
Côr Valentine – Yn canu yn Cwrt y Stablau o 12:30yp-1yp
Medi 16-17
Penwythnos Gŵyl Gomedi Mis Medi
Yr ŵyl gyntaf sy’n cyfuno Gwyddoniaeth, Byd Natur a Chomedi!
Medi 19
Teithiau tywys o’r Tŷ Gwydr Mawr am 11yb, 12:30yp & 2yp
Medi 20
Taith Hanes yr Ardd
Dewch i ddysgu mwy am hanes hynod o ddiddorol yr Ardd
2yp o Fynedfa’r Gorllewin y Tŷ Gwydr Mawr
Medi 20
Mercher Mwdlyd
Gweithgareddau i chi a’ch plant dan oed ysgol!
1 awr am 11yb o’r Porthdy
Medi 21
Ffermio & Bywyd Gwyllt: Ddoe & Heddiw
Taith tywys am 12 canol dydd o Fynedfa’r Gorllewin y Tŷ Gwydr Mawr
Medi 22
Taith Tywys Adfer y Parcdir
Cyfle i ddysgu mwy am barcdir ysblennydd Syr William Paxton a chlywed y diweddaraf am ein prosiect i Adfer Parcdir Godidog.
2yp o Fynedfa’r Gorllewin y Tŷ Gwydr Mawr
Medi 23-24
Penwythnos i Chi a’r Ci
Dewch â’r ci bach i gael awyr iach yn yr Ardd
Medi 24
Clwb Perchnogion Brwd MG Abertawe – Taith Bannau Brycheiniog
Medi 26
Teithiau tywys o’r Tŷ Gwydr Mawr am 11yb, 12:30yp & 2yp
Medi 27
Taith Hanes yr Ardd
Dewch i ddysgu mwy am hanes hynod o ddiddorol yr Ardd
2yp o Fynedfa’r Gorllewin y Tŷ Gwydr Mawr
Medi 27
Mercher Mwdlyd
Gweithgareddau i chi a’ch plant dan oed ysgol!
1 awr am 11yb o’r Porthdy
Medi 28
Ffermio & Bywyd Gwyllt: Ddoe & Heddiw
Taith tywys am 12 canol dydd o Fynedfa’r Gorllewin y Tŷ Gwydr Mawr
Medi 29
Taith Tywys Adfer y Parcdir
Cyfle i ddysgu mwy am barcdir ysblennydd Syr William Paxton a chlywed y diweddaraf am ein prosiect i Adfer Parcdir Godidog.
2yp o Fynedfa’r Gorllewin y Tŷ Gwydr Mawr
Medi 30 – Hydref 1
Middleton yn y 17eg Ganrif
Daw cwmni’r Sealed Knot â hanes cythryblus y rhyfel cartref yn fyw. Dewch i weld milwyr Syr Henry Vaughan yn gwneud eu gwaith gwaedlyd (ond heb anaf y tro hwn, diolch i’r drefn).