6 Gorff 2017

Cylchlythyr yr Ardd – Gorffennaf 06

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Croeso i gylchlythyr diweddara’r Ardd, os hoffech ei dderbyn yn syth i’ch cyfeiriad e-bost, cofrestrwch yma.

Gweler y cylchlythyr llawn yma.

Gofalu am Gorff ac Enaid

Gyda phobeth o reiki i adweitheg, a grisalau i tarot, mae’r digwyddiad Gofalu am Gorff ac Enaid yn ganolbwynt ar gyfer bywyd iach a chyfannol.

Mae’r digwyddiad yn dychwelyd i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Ddydd Sadwrn a Sul Gorffennaf 8fed & 9fed, yn brolio dewis eang o driniaethau cyflenwol.

Meddai’r trefnydd, Sarah Clarke: “Rydym yn gyffrous iawn i ddychwelyd i’r Ardd, roedd digwyddiad y llynedd yn llwyddiant mawr.

“Mae’r digwyddiad Gofalu am Gorff ac Enaid yn ddigwyddiad Iechyd & Lles gyda dros 50 o stondinau yn cynnig sesiynau blasu mewn Tylino Pen Indiaidd, Adweitheg, Therapi Bowen a Shiatsu a thyliniad cerrig poeth i enwi ond ychydig.”

“Bydd yna sebonau a nwyddau harddwch a wneir gan law, anrhegion a chrefftau yn ogystal â stondinau maeth yn cynnig digon o gyngor arbenigol a bwydydd iach.  Bydd sgyrsiau am ddim yn Theatr Botanica drwy gydol y penwythnos ac arddangosiadau hwyl y gallwch ymuno, yn y cwrt a’r bwyty.”

Meddai’r cyd-drefnydd Jaynie Sayers: “Felly beth am ddod i ddysgu am rywbeth newydd a mwynhau therapi ymlacio?  Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld i gyd am benwythnos gwych.”

Am restr lawn o sgyrsiau ac arddangoswyr, ewch i http://www.natural-living-expo.co.uk/our-exhibitors.html

 

Penwythnos i Chi a’r Ci

Yn dilyn galw mawr, mae dyddiadau arbennig wedi’u neilltuo yng nghalendr perchnogion cŵn ar gyfer dod â’u cŵn gyda nhw i’r Ardd.

Ar yr 8fed a 9fed o fis Gorffennaf, gall ymwelwyr i’r Ardd Fotaneg Genedlaethol dod a’u cŵn gyda nhw am ymweliad.  Gwnewch ddiwrnod ohoni a dewch â’ch ffrind gorau am ymweliad i fwynhau 568 o erwau’r Ardd.
A pheidiwch ag anghofio, mae POB Dydd Llun yn Ddiwrnod i Chi a’r Ci yn yr Ardd, felly gallwch dod â’ch ci am ymweliad ar y 3ydd, 10fed, 17eg, 24ain a 31ain o fis Gorffennaf!

Gweler rhestr llawn o reolau y Diwrnodau i Chi a’r Ci yma.  Caiff cŵn mynediad i siop goffi Y Pot Blodyn, ger prif fynedfa’r Ardd, Bwyty’r Tymhorau, y Siop Roddion ac ar brif gyntedd y Tŷ Gwydr Mawr.

Ni chaniateir cŵn ar lwybrau mewnol y Tŷ Gwydr Mawr, tu fewn i Blas Pilipala, na’r maes chwarae i blant chwaith.

 

Cymdeithas Cerfwyr Pren Prydain

Pren-campwyr!

Mae Cymdeithas Cerfwyr Pren Prydain yn dychwelyd i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn dilyn galw mawr, a byddan nhw’n dangos ac arddangos eu cerfiadau trwy gydol yr wythnos.

Bydd y Cerfwyr Coed yn y Tŷ Gwydr Mawr rhwng Dydd Sadwrn, Gorffennaf 8fed a Dydd Sul, Gorffennaf 16eg.

“Ry’n ni bob amser yn mwynhau dod i’r Ardd,” meddai Derek Edwards, arweinydd cangen De Cymru o Gymdeithas Cerfwyr Pren Prydain.

“Byddwn ni’n arddangos ein cerfio i’r cyhoedd. Bydd dim byd ar werth. Ry’n ni’n defnyddio’r ymweliadau hyn i gynyddu diddordeb y cyhoedd yn yr hyn ry’n ni’n ei wneud, a cheisio cael aelodau newydd.”

Mae aelodau’r Gymdeithas yn cwrdd yn rheolaidd mewn digwyddiadau tebyg, er mwyn cerfio, sgwrsio, a rhoi a derbyn cyngor. Mae 30 rhanbarth gan y Gymdeithas gan gynnwys De Cymru.

 

Cyngerdd Kate Rusby

Bydd Kate Rusby, seren cerddoriaeth werin, yng nghyngerdd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Ddydd Sadwrn Gorffennaf 15fed.

Un o ddehonglwyr gorau o werin draddodiadol ac yn un o gyfansoddwyr caneuon gorau’r DU, bydd Kate ar y llwyfan yn yr Ardd o 7:30yh.
Mae hi wedi cael ei henwebu ar gyfer Gwobr Mercury, ac wedi derbyn gwobrau am Ganwr Gwerin y Flwyddyn, Perfformiwr Fyw’r Flwyddyn, Albwm Gorau a Chân Wreiddiol Gorau yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2.
Ar fin chwarter canrif o greu cerddoriaeth, gwnaeth Kate Rusby rhyddhau ei 14eg albwm stiwdio Life in a Paper Boat yn hwyr y llynedd i adolygiadau gwych.
Mae tocynnau yn £25 ac ar gael o’r Ardd yn uniongyrchol, Eventbrite, aDerricks Music yn Stryd Rhydychen, Abertawe.

 

Diwrnod Gwas y Neidr

Bywyd byr iawn sydd i’r oedolion yn eu gogoniant – dyddiau neu wythnosau’n unig, felly dewch i’w gweld!

Mae Gweision y Neidr yn ganolbwynt ar gyfer diwrnod arbennig yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Ymunwch â’r arbenigwraig, Deborah Sazer, ar gyfer taith gerdded o amgylch pyllau, llynnoedd a chorstir yr Ardd, fydd yn canolbwyntio ar weision y neidr a mursennod.

Bydd dau daith, 12-1yp a 2-3yp, y ddau yn dechrau o’r prif fynedfa i ymwelwyr.

Argymhellir gwisgo esgidiau addas, gan y gall y llwybrau fod yn anwastad a gwlyb mewn mannau.

 

Taith Adfer y Parcdir

I gael gwybod mwy am barcdir hanesyddol ac anhygoel Syr William Paxton a chael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd ein Prosiect Adfer y Parcdir Godidog, ymunwch â Louise Austin, Swyddog Treftadaeth yr Ardd, am 2yp y Dydd Gwener hwn, o Fynedfa Orllewinol y Tŷ Gwydr Mawr am daith tywys o ddwy awr o hyd.

Mae’r tir yn anwastad a gall fod yn fwdlyd; gwisgwch esgidiau cadarn.