8 Meh 2017

Cylchlythyr yr Ardd – Mehefin 08

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Croeso i gylchlythyr diweddara’r Ardd, os hoffech ei dderbyn yn syth i’ch cyfeiriad e-bost, cofrestrwch yma.

Gweler y cylchlythyr llawn yma.

Cyngerdd Kate Rusby

Bydd Kate Rusby, seren cerddoriaeth werin, yng nghyngerdd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Ddydd Sadwrn Gorffennaf 15fed.

 

Un o ddehonglwyr gorau o werin draddodiadol ac yn un o gyfansoddwyr caneuon gorau’r DU, bydd Kate ar y llwyfan yn yr Ardd o 7:30yh.
Mae hi wedi cael ei henwebu ar gyfer Gwobr Mercury, ac wedi derbyn gwobrau am Ganwr Gwerin y Flwyddyn, Perfformiwr Fyw’r Flwyddyn, Albwm Gorau a Chân Wreiddiol Gorau yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2.
Ar fin chwarter canrif o greu cerddoriaeth, gwnaeth Kate Rusby rhyddhau ei 14eg albwm stiwdio Life in a Paper Boat yn hwyr y llynedd i adolygiadau gwych.
Mae tocynnau yn £25 ac ar gael o Eventbrite.

 

Alice Through the Looking Glass

Mae’r cwmni theatr ddisglair, Quantum, yn teithio dros Gymru’r haf yma ac, ar Ddydd Sul Gorffennaf 11eg, byddant yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru gyda’i chynhyrchiad o Alice Through the Looking Glass.
Er ei fod yn ffyddlon i’r stori wreiddiol mae digonedd o ddwli ac egni yn y sioe hon i apelio at bob aelod o’r teulu, gyda chaneuon doniol i’w canu eto ar y ffordd adre.
Mae’r perfformiad yn dechrau am 2yp ac nid oes tâl ychwanegol i’r perfformiad theatr allanol.

 

Taith Blodau Gwyllt yn y Gymraeg

Ymunwch â Marie Evans am daith tywys un awr o hyd yn yr iaith Gymraeg o flodau gwyllt yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Ddydd Sadwrn y 10fed o Fehefin.

Wrth gerdded trwy un o’n gweunydd sy’n cael ei rheoli’n organig ym mis Mehefin, byddwch yn cael y cyfle i weld amrywiaeth o degeirianau gwyllt a blodau gwyllt eraill sydd wedi diflannu o lawer o’n cefn gwlad.

 

Yn gyn-athrawes yn ysgol gynradd yn Ysgol Teilo Sant yn Llandeilo, mae Marie yn aelod gweithgar o Wirfoddolwyr Cadwraeth yr Ardd.

 

Bydd y taith gerdded yn cychwyn o Fynedfa Orllewinol y Tŷ Gwydr Mawr.

 

Mae’r daith gerdded am ddim gyda mynediad i’r Ardd, ac nid oes angen archebu o flaen llaw.  Mae’r llwybrau yn cynnwys graddiannau ysgafn a gall fod yn fwdlyd mewn tywydd gwlyb.

 

Bydd y daith yn cael ei gyflwyno yn yr iaith Gymraeg ac yn addas i ddysgwyr o’r iaith.

 

Taith Adfer y Parcdir

I gael gwybod mwy am barcdir hanesyddol ac anhygoel Syr William Paxton a chael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd ein Prosiect Adfer y Parcdir Godidog, ymunwch â Louise Austin, Swyddog Treftadaeth yr Ardd, am 2yp ym Mynedfa Orllewinol y Tŷ Gwydr Mawr am daith tywys o ddwy awr o hyd, ar Ddydd Gwener Mehefin y 9fed.

 

Mae’r tir yn anwastad a gall fod yn fwdlyd; gwisgwch esgidiau cadarn.

 

Bywyd Gwyllt y Nos yn yr Ardd

Gwelwch yma ar y fideo ar YouTube.

 

Diolch i John James, un o wirfoddolwyr yr Ardd, sydd wedi golygu clipiau o’r nos hyn at ei gilydd o’i gamera bywyd gwyllt yn yr Ardd.

 

Cafodd y camera ei anelu’n bennaf at set moch daear ger Mynedfa Gorfforaethol yr Ardd.

 

Mae’r casgliad 7 munud o hyd yn dangos dyfrgwn, moch daear a chybiau, llwynog a ffesant!